Hoffem roi trosolwg i chi o’r datblygiadau diweddaraf a’r deunyddiau cymorth yr ydym wedi bod yn gweithio arnynt dros y misoedd diwethaf.
Mae’r wybodaeth hon hefyd ar gael o https://www.aber.ac.uk/cy/is/it-services/elearning/cysondeb/
Trefnu cyfarfod MS Teams o Blackboard
Dylai’r holl sesiynau addysgu a gynhelir drwy MS Teams gael eu trefnu yn Blackboard. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau ar-lein sydd wedi’u hamserlennu.
Sefydlu cyfarfod: https://faqs.aber.ac.uk/3067
Gwybodaeth i fyfyrwyr: https://faqs.aber.ac.uk/3061
Recordio seminarau a gweithgareddau Teams
Mae ystyriaethau preifatrwydd y mae angen eu cofio wrth recordio cyfarfod o fewn MS Teams.
Gwybodaeth bellach: Canllawiau ar recordio seminarau a gweithgareddau Teams
Defnyddio ystafelloedd dysgu
Mae gwybodaeth am ddefnyddio ystafelloedd dysgu yn ystod y flwyddyn academaidd hon, gan gynnwys sut i ddefnyddio MS Teams mewn sesiwn addysgu wyneb yn wyneb ar gael o Canllaw Ystafell Dysgu 2020-21.
Deunyddiau cymorth i fyfyrwyr
Mae adnoddau Cynorthwyo eich Dysgu bellach ar gael i fyfyrwyr o https://www.aber.ac.uk/cy/important-info/living-and-learning-in-aberystwyth-2020-21/students/supporting-your-learning/. Fe ychwanegwn at y dudalen yn ystod y semester wrth i bethau newid neu wrth i ni agosáu at adegau allweddol i fyfyrwyr.