Mewngofnodi
Pan ewch chi i https://blackboard.aber.ac.uk byddwch nawr yn gweld y dudalen Login@AU. Defnyddiwch eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Prifysgol Aberystwyth ar y dudalen hon i gael mynediad i Blackboard.
Yr Iaith Gymraeg
Os ydych chi wedi nodi Cymraeg fel eich dewis iaith yn ABW neu ar eich Cofnod Myfyriwr, byddwch yn gweld y fersiwn Gymraeg o Blackboard yn awtomatig. Os hoffech newid eich gosodiadau iaith gweler y Cwestiynau Cyffredin.
Ap Blackboard
Os ydych chi’n cael problemau wrth ddefnyddio ap Blackboard:
- Allgofnodwch a chau’r ap.
- Chwiliwch am Aberystwyth University a chlicio ar yr enw.
- Cewch neges yn dweud eich bod yn mewngofnodi trwy wefan PA
- Cliciwch ar Got it
- Mewngofnodwch gyda’ch enw defnyddiwr a chyfrinair PA
Diweddariadau
Bydd Blackboard yn diweddaru ar ddechrau pob mis. Mae’r diweddariadau misol hyn yn golygu na fydd angen i ni atal gwasanaeth Blackboard i wneud gwaith cynnal a chadw o hyn ymlaen.
Dyddiadau diweddaru ar gyfer semester 1:
- 5 Medi
- 3 Hydref
- 7 Tachwedd
- 5 Rhagfyr
- 2 Ionawr
Efallai y sylwch chi fod pethau wedi newid, neu fod nodweddion newydd wedi ymddangos. Byddwn yn ceisio rhoi gwybodaeth i chi am unrhyw newidiadau sylweddol trwy’r blog. Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth ar https://help.blackboard.com/Learn/Administrator/SaaS/Release_Notes
Cadw Deunydd a Chopïau Wrth Gefn
Mae Blackboard yn cadw deunydd a ddilëir am 30 diwrnod. Os ydych wedi dileu rhywbeth o Blackboard ac am ei gael yn ôl, anfonwch e-bost at elearning@aber.ac.uk cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn cynnwys deunyddiau cyrsiau, defnyddwyr a graddau.
Ymdrin ag Ymholiadau
Gan fod Blackboard yn cael ei reoli yn y cwmwl bellach, efallai y bydd angen i’r staff cymorth e-ddysgu gyfeirio eich ymholiad ymlaen at dîm cymorth canolog Blackboard. Mae’n bosib y bydd angen i ni:
- Ofyn i chi am fwy o fanylion nag arfer ynglŷn â’r broblem – efallai y bydd angen i ni ofyn i chi am fanylion y camau a gymeroch
- Ganiatáu i staff cymorth Blackboard gael mynediad i’ch modiwl
Mae hefyd yn bosib y bydd yn cymryd ychydig yn hirach i gael ateb, ond byddwn yn ceisio sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth am hynt eich ymholiad.