Gwasanaethau arolygon barn ar-lein a materion preifatrwydd

Os ydych chi eisoes wedi darllen Rhan Un o’r gyfres hon, byddwch yn gwybod mor ddefnyddiol yw gwasanaethau pleidleisio ar-lein at ymgysylltu’n uniongyrchol â’r myfyrwyr yn y dosbarth (os nad ydych – cymerwch olwg).

Yn ogystal â dewis offeryn sy’n addas at eich gwaith addysgu a dysgu chi, fe all fod angen hefyd ichi edrych ar Bolisi Preifatrwydd y gwasanaeth sydd o ddiddordeb ichi. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall:

  • pa ddata personol y mae’r cwmni dan sylw yn ei gasglu amdanoch;
  • pa ddata personol y gall fod rhaid i’ch myfyrwyr ei roi;
  • gwybodaeth am sut mae’ch cyflwyniadau’n cael eu storio;
  • sut a ble mae’ch data’n cael ei gadw.
https://flic.kr/p/8ouBhQ

Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau’n sicrhau bod eu Polisi Preifatrwydd yn eithaf hawdd dod o hyd iddo (ar y rhan fwyaf o wefannau roedd dolen ar waelod y tudalen hafan o dan y pennawd Preifatrwydd).

Dyma’n prif gynghorion ni ar ddefnyddio arolygon barn ar-lein:

  1. Gwelsom fod Telerau ac Amodau’r rhan fwyaf o wasanaethau yn eithaf byr a hawdd i’w deall – roedd rhai hyd yn oed yn darparu crynodeb byr o’r prif bwyntiau.
  2. Gan amlaf, nid yw’n ofynnol i’r myfyrwyr greu cyfrifon neu gofrestru ar gyfer gwasanaeth i gymryd rhan mewn gweithgaredd pleidleisio. Mae hyn yn golygu mai’r unig wybodaeth sy’n cael ei chasglu am y mwyafrif o’r myfyrwyr yw manylion y porwr neu’r ddyfais etc a ddefnyddiwyd i gysylltu â’r bleidlais. A fydd hyn ddim yn cael ei gysylltu â’u henw na’u cyfeiriad ebost.
  3. Ym mhob achos, mae angen i’r staff gofrestru gyda gwasanaeth er mwyn cael creu arolygon a’u dangos. Yn y mwyafrif o’r gwasanaethau, gallwch naill ai creu enw defnyddiwr a chyfrinair, neu gysylltu â chyfrif sydd eisoes ar gael (megis Google neu Facebook).
    1. Os byddwch yn creu’ch cyfrif eich hun, peidiwch â defnyddio’ch cyfrinair Prifysgol Aberystwyth fel cyfrinair i’r gwasanaeth pleidleisio. Dilynwch ein cynghorion i greu cyfrinair cryf ar wahân (https://faqs.aber.ac.uk/index.php?id=25)
    2. Os ydych yn defnyddio cyfrif sy’n bodoli eisoes, cofiwch y gall y data gael ei rannu rhwng y ddau wasanaeth. Bydd eich cyfrif Facebook neu Google yn cynnwys llawer o wybodaeth amdanoch, sef gwybodaeth na fyddwch am iddi gael ei rhannu o bosibl. Efallai yr hoffech edrych ar osodiadau’r cysylltiad er mwyn sicrhau eich bod yn fodlon ar lefel y data fydd yn cael ei rannu.
  4. Edrychwch ar yr hawliau sydd gennych ar eich arolygon. Mae rhai gwasanaethau’n caniatáu i ddefnyddwyr eraill bori a rhannu cyflwyniadau, felly efallai yr hoffech ystyried pa mor weledol yw eich cyflwyniadau.
  5. Ystyriwch pa drydydd partïon y bydd eich data’n cael ei rannu gyda nhw. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn dewis gwasanaeth lle mae’r data naill ai yn seiliedig yn yr UE, neu lle mae’r cwmni yn defnyddio safon Tarian Ddiogelwch yr UE-Unol Daleithiau. A gwiriwch eich dewisiadau – hoffech chi optio allan o restrau postio, hysbysebion etc?

Ar hyn o bryd, does gan Brifysgol Aberystwyth ddim trwydded safle ar gyfer gwasanaeth arolygon barn ar-lein. Felly, pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer un o’r gwasanaethau hyn byddwch yn cofrestru fel unigolyn, ac nid fel cynrychiolydd i Brifysgol Aberystwyth neu ar ei rhan.

Meddalwedd pleidleisio: Mentimeter a Poll Everywhere

Mae’r Grŵp E-ddysgu’n edrych ar sut y gellir defnyddio meddalwedd pleidleisio mewn darlithoedd a seminarau. Mae meddalwedd pleidleisio’n ffordd wych o gynyddu ymgysylltiad y dosbarth oherwydd mae’n darparu cyflwyniadau sy’n amrywio o gwestiynau amlddewis i gymylau geiriau byw. Gyda’u dyfeisiau personol (megis ffonau symudol, llechi ac ati), bydd modd i fyfyrwyr ateb cwestiynau, pleidleisio a gofyn cwestiynau, a fydd yn ymddangos ar sleidiau’r cyflwyniad. Dangosodd yr arolwg Mewnwelediad Digidol diweddar, a oruchwyliwyd gan y Gwasanaethau Gwybodaeth, bod hanner cant y cant o ddarlithoedd eisoes yn defnyddio rhyw fath o feddalwedd pleidleisio yn y dosbarth.

Dyma rai enghreifftiau o sylwadau cadarnhaol gan fyfyrwyr:

 “Darparu adborth cyflym ar ba ddarlith yr oedd arnom angen cymorth gyda hi”

“Pleidlais ar-lein, am rannau o’r pwnc yn gofyn i’r dosbarth faint oeddent yn ei ddeall. Roedd hyn yn golygu bod pobl yn gallu dweud yn union sut yr oeddent yn teimlo heb orfod siarad yn y dosbarth”

“Mae pleidleisio mewn darlithoedd yn cadw diddordeb y myfyrwyr”

“Roedd hi’n hwyl y llynedd pan wnaethon ni gwisiau ar-lein yn y ddarlith, rhyngweithio â’n gilydd, ac yna mynd dros yr atebion fesul cwestiwn ar y sgrin fawr”

“Dull o adolygu yn pennu deunydd darllen”

Mae’r Grŵp E-ddysgu wedi canfod bod Mentimeter a Poll Everywhere yn arbennig o hygyrch a dibynadwy:

  • Mae Mentimeter yn well ar gyfer darlithoedd sydd â chynulleidfaoedd mawr oherwydd nad oes cyfyngiad ar gyfranogwyr. Gyda Mentimeter gallwch greu cwisiau amlddewis, cymylau geiriau a siartiau i’ch cynulleidfa ryngweithio â hwy. Fodd bynnag, gyda’r fersiwn rhad ac am ddim dim ond dau gwestiwn a phump cwis y cewch eu creu. Nid oes cyfyngiad ar nifer y sleidiau sylfaenol.
  • Mae Poll Everywhere yn capio’r gynulleidfa ar bump ar hugain felly mae’n gweithio orau mewn seminarau a gweithdai. Mae Poll Everywhere yn darparu’r rhan fwyaf o bethau y mae Mentimeter yn ei wneud gyda’r fantais o beidio â chael cyfyngiad ar nifer y cwestiynau/actifadau.

Mae canllawiau  i greu cyflwyniadau gyda Mentimeter a Poll Everywhere ar gael ar ein tudalennau gwe.