Beth sy’n Newydd yn Blackboard Mawrth 2026 

Yn y diweddariad ym mis Mawrth, hoffem dynnu eich sylw at y gwelliannau Blackboard canlynol:

  • Diweddariadau i Brofion:
    • Graddio dienw yn ôl cwestiwn
    • Maes teitl cwestiwn wedi’i adleoli
    • Cwestiynau amlddewis ac aml-ateb credyd rhannol
  • Golygydd Cynnwys Cynorthwyydd Dylunio DA
  • Trafodaethau wedi’u Graddio
  • Cyfyngiadau ffeil Aseiniad Blackboard

Graddio dienw yn ôl cwestiwn ym Mhrofion Blackboard

Gall hyfforddwyr nawr raddio’n ddienw yn ôl cwestiwn yn ogystal â graddio’n ddienw yn ôl myfyriwr.

Wrth raddio cyflwyniadau prawf dienw yn y wedd cwestiwn, mae’r rhyngwyneb yn disodli enw, avatar, a chyfeirnod y myfyriwr gyda dynodwr dienw ac avatar gwag. Mae’r holl swyddogaethau sydd ar gael wrth raddio cyflwyniadau nad ydynt yn ddienw yn ôl cwestiwn hefyd ar gael wrth raddio’n ddienw. Pan fydd graddio dienw wedi’i alluogi, nid yw API cysylltiedig bellach yn dychwelyd gwybodaeth adnabod. Mae hyn yn berthnasol i’r Cwestiwn Traethawd.

Maes teitl cwestiwn wedi’i adleoli

Fe wnaethom symud y maes Teitl Cwestiwn o ddechrau’r llif gwaith ysgrifennu cwestiwn i’r gwaelod, o dan y maes  Metadata cwestiwn . Mae symud y maes hwn yn sicrhau bod teitlau yn parhau i fod yn elfen metadata dewisol ac yn lleihau llwyth gwybyddol wrth greu cwestiynau.

Delwedd 1: Cyn y gwelliant hwn, roedd y maes Teitl Cwestiwn ar frig y llif gwaith ysgrifennu cwestiynau.

Delwedd 2: Nawr mae’r maes Teitl Cwestiwn ar waelod y llif gwaith ysgrifennu cwestiwn, o dan y maes  Metadata cwestiwn .

Cyfyngiadau credyd rhannol wedi’u dileu ar gyfer Cwestiynau amlddewis ac aml-ateb

Fe wnaethom ddiweddaru’r system credyd rhannol ar gyfer cwestiynau Amlddewis ac Aml-ateb i ganiatáu i hyfforddwyr neilltuo gwerthoedd credyd heb y gofyniad bod yr holl werthoedd dynodedig yn dod i swm o 100%. Mae’r newid hwn yn cefnogi strategaethau graddio mwy hyblyg ac yn galluogi hyfforddwyr i gynrychioli lefelau amrywiol o ddealltwriaeth gysyniadol heb addasu gwerthoedd i gwrdd â chyfanswm sefydlog.

Mae’r system bellach yn caniatáu i hyfforddwyr fewnbynnu unrhyw werth credyd rhannol ar gyfer pob opsiwn o fewn ystod o –100% i +100%. Mae dilysu yn parhau i rybuddio hyfforddwyr os yw cyfanswm y gwerthoedd yn fwy na 100%, ond nid yw bellach yn rhwystro gosodiad y cwestiynau. Gall hyfforddwyr nawr hefyd nodi gwerthoedd credyd positif ar gyfer opsiynau nad ydynt wedi’u marcio fel yr ateb cywir. Dylai cyfanswm gwerth y credyd rhannol ar gyfer atebion cywir fod yn 100% o leiaf, a gall fod yn fwy na 100%. Mae marcio negyddol yn parhau i weithredu pan gaiff ei alluogi. Gall hyfforddwyr addasu gwerthoedd credyd yn ystod ailraddio hefyd.

Delwedd 1: Gall hyfforddwyr gael opsiynau ateb nad ydynt yn dod i swm o 100%.

Cynhyrchu Gwiriadau Gwybodaeth gyda DA

Fe wnaethom ehangu awduro â chymorth DA i gefnogi cynhyrchu Gwiriadau Gwybodaeth amlddewis o fewn Dogfennau. Mae’r gwelliant hwn yn caniatáu i hyfforddwyr greu asesiadau ffurfiannol just-in-time gan ddefnyddio cwestiynau a gynhyrchir gan DA yn seiliedig ar gynnwys eu Dogfen ac unrhyw ddeunyddiau cwrs a ddetholwyd.

Wrth fewnosod Gwiriad Gwybodaeth, cyflwynir dau opsiwn i hyfforddwyr nawr: Rhoi fy nghwestiwn neu Creu cwestiwn yn awtomatig. Mae dewis Creu cwestiwn yn awtomatig yn agor y panel  Creu Cwestiwn yn Awtomatig , sy’n addasu’r panel  Cwestiwn  presennol a ddefnyddir mewn profion a banciau cwestiynau.

Wrth ddefnyddio’r dewis Creu cwestiwn yn awtomatig , gall hyfforddwyr ddiffinio mewnbynnau cynhyrchu gyda’r meysydd canlynol:

  • Maes testun disgrifiad
  • Dewisydd i ddewis eitemau cwrs i lywio cynhyrchu
  • Llithrydd lefel cymhlethdod gydag ystod o Isel i Uchel
  • Opsiynau uwch gan gynnwys dewisydd iaith allbwn
  • Baner wybodaeth sy’n nodi: “Cynnwys a gynhyrchir yn awtomatig yw hwn ac mae angen ei wirio am gywirdeb a rhagfarn.”

Mae’r system yn cynhyrchu pedwar cwestiwn amlddewis ar y tro. Mae pob cwestiwn a gynhyrchir yn cael ei arddangos gyda botwm radio fel y gall yr hyfforddwr ddewis un cwestiwn i’w ychwanegu at y Ddogfen. Yna gall yr hyfforddwr addasu’r cwestiwn, opsiynau ateb, ac adborth ar ôl ei fewnosod. Os yw’r hyfforddwr yn agor yr opsiwn Gwirio Gwybodaeth ond nad yw’n ychwanegu cwestiwn, mae’r bloc dalfan yn parhau i fod yn wag ac yn ymddwyn yn yr un modd â blociau cynnwys gwag eraill.

Mae’r holl gwestiynau yn cael eu cynhyrchu gan ddefnyddio cynnwys testun o’r Ddogfen yn unig. Bydd ystyried cyfryngau neu ffeiliau ychwanegol yn cael eu trin fel rhan o ddiweddariad yn y dyfodol.

Delwedd 1: Gall hyfforddwyr ddewis Rhoi fy nghwestiwn neu Cynhyrchu Cwestiwn yn Awtomatig wrth greu gwiriad gwybodaeth.

Delwedd 2: Ar ôl i’r system gynhyrchu cwestiynau, mae’r hyfforddwr yn dewis pa gwestiwn i’w ychwanegu at y Ddogfen. Ar ôl ychwanegu cwestiwn, gall hyfforddwyr olygu’r cwestiwn, opsiynau cwestiwn, a gosodiadau cwestiwn.

Defnyddio’r Cynorthwyydd Dylunio DA i awgrymu cynlluniau Dogfennau

Os ydych chi’n chwilio am ffyrdd y gallwch wneud eich Dogfennau Blackboard yn fwy apelgar yn weledol, defnyddiwch y Cynorthwyydd Dylunio DA i awgrymu cynlluniau Dogfennau.

Ewch i’ch Dogfen a chlicio i olygu’r cynnwys. Yna dewiswch yr eicon Cynorthwyydd Dylunio DA:

Delwedd 1: Eicon Cynorthwyydd Dylunio DA wedi’i amlygu.

Gallwch ddarparu rhagor o wybodaeth i ddiffinio’r cynllun:

Delwedd 2: Yr opsiynau sydd ar gael yn y cynllun.

Dewiswch Defnyddio cynllun i gadw’r cynllun a awgrymir.

Ychwanegu ail ofyniad cyfranogiad a dyddiad cyflwyno mewn Trafodaethau

Gall hyfforddwyr nawr ychwanegu ail ddyddiad cyflwyno gyda gofyniad cyfranogiad ar gyfer Trafodaethau. Mae’r diweddariad hwn yn adeiladu ar welliannau diweddar ar gyfer gofynion cyfranogiad trafodaeth ac yn cyflwyno dulliau cliriach i hyfforddwyr osod disgwyliadau ar gyfer gweithgarwch trafod. Mae myfyrwyr yn cael cyfarwyddyd tryloyw ar gyfer disgwyliadau trafod, a dangosyddion cynnydd ar gyfer eu cyfranogiad.

Hyfforddwyr

Gall hyfforddwyr osod faint o negeseuon ac atebion y mae’n rhaid i fyfyrwyr eu cwblhau ar draws dau ddyddiad cyflwyno.

Rhaid dewis yr opsiwn Trafodaeth graddau  i ychwanegu dyddiadau cyflwyno a gofynion cyfranogiad. Rhowch amser a dyddiad o dan Dyddiad Cyflwyno a nodi gofynion cyfranogiad. Mae dewis Ail Ddyddiad Cyflwyno yn ychwanegu dyddiad cyflwyno arall gyda’i ofynion ei hun.

Gall hyfforddwyr wahardd negeseuon neu atebion myfyrwyr ar ôl y dyddiad cyflwyno terfynol trwy ddewis Atal gweithgaredd trafod ar ôl y dyddiad cyflwyno diwethaf.

Delwedd 1: Gall hyfforddwyr nawr ychwanegu ail ddyddiad cyflwyno ar gyfer Trafodaethau Gallant hefyd nodi nifer a math o negeseuon neu atebion y mae’n ofynnol i fyfyriwr eu gwneud.

Myfyrwyr

Pan fydd myfyrwyr yn agor trafodaeth, fe ddônt o hyd i ddau ofyniad cyfranogiad clir gyda dyddiadau cyflwyno ar wahân. Wrth iddynt bostio ac ateb, mae dangosyddion cynnydd yn diweddaru mewn amser real.

Gall myfyrwyr gwblhau gofynion mewn unrhyw drefn, ond ni fydd cyfraniadau ar ôl dyddiad cyflwyno yn cyfrif tuag at y gofyniad hwnnw. Pan fydd yr holl ofynion wedi’u bodloni, caiff y drafodaeth ei marcio fel ‘wedi’i chwblhau’ ac mae’r Olrhain Cynnydd yn diweddaru.

Delwedd 2: Mewn Trafodaeth, gall myfyriwr ddod o hyd i ddyddiadau cyflwyno yn yr adran Manylion a Gwybodaeth yn yr aseiniad trafodaeth.

Cyfyngiadau ffeil Aseiniad Blackboard

Rydym wedi cynyddu’r uchafswm maint ffeil SafeAssign a gefnogir o 10 MB i 25 MB. Mae’r gwelliant hwn yn cefnogi llifoedd gwaith academaidd modern lle mae myfyrwyr yn aml yn cyflwyno dogfennau mawr. Mae’r cynnydd o ran maint y ffeil yn berthnasol i aseiniadau a phrofion. Bydd Cyflwyno Uniongyrchol yn cael ei gynnwys mewn diweddariad yn fuan.

Os oes gennych unrhyw welliannau yr hoffech i Blackboard eu gwneud, cysylltwch â ni trwy eddysgu@aber.ac.uk.

Adnoddau ar gyfer Asesu gan Gyd-fyfyrwyr ar gael yn ein hamgylchedd dysgu rhithwir

Yn ddiweddar, fe wnaethom gynnal ein sesiwn E-ddysgu Uwch: Defnyddio Turnitin ar gyfer Asesu gan Gyd-fyfyrwyr, ac rydym yn awyddus i dynnu’ch sylw at y gwahanol adnoddau sydd ar gael at ddibenion Asesu gan Gyd-fyfyrwyr ar draws ein Llwyfan Addysg Ddigidol.

Mae gweithgareddau Asesu gan Gyd-fyfyrwyr yn cynnig nifer o fanteision i fyfyrwyr:

  • Caniatáu i fyfyrwyr fuddsoddi yn eu dysgu eu hunain, a’i reoli
  • Profiadau dysgu a rennir
  • Myfyrio ar yr hyn maent yn ei ddysgu
  • Ystyried cyfathrebu a llunio adborth
  • Datblygu sgiliau sgwrsio a chydweithio
  • Gwella’u cyflawniadau academaidd
  • Rhannu cyfrifoldeb am ddysgu
  • Datblygu sgiliau i’r gweithle yng nghyswllt llunio adborth
  • Mewn sefyllfaoedd grŵp, adnabod cyfraniadau’r cyfranogwyr
  • Adborth cyflym
  • Adeiladu cymuned ddysgu

Yn ôl Liu & Carless (2006), “mae asesu gan gyd-fyfyrwyr ac adborth gan gyd-fyfyrwyr … yn galluogi myfyrwyr i chwarae rhan weithredol wrth reoli eu dysgu eu hunain” (280). 

Os hoffech ymchwilio i’r pwnc hwn ymhellach, rydym yn argymell:

Liu, N.-F. & Carless, D. (2006) Peer feedback: the learning element of peer assessment. Teaching in higher education. [Ar-lein] 11 (3), 279–290.

Lynch, R., Mannix McNamara, P. & Seery, N. (2012) Promoting deep learning in a teacher education programme through self- and peer-assessment and feedback, European Journal of Teacher Education, 35:2, 179-197, DOI: 10.1080/02619768.2011.643396

Zhu, Q. & Carless, D. (2018) Dialogue within peer feedback processes: clarification and negotiation of meaning. Higher education research and development. [Ar-lein] 37 (4), 883–897.

Mae gennym nifer o adnoddau at ddibenion asesu gan gyd-fyfyrwyr:

Blackboard Assignment for Peer Assignments

Gallwch ychwanegu Cyfarwyddiadau at yr aseiniad – bydd y myfyriwr yn eu gweld wrth gyflwyno eu gwaith.

Llif Gwaith

  1. Crëwch Aseiniad a gosod y gosodiadau Asesu Cyd-fyfyrwyr (gweler Peer Review for Qualitative Peer Assessments)
  2. Mae’r myfyrwyr yn cyflwyno eu gwaith yn y modd arferol (gweler Gwefan Blackboard)
  3. Ar ôl i’r dyddiad a’r amser cyflwyno fynd heibio, mae’r myfyrwyr yn adolygu’r gwaith a gyflwynwyd, gweler Gwefan Blackboard
  4. Ar ôl Dyddiad Cyflwyno’r Adolygiadau gan Gyd-fyfyrwyr, mae’r staff yn cwblhau’r marcio (gweler Gwefan Blackboard)
  5. Mae’r myfyrwyr yn gweld adborth y staff, adborth eu cyd-fyfyrwyr a marc terfynol

Sylwer:

  1. Ni fydd unrhyw adolygiadau yn cael eu neilltuo i fyfyrwyr os na fydd digon o aseiniadau yn cael eu cyflwyno.
  2. Bydd cyflwyniadau hwyr yn cael eu neilltuo i fyfyrwyr. Caniateir cyflwyno’n hwyr yn awtomatig fel rhan o’r broses asesu gan gyd-fyfyrwyr.
  3. Nid yw myfyrwyr yn gweld unrhyw enwau yn rhan o’r broses adolygu. Dylech gynghori pob myfyriwr i beidio â chynnwys gwybodaeth bersonol ar eu dogfennau.
  4. Gall myfyrwyr ddarparu adborth ysgrifenedig yn y broses adolygu ond ni allant bennu marc (oni bai bod hyn wedi’i gynnwys yn y blwch testun adborth)
  5. Gallwch ychwanegu Cyfarwyddiadau at yr aseiniad – bydd y myfyriwr yn eu gweld wrth gyflwyno eu gwaith a gallant gyfeirio atynt wrth adolygu gwaith eraill. Fodd bynnag, ni allant ei ddefnyddio i farcio gwaith.
  6. Gallwch guddio adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr os ydych chi’n teimlo nad yw’r cynnwys yn briodol

Turnitin PeerMark

Llif Gwaith

  1. Crewch Aseiniad Turnitin a galluogi PeerMark
  2. Ewch yn ôl i Turnitin Assignment i osod Gosodiadau PeerMark
  3. Myfyrwyr yn cyflwyno eu gwaith trwy fan cyflwyno Turnitin
  4. Ar ôl dyddiad dechrau PeerMark, bydd myfyrwyr yn gallu gweld aseiniad myfyriwr arall a gadael adborth / sgoriau i gwestiynau
  5. Mae adborth PeerMark yn weladwy i fyfyrwyr ar unwaith
  6. Bydd angen i’r darlithydd roi marc terfynol â llaw

Canllawiau:  

Trosolwg o PeerMark: https://help.turnitin.com/feedback-studio/turnitin-website/instructor/peermark/about-peermark-assignments.htm

Creu Aseiniad PeerMark: https://help.turnitin.com/feedback-studio/turnitin-website/instructor/peermark/about-peermark-assignments.htm

Canllawiau i fyfyrwyr ar ddefnyddio PeerMark: https://help.turnitin.com/feedback-studio/turnitin-website/student/student-category.htm#peermark

Trafodaethau

Mae trafodaethau ar gael ym mhob cwrs yn Blackboard – mae’r rhain yn ffordd wych i fyfyrwyr ymwneud â’u cyd-fyfyrwyr yn anghydamserol; Gallant bostio sylwadau ac ymateb i’w cyfraniadau ei gilydd.

Llif Gwaith

  1. Yr hyfforddwr yn creu Trafodaeth
  2. Y myfyrwyr yn cyfrannu at y Drafodaeth
  3. Y myfyrwyr yn ymateb i gyfraniadau eraill yn y Drafodaeth

Am gyngor pellach ar greu trafodaethau, gweler y canllawiau Blackboard isod:

Dyddiaduron

Llif Gwaith

  1. Yr hyfforddwr yn creu Dyddiadur (preifat rhwng hyfforddwr a myfyriwr)
  2. Y myfyrwyr yn myfyrio’n wythnosol ar eu cyfraniadau i’r prosiect
  3. Mae gan yr hyfforddwr drosolwg o waith y myfyriwr ac mae’n ei fonitoro.
  4. Gellir eu defnyddio i alluogi myfyrwyr i roi syniad o’u cyfraniadau i waith grŵp trwy gydol y broses

Creu Dyddiaduron: https://help.blackboard.com/Learn/Instructor/Ultra/Interact/Journals

Canllawiau i fyfyrwyr

https://journals.sagepub.com/doi/full/10.1177/1469787416654794 – mae’r erthygl hon yn cynnwys canllawiau i fyfyrwyr. Mae’n awgrymu y dylid darparu sesiwn i fyfyrwyr ar sut i lunio adborth.

https://www.tandfonline.com/doi/full/10.1080/02602938.2019.1697424

“Er mwyn i adolygu gan gyd-fyfyrwyr yn yr ystafell ddosbarth fod yn effeithiol, mae yna dystiolaeth glir bod y broses angen strwythur, meini prawf asesu clir a hygyrch a sesiynau sgaffaldio priodol i fyfyrwyr (Mangelsdorf 1992).”

https://www.ctl.ox.ac.uk/peer-feedback – canllaw sy’n cynnwys cwestiynau defnyddiol ac awgrymiadau y gellid eu defnyddio i strwythuro adborth.

Mae adborth gan gyd-fyfyrwyr wedi cael ei ddefnyddio’n eang o fewn asesiadau grŵp, er enghraifft, fel ffordd o gadarnhau cyfranogiad myfyrwyr, ac wrth ystyried cyfraniadau i waith grŵp. Am enghraifft o daflen farcio ar gyfer grŵp, gweler y templed sampl yma o Brifysgol Carnegie Mellon.

Mae taflen Fforwm yr Academi ar Asesu gan Gyd-fyfyrwyr yn darparu rhagor o wybodaeth ac Astudiaethau Achos o Brifysgol Aberystwyth.

Beth sy’n Newydd yn Blackboard mis Mai 2025 

Yn y diweddariad ym mis Mai, rydym yn arbennig o gyffrous am Sgyrsiau DA yn awtomatig, Cyfarwyddyd Ansoddol, a Gwelliannau i’r Llyfr Graddau a Phrofion.

Newydd: Creu Sgyrsiau DA yn awtomatig gyda’r Cynorthwyydd Dylunio DA

Nôl ym mis Tachwedd fe wnaethom lansio AI Conversations.

Gall y Cynorthwyydd Dylunio DA bellach gynhyrchu sgyrsiau DA yn awtomatig. Mae AI Conversations yn sgyrsiau rhwng myfyrwyr a phersona DA.

  • Cwestiynau Socrataidd: Sgyrsiau sy’n annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol trwy gyfrwng holi parhaus
  • Chwarae rôl: Sgyrsiau sy’n caniatáu i fyfyrwyr chwarae senarios gyda’r persona DA, gan wella eu profiad dysgu.

Gall creu persona a phynciau ar gyfer sgwrs DA gymryd llawer o amser. Er mwyn symleiddio’r broses hon, gall y Cynorthwyydd Dylunio DA gynhyrchu tri awgrym ar unwaith. Gallwch ddewis yr hyn y mae’r Cynorthwyydd Dylunio DA yn ei gynhyrchu. Gallwch ddewis cynhyrchu:

  • Teitl sgwrs DA
  • Persona DA
  • Cwestiwn myfyrio

Mae’r awgrymiadau hyn yn rhoi ysbrydoliaeth ar gyfer sgwrs DA. Gall hyfforddwyr fireinio awgrymiadau’r Cynorthwyydd Dylunio DA mewn sawl ffordd:

  • Darparu cyd-destun ychwanegol
  • Addasu cymhlethdod y cwestiwn
  • Dewis cyd-destun o’r cwrs
  • Adolygu’r cwestiwn â llaw

Llun 1: Mae’r nodwedd awto-gynhyrchu bellach ar gael yn AI Conversations.

Delwedd 2: Mae sawl ffordd i addasu AI Conversations.

Rydym yn argymell eich bod yn edrych yn fanwl ar y persona DA i wirio am unrhyw ragfarnau a allai fod yno a golygu’r rhain.

Byddem wrth ein bodd yn clywed am eich profiadau o ddefnyddio AI Conversations – rhowch wybod i ni trwy eddysgu@aber.ac.uk.

Newydd: Cyfarwyddyd Ansoddol

Gall darlithwyr nawr greu a defnyddio cyfarwyddyd di-bwyntiau ar gyfer Aseiniadau Blackboard. Mae’r math hwn o gyfarwyddyd yn caniatáu i hyfforddwyr asesu gwaith myfyrwyr yn seiliedig ar feini prawf ac adborth, yn hytrach na gwerthoedd rhifiadol.

Gall hyfforddwyr ddewis No Points fel math o gyfarwyddyd wrth greu neu gynhyrchu cyfarwyddyd. Mae’r opsiwn hwn ar gael ochr yn ochr â chyfarwyddiadau canrannol a phwyntiau presennol. Gall hyfforddwyr hefyd olygu cyfarwyddiadau i newid rhwng gwahanol fathau o gyfarwyddiadau, gan gynnwys canran, ystod pwyntiau, a dim pwyntiau.

Delwedd 1: Mae’r opsiwn No Points ar gael yn y gwymplen Rubric Type

Gofynnwyd am y nodwedd hon yn ein Peilot Aseiniad Blackboard (Safe Assign).

Gwelliannau i’r Llyfr Graddau a Phrofion

Gwelliannau Hygyrchedd i’r Llyfr Graddau

Mae’r tab Markable Items yn y Llyfr Graddau bellach yn cynnwys rhyngwyneb wedi’i ailgynllunio i wella hygyrchedd a llywio ar gyfer defnyddwyr bysellfwrdd a darllenydd sgrin yn unig. Mae’r gwelliant hwn yn cefnogi profiad hygyrch i hyfforddwyr sy’n graddio gwaith myfyrwyr, gan leihau’r amser a’r ymdrech sydd eu hangen i reoli graddau myfyrwyr.

Gyda’r diweddariad hwn, mae’r tab Gradable Items yn defnyddio cynllun yn seiliedig ar dabl i wella defnyddioldeb:

  • Gall defnyddwyr darllenydd sgrin bellach glywed cyhoeddiadau pennawd a rhes, gan ganiatáu llywio llyfnach trwy gyflwyniadau myfyrwyr.
  • Gall defnyddwyr bysellfwrdd nawr symud yn effeithlon ar draws rhesi neu i lawr colofnau gan ddefnyddio bysellau saeth.

Delwedd 1: Llyfr graddau gyda’r tab Markable Items wedi’i amlygu

Newydd: Colofnau testun yn y Llyfr Graddau

Gall hyfforddwyr nawr greu colofnau testun arferol yn y Llyfr Graddau, gan roi’r gallu iddynt gofnodi gwybodaeth ar gyfer asesiad, megis cod perfformiad, aelodaeth grŵp, a gwybodaeth tiwtora.

Mae’r colofnau hyn yn caniatáu i hyfforddwyr gofnodi hyd at 32 nod. Nid yw’r golofn wedi’i chyfyngu i fewnbwn testun.

Efallai y bydd cydweithiwr eisiau defnyddio hyn i gofnodi timau goruchwylio traethawd hir neu farcwyr.

Gall hyfforddwyr:

  • Greu colofnau sy’n seiliedig ar destun drwy’r llif gwaith Add yn y wedd grid a’r dudalen Gradable Items;
  • Enwch y golofn, rheolwch welededd y myfyriwr, ac ychwanegu disgrifiad;
  • Ychwanegwch a golygwch wybodaeth testun ar gyfer myfyriwr penodol gan ddefnyddio llif gwaith Inline Edit.

Mae colofnau testun yn eithrio’r canlynol:

  • Gwerthoedd pwyntiau (wedi’u gosod yn awtomatig i 0 pwynt)
  • Dyddiad cyflwyno
  • Categorïau
  • Cyfrifiadau llyfr graddau a rhyngwynebau cyfrifo cysylltiedig

Mae cynnwys mewn colofnau sy’n seiliedig ar destun yn postio’n awtomatig ac yn cefnogi ymarferoldeb didoli o fewn gwedd grid Llyfr Graddau. Gall hyfforddwyr hefyd lawrlwytho ac uwchlwytho colofnau sy’n seiliedig ar destun gan ddefnyddio swyddogaeth uwchlwytho / lawrlwytho’r Llyfr Graddau.

Delwedd 1: Gall hyfforddwyr ddewis Add Text Item i greu colofn sy’n seiliedig ar destun.

Delwedd 2: Gall hyfforddwyr nodi enw colofn, gosod gwelededd i fyfyrwyr, a rhoi disgrifiad ar gyfer y golofn sy’n seiliedig ar destun.

Gall myfyrwyr gael mynediad at golofnau testun a gwybodaeth gysylltiedig yn eu Llyfr Graddau pan fydd y golofn wedi’i gosod i Visible to students.

Gosodiad prawf newydd: Gweld cyflwyniad unwaith

Mae opsiwn gosod canlyniadau prawf newydd, View submission one time.

Pan fydd myfyriwr yn cwblhau’r prawf, gallant adolygu eu hatebion a’u hadborth manwl, megis pa gwestiynau gafodd eu hateb yn gywir.

Delwedd 1: Allow students to view their submission one more time wedi’i amlygu:

Hyfforddwyr

I weld yr opsiwn gosodiad hwn, dewiswch Available after submission yn yr adran Assessment results o’r Assessment Settings, yna dewiswch View submission one time o’r gwymplen Customise when the submission content is visible to students. Mae’r gwymplen hon ar gael os ydych wedi dewis Allow students to view their submission yn unig.

Noder nad yw’r gosodiad hwn yn newid y gosodiadau a argymhellir ar gyfer arholiadau ar-lein.

Cyfnewid Syniadau:

Nod yr adran hon yw eich diweddaru ar gynnydd gwelliannau y gofynnwyd amdanynt ar y Gyfnewidfa Syniadau Blackboard.

Rydym yn falch o weld y Cyfarwyddyd Ansoddol wedi’i gynnwys yn y datganiad y mis hwn gan fod hon yn nodwedd y gofynnwyd amdani’n rhan o’r peilot SafeAssign.

Os oes gennych unrhyw welliannau yr hoffech i Blackboard eu gwneud, cysylltwch â ni trwy eddysgu@aber.ac.uk.