Dydd Iau 16 Rhagfyr, bydd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal ail Gynhadledd Fer yr Academi ar-lein y flwyddyn academaidd hon.
Y thema fydd ‘ Using Polling Software to Enhance Learning and Teaching Activities’.
Ers i ni gaffael Vevox eleni, rydym wedi gweld cynnydd yn y defnydd o feddalwedd pleidleisio mewn gweithgareddau dysgu ac addysgu.
Cynhelir y Gynhadledd Fer o 10:30-15:00.
Mae’n bleser gennym gadarnhau ein rhaglen:
Dr Christina Stanley – prif siaradwr (Prifysgol Caer): Polling to boost student confidence and promote inclusivity Joe Probert & Izzy Whitley: Vevox Dr Maire Gorman (Ffiseg ac Ysgol y Graddedigion): Inter & Intra-cohort bonding (and peer learning) in statistics teaching Bruce Wight (Ysgol Fusnes Aberystwyth): Heb ei gadarnhau Dr Jennifer Wood (Ieithoedd Modern) – Is there anybody out there? Using Polling Software in the Language Classroom: Breaching the void.
Gweler y rhaglen ar ein tudalennau gwe i gael crynodebau ac amserau’r sesiynau.
Gobeithio y gallwch ymuno â ni. Gallwch gofrestru i ddod i’r Gynhadledd Fer drwy glicio ar y ddolen hon.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch udda@aber.ac.uk.
Wrth i fis Rhagfyr nesáu, roeddem o’r farn y byddai’n ddefnyddiol amlinellu’r cymorth sydd ar gael ar gyfer y broses Trosglwyddo Marciau Cydrannol. Mae’r broses hon yn trosglwyddo marciau o golofnau Canolfan Raddau Blackboard i dudalen Marciau Asesu fesul Modiwl AStRA (STF080).
Mae’r offer ar gael ym mhob modiwl Blackboard a hefyd yn yr offer Marciau Cydrannol yn MyAdmin. Gall Staff Gweinyddol Adrannol weld a throsglwyddo modiwlau ar gyfer pob modiwl yn eu hadran tra bod Cydgysylltwyr Modiwlau yn gallu gweld a throsglwyddo marciau ar gyfer eu modiwlau hwy.
I gefnogi’r broses Trosglwyddo Marciau Cydrannol, cynhelir:
Cynhelir ein Fforwm Academi nesaf ar-lein ddydd Iau 2 Rhagfyr, 10yb-11.30yb. Yn y Fforwm Academi hwn, bydd cyfranogwyr yn rhannu eu profiadau a’u dulliau o gynllunio dysgu cyfunol.
Mewn ymateb i’r pandemig, bu’n rhaid i lawer ohonom addasu ein harferion addysgu’n sylweddol. I’r rhan fwyaf, roedd hyn yn dibynnu ar gynnydd yn y defnydd o dechnoleg a gweithgareddau ar-lein i fyfyrwyr ymgymryd â hwy yn eu hamser eu hunain yn anghydamserol. Mae Cynllunio Dysgu Cyfunol yn edrych ar sut y gallech ddefnyddio neu integreiddio rhyngweithiadau ar-lein wrth addysgu wyneb yn wyneb.
Bydd cyfranogwyr yn myfyrio ar eu dulliau presennol o addysgu a sut maent yn cynllunio gweithgareddau ar-lein ac wyneb yn wyneb. Byddwn yn edrych ar rai fframweithiau a fydd o gymorth wrth gynllunio ar gyfer dysgu cyfunol ac yn meddwl am strategaethau ar gyfer integreiddio addysgu ar-lein yn llwyddiannus i ryngweithiadau wyneb yn wyneb, a rhyngweithiadau wyneb yn wyneb i addysgu ar-lein.
Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.
van Dijk, E. E., van Tartwijk, J., van der Schaaf, M. F. & Kluijtmans, M. (2020), What makes an expert university teacher? A systematic review and synthesis of frameworks for teacher expertise in higher education, Educational Research Review, Volume 310
Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Gwobr Cwrs Nodedig eleni ar agor ar gyfer cyflwyniadau gyda’r dyddiad cau am 12 canol dydd ar ddydd Llun 31 Ionawr 2022.
Gan barhau â’r un broses â’r llynedd, mae gennym ddull symlach o ymdrin â’r wobr.
Gofynnir i ymgeiswyr amlinellu eu 3 arfer sy’n sefyll ar wahân o ran eu modiwl, cyn nodi pa feini prawf y mae’r modiwl yn eu bodloni. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno recordiad Panopto gan gynnwys taith o’r modiwl.
Os ydych chi’n ystyried cyflwyno ar gyfer y wobr, mae gennym hyfforddiant i ymgeiswyr ar:
Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.
Digwyddiadau a gweminarau ar-lein
9/11/2021 #CreativeHE, Homestretch: Bringing Embodied Creativity to Postgraduate Support During Covid
Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.
Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn gweithio i ailgyflwyno meicroffonau gwddf yn yr ystafelloedd dysgu.
I’r rhai sydd newydd ddod i’r sefydliad, neu a hoffai gael eu hatgoffa, mae meicroffonau gwddf yn cael eu cysylltu â’r systemau sain yn yr ystafelloedd dysgu, yn cael eu gwisgo am wddf y cyflwynydd, ac fe ellir eu defnyddio at wneud recordiadau Panopto ac ar gyfer cyfarfodydd Teams. Edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin ar sut mae defnyddio Meicroffonau Gwddf.
Gwybodaeth Iechyd a Diogelwch
Mae ailgyflwyno meicroffonau gwddf yn golygu bod angen dilyn canllawiau hylendid ychwanegol:
Mae glanhau’r dwylo yn rheolaidd yn helpu i rwystro salwch a heintiau rhag cael eu lledaenu; cofiwch olchi’ch dwylo’n rheolaidd a defnyddio’r hylif diheintio dwylo pan ddewch i mewn i’r adeiladau.
Er mwyn sicrhau cyn lleied o gyswllt â phosib, dim ond un unigolyn ddylai ddefnyddio’r meicroffon gwddf mewn sesiwn ddysgu
Dylid sychu’r meicroffon â weips sy’n gweithio’n effeithiol yn erbyn COVID-19 fel y byddwch yn ei wneud gydag offer eraill, cyn ac ar ôl i chi eu defnyddio
Er bod y meicroffon gwddf yn rhoi mwy o ryddid i’r staff i symud o gwmpas yr ystafell ddysgu, rydym yn annog y staff i gynnal pellter corfforol, sef 2 fetr o leiaf, lle y bo modd, ac i gadw at arferion hylendid dwylo da, cyn defnyddio’r meicroffon gwddf, ac wedyn (yn unol â’r hyn a nodir yn Asesiad Risg COVID Prifysgol Aberystwyth Hydref 2021)
Yn y rhan fwyaf o ystafelloedd, fe fydd y meicroffonau ar y desgiau darlithio yn aros ac fe fydd modd eu defnyddio o hyd (os bydd y staff yn aros yn agos at y ddesg). Ond mewn nifer fechan o ystafelloedd, dim ond meicroffon gwddf fydd ar gael.
Sut y bydd yr offer yn cael eu cyflwyno?
Bydd y newidiadau i’r ystafelloedd yn cael eu gwneud yn raddol, felly efallai y byddwch yn sylwi bod y meicroffonau gwddf wedi’u hailgyflwyno yn fuan. Bydd yr holl feicroffonau gwddf wedi’u gosod yn barod erbyn dechrau’r dysgu yn Semester 2.
Defnyddio’r meicroffonau gwddf yn Panopto
Gellir defnyddio’r meicroffonau gwddf wrth wneud eich recordiadau Panopto. Pan gychwynnwch Panopto, newidiwch y meicroffon i Neck Mic drwy glicio ar y ddewislen ddisgyn sydd tua’r dde i’r maes Audio yn Panopto recorder:
Defnyddio’r meicroffon gwddf mewn cyfarfodydd Teams
Gellir defnyddio’r meicroffon gwddf mewn cyfarfodydd Teams. I newid eich meicroffon yn Teams:
Dewiswch y botwm ar gyfer mwy o ddewisiadau, sef “…” :
Ac wedyn y Gosodiadau Offer / Device Settings
O dan feicroffon dewiswch Enw’r Meicroffon.
Mwy o Gymorth
Mae ein Canllawiau i’r Ystafelloedd Dysgu, 2021-22yn rhoi braslun o sut i ddefnyddio’r offer yn yr ystafelloedd dysgu. Os ydych yn cael anawsterau ag offer mewn ystafell ddysgu sydd ar yr amserlen ganolog, codwch y ffôn ac fe gewch eich cysylltu â’r gweithdy.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau (gg@aber.ac.uk).
Ers y pandemig, mae cynadleddau yn aml yn ddigwyddiadau a gynhelir ar-lein yn hytrach nag wyneb yn wyneb. Mae’r Uned Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu wedi cynnal dwy gynhadledd flynyddol dysgu ac addysgu ar-lein, yn ogystal â rhai mân gynadleddau a Fforymau Academaidd. Yn y blog-bost hwn, byddwn yn cynnig rhai awgrymiadau da i chi ar gyfer trefnu digwyddiad o’r fath.
1. Dewiswch y llwyfan iawn
Mae sawl meddalwedd fideo-gynadledda y gallech eu dewis, ond yma ym Mhrifysgol Aberystwyth y dewis diofyn a ddefnyddiwn yw Teams. Mae gennym nifer cyfyngedig o drwyddedau i Zoom, ond cedwir y rhain ar gyfer swyddogaethau na ellir eu cael yn Teams. Er enghraifft, os oes angen cyfieithu ar y pryd, neu i sesiynau lle bydd dros 250 o gynadleddwyr.
Gallwch drefnu cyfarfodydd Teams i’r sesiynau hyn trwy galendr Teams. Neu, gallwch greu safle Teams, ond bydd hyn yn eich cyfyngu i barthau .ac.uk, felly cadwch hynny mewn cof, yn enwedig os oes gennych Siaradwyr Allanol.
Rydyn ni’n hoffi rhoi ein dolenni ar we-ddalen er mwyn gallu anfon y sesiynau ymlaen yn sydyn at unrhyw un sy’n cofrestru’n hwyr. Neu, gallwch ddefnyddio dogfen Word neu e-bost sydd â’r dolenni wedi’u hymgorffori ynddynt.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai’r siaradwr gwadd cyntaf i ymuno â ni ar gyfer y Gynhadledd Fer eleni, ‘Defnyddio Meddalwedd Pleidleisio ar gyfer Gweithgareddau Dysgu ac Addysgu’, yw Dr Christina Stanley.
Teitl sesiwn Dr Stanley fydd Polling to Boost Student Confidence and Promote Inclusivity.
Mae Dr Stanley yn Uwch Ddarlithydd Ymddygiad a Lles Anifeiliaid ac yn Arweinydd Rhaglen MSc ym Mhrifysgol Caer.
Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.
4-5/11/2021 AdvanceHE, Assessment and Feedback Symposium 2021: Putting the Student at the Heart of Assessment and Feedback: Equality, Diversity and Partnership
Bunbury, S., Davies, M., Jones, M., Krajewska, A., Popoola, O., Waddington, L., & Revell, L. (2021), Contract cheating detection for markers: checklist, London and South East Academic Integrity Network