Un o fanteision tanysgrifio i Offer Pleidleisio pwrpasol yw cael diweddariadau rheolaidd. Vevox yw Offer Pleidleisio pwrpasol y Brifysgol. Gallwch ei ddefnyddio i ychwanegu elfen o ryngweithio i’ch sesiynau addysgu yn ogystal â’ch cyfarfodydd.
Mae ein hadnoddau ar gyfer Vevox ar gael ar ein gweddalennau.
Dyma grynodeb o’r ychwanegiadau sydd ar gael y mis hwn:
- Mae defnyddio LaTeX i greu cwestiynau mewn Polau yn golygu y gall cydweithwyr mewn disgyblaethau megis Mathemateg, Ffiseg, a Chyfrifiadureg ddefnyddio fformiwla wrth greu eu polau. Edrychwch ar daflen gymorth LaTeX Vevox i’ch helpu i osod eich polau.
- Gallu rhannu cyfrifoldebau cymedroli ar gyfer Cwestiwn ac Ateb gyda chyflwynydd arall. Gweler eu canllaw ar gyfer rhannu bwrdd Cwestiwn ac Ateb gyda chydweithiwr neu gymedrolwr i gael rhagor o wybodaeth.
- Mae eglurhad ar gyfer atebion cywir yn eich galluogi i roi adborth ychwanegol i fyfyrwyr pan fyddant yn cael cwestiwn yn gywir. Gall hyn eich helpu i arbed amser wrth gynnal eich cwis. I gael crynodeb fideo, edrychwch ar gyfarwyddyd Vevox ar gyfer Cynnal Cwis.
- Hidlo eich ymatebion ar gymylau geiriau cyn i chi eu cyflwyno’n ôl i’r dosbarth i sicrhau nad oes unrhyw beth nad ydych eisiau iddynt ei weld. Edrychwch ar eu fideo hyfforddi ar gyfer creu cymylau geiriau.
- Gellir dangos canlyniadau o bolau fel rhifau yn ogystal â chanrannau nawr, sy’n golygu y gall cyfranogwyr gael syniad faint o bobl sydd wedi ymateb i’r cwestiynau. Erioed wedi defnyddio’r nodwedd bleidleisio yn Vevox o’r blaen? Edrychwch ar eu canllaw ar sut i greu pôl sylfaenol.
Mae Vevox yn integreiddio’n llawn â Teams, sy’n golygu y gallwch gynnal y sesiynau yn eich cyfarfodydd addysgu ar-lein a gall cyfranogwyr ymateb drwy ap Teams heb orfod rhoi cod 9 digid. Cewch ragor o wybodaeth yn ein Cwestiwn Cyffredin Sut mae defnyddio Vevox gyda Microsoft Teams.
Rydym bob amser yn chwilio am astudiaethau achos felly os ydych chi’n defnyddio meddalwedd pleidleisio Vevox yn eich sesiwn addysgu e-bostiwch ni ar lteu@aber.ac.uk a rhowch wybod i ni sut yr ydych yn ei ddefnyddio.
Gellir gweld yr holl ddiweddariadau hyn ar flog Vevox Mehefin.