Mae Prifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan yn y prosiect Profiad Mewnwelediad Digidol sy’n ceisio ymchwilio i brofiadau ein myfyrwyr o dechnoleg. Mae’r prosiect yn seiliedig ar arolygon ar-lein a gynlluniwyd gan Jisc ac a ddefnyddir gan sefydliadau gwahanol ledled y DU.
Mae’n galluogi inni gael gwell syniad o sut mae myfyrwyr yn defnyddio technoleg a meincnodi ein canlyniadau yn erbyn sefydliadau Addysg Uwch eraill yn ein sector.
Byddem yn gwerthfawrogi eich cymorth i hyrwyddo’r Arowlg Mewnwelediad Digidol i’r holl fyfyrwyr.