Yn arolwg Mewnwelediad Digidol 2018/19 gwnaethom ofyn i fyfyrwyr roi enghreifftiau o’r offer digidol sy’n ddefnyddiol iawn ar gyfer dysgu yn eu barn hwy. Rydym am rannu rhai o’r enghreifftiau ar ein blog.
Mynediad i wasanaethau e-ddysgu craidd PA
Ymchwil
- Endnote – meddalwedd rheoli cyfeirnodau (am ddim i’w lawrlwytho i staff a myfyrwyr PA)
- Mendeley – meddalwedd rheoli cyfeirnodau a rhwydwaith ymchwilwyr
Trefnu a monitro eich cynnydd
- ApAber– gwirio eich amserlen, gweld pa gyfrifiaduron sydd ar gael ar y campws, gweld balans eich Cerdyn Aber, edrych ar amserlenni bysiau lleol a llawer mwy
- GradeHub – offer i olrhain eich cynnydd a rhagfynegi pa farciau sydd eu hangen arnoch i gael eich gradd
- Asana – rhaglen ar y we a dyfeisiau symudol a luniwyd i helpu timau i drefnu, olrhain a rheoli eu gwaith
- MyStudyLife – yn anffodus mae’r gwasanaeth hwn yn dod i ben ond rhowch gynnig ar myHomework (ap) yn lle hynny, bydd yn eich helpu i drefnu eich llwyth gwaith
Cymryd nodiadau
Astudio’n well
- Forest App – ap i’ch helpu i gadw draw o’ch ffôn clyfar a chanolbwyntio ar eich gwaith
- GetRevising – offer adolygu
- Anki – meddalwedd ar gyfer creu cardiau fflach
- Study Blue – cardiau fflach ar-lein, cymorth gyda gwaith cartref a datrysiadau gwerslyfrau
- Quora – llwyfan i ofyn cwestiynau a chysylltu â phobl sy’n cyfrannu mewnwelediad unigryw ac atebion o safon
- Memrise – llwyfan iaith sy’n defnyddio cardiau fflach fel cymhorthion cofio, ond sydd hefyd yn cynnig cynnwys a grëwyd gan ddefnyddwyr ar amrywiaeth eang o bynciau eraill
- GeoGebra – rhaglen geometreg, algebra, ystadegau a chalcwlws ryngweithiol
- KhanAcademy – cyrsiau, gwersi ac ymarferion ar-lein rhad ac am ddim
- Tomato Timers – Mae ‘Techneg Pomodoro’ yn ddull o reoli amser, mae’r dechneg yn defnyddio amserydd i dorri’r gwaith yn gyfnodau, fel rheol 25 munud o hyd, wedi’u gwahanu gan egwyliau byr