Y 13eg Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol:   Cyhoeddi’r Rhaglen

Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r rhaglen ar gyfer 13eg Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol y Brifysgol. 

Cynhelir y gynhadledd rhwng dydd Mawrth 8 Gorffennaf a dydd Iau 10 Gorffennaf. 

Bydd dydd Mawrth 8 Gorffennaf ar-lein, gyda sesiynau wyneb yn wyneb ddydd Mercher 9 a dydd Iau 10 Gorffennaf. 

Mae ein rhaglen lawn ar gael ar ein tudalennau gwe a gallwch archebu eich lle ar-lein.  

Mae gennym nifer o siaradwyr allanol yn y gynhadledd eleni. 

Prif Siaradwr: 

Bydd Dr Neil Currant yn rhoi’r prif gyflwyniad ar Asesu Tosturiol.  Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn gweithdy dosbarth meistr a bydd cydweithwyr yn gallu cymhwyso’r egwyddorion hyn i’w sefyllfaoedd eu hunain.  Gweler ein blog am ragor o wybodaeth.  

Siaradwyr Gwadd: 

Mae gennym dri siaradwr allanol arall wedi’u trefnu.  Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y dolenni isod: 

Yn ogystal â hynny, mae gennym sesiynau gwych gan gydweithwyr sy’n dangos yr arferion addysgu arloesol sy’n digwydd yn y Brifysgol. 

Mae’r pynciau’n cynnwys:

  • Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol 
  • Dysgu ar-lein ac adeiladu cymuned 
  • Panel o fyfyrwyr yn trafod eu profiadau dysgu
  • Gwaith allanol gydag ysgolion  
  • Dylunio cwricwlwm cynhwysol  
  • Diweddariad grŵp Cymru Gyfan 
  • Gweithgareddau addysgu arloesol a diddorol  
  • Dathliad TUAAU a AUMA  

Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i gefnogi’r blaenoriaethau a’r mentrau dysgu ac addysgu ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod.  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar eddysgu@aber.ac.uk

Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld ym mis Gorffennaf.

Cyhoeddi’r Siaradwr Allanol:  Y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Yr Athro John Traxler

Mae’n bleser gennym gadarnhau ein siaradwr allanol ar gyfer y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol eleni.

Rydym eisoes wedi cyhoeddi ein prif siaradwyr, Neil Currant, a’r Athro Lee Elliot Major a Beth Brooks o Brifysgol Caerwysg, a Higher Education Partners.

Nawr, mae’r Athro John Traxler yn ymuno â ni ar gyfer trafodaeth banel arbennig ar DA Cynhyrchiol.

Bydd y sesiwn hon yn cael ei chynnal brynhawn ddydd Mawrth 8 Gorffennaf dros Teams. 

Mae John Traxler, FRSA, MBCS, AFIMA, MIET, yn Athro Dysgu Digidol. Mae ganddo Gadair UNESCO ym maes Dysgu Digidol Anffurfiol Arloesol mewn Cyd-destunau Difreintiedig a Datblygu, a Chadair y Gymanwlad Dysgu ar gyfer arloesi mewn addysg uwch.  Ef yw Cyfarwyddwr Academaidd Labordy Avallain, yn arwain ymchwil ar agweddau moesegol ac addysgegol DA addysgol.  Cyfeirir at ei bapurau tua 12,000 o weithiau ac mae Stanford yn parhau i’w restru ymhlith y 2% uchaf yn ei ddisgyblaeth.  Mae wedi ysgrifennu dros 40 o bapurau a saith llyfr, ac mae wedi darparu gwasanaeth ymgynghori i asiantaethau rhyngwladol gan gynnwys UNESCO, yr Undeb Telathrebu Rhyngwladol (ITU), y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO), Asiantaeth yr Unol Daleithiau dros Ddatblygu Rhyngwladol (USAID), Yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol (DFID), yr Undeb Ewropeaidd, Asiantaeth Cymorth a Gwaith y Cenhedloedd Unedig (UNRWA), y Cyngor Prydeinig ac UNICEF.

Roedd yn arloeswr ym maes dysgu symudol, gan ddechrau yn y 2000au gyda thechnoleg ac addysgeg ond, yn y 2010au, yn ymwneud ag effaith a chanlyniadau symudedd a chysylltedd ar gymdeithasau, diwylliannau a chymunedau, ac ar natur anfantais.  Mae ganddo ddiddordeb yn yr effaith a gaiff DA ar anfantais yn fyd-eang ac o ran yr unigolyn a dad-drefedigaethu technolegau digidol dysgu ac addysg.

Byddwn yn cyhoeddi ein rhaglen lawn yn fuan.

Mae’r cyfnod archebu ar gyfer y gynhadledd eisoes ar agor.  

Cyhoeddi’r Siaradwr Allanol: Y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol:  Higher Education Partners

Rydym yn falch iawn y bydd cydweithwyr o Higher Education Partners (HEP) yn ymuno â ni ar ddiwrnod olaf ein cynhadledd.

Bydd Kate Lindsay o HEP yn cyflwyno ac yn arwain trafodaeth bord gron yn rhan o’r gynhadledd. Ar hyn o bryd mae Kate yn Uwch Is-lywydd Gwasanaethau Academaidd yn Higher Education Partners, yn gweithio gyda Phrifysgolion y DU i gynyddu eu capasiti a’u gallu i gynllunio profiadau dysgu ar-lein o ansawdd uchel.

Cyn hynny, bu Kate yn gweithio yn y Coleg Prifysgol Rheoli Ystadau fel Pennaeth Addysg Ddigidol, gan arwain y gwaith o drawsnewid rhaglenni cwbl ar-lein. Cyn hynny roedd Kate yn Bennaeth Addysg trwy gyfrwng Technoleg / Cyfarwyddwr Gwasanaethau Academaidd ym Mhrifysgol Rhydychen. Mae gan Kate brofiad o weithio ar strategaeth addysgu, dysgu ac asesu, strategaeth addysg ddigidol, ymgynghoriaeth cynllunio dysgu, rhuglder digidol staff, cynllunio cwricwlwm, a rhaglenni arloesi TG.

 Mae’r Brifysgol wedi partneru â HEP ar y prosiect dysgu ar-lein newydd fel rhan o’r ffrwd Buddsoddi i Dyfu.

Bydd cydweithwyr mewn adrannau academaidd sy’n gweithio gyda HEP ar gyfer y gyfres gyntaf o gyrsiau yn ymuno â ni hefyd.

Byddwn yn cyhoeddi ein rhaglen lawn maes o law ond gall cydweithwyr archebu lle ar y gynhadledd.

Gweler ein negeseuon blaenorol ar y blog i weld ein siaradwyr allanol blaenorol, Neil Currant a Prifysgol Caerwysg.

Y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol:  Cyhoeddi Siaradwyr Gwadd: Yr Athro Lee Elliot Major OBE FAcSS a Beth Brooks

Yn dilyn cyhoeddi prif siaradwr ein cynhadledd, rydym yn falch o gadarnhau ein siaradwyr gwadd nesaf.

Ddydd Mawrth 8 Gorffennaf, bydd yr Athro Lee Elliot Major OBE FAcSS a Beth Brooks o Brifysgol Caerwysg yn ymuno â ni i arddangos eu gwaith arloesol ym maes symudedd cymdeithasol yn Ne Orllewin Lloegr.

Mae’r cyfnod archebu ar gyfer y gynhadledd eisoes ar agor a byddwn yn cyhoeddi’r rhestr lawn o siaradwyr maes o law.

Yr Athro Lee Elliot Major OBE FAcSS yw’r Athro Symudedd Cymdeithasol cyntaf ym Mhrydain, ac mae’n gweithio ym Mhrifysgol Caerwysg. Fel un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw’r byd ym maes symudedd cymdeithasol, mae ei waith yn ymroddedig i wella rhagolygon pobl ifanc o gefndiroedd lle bo adnoddau’n brin. Cyn hynny roedd Lee yn Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth Sutton ac yn ymddiriedolwr y Sefydliad Gwaddol Addysg. Mae’n canolbwyntio ar effaith ymchwil, gan gydweithio’n agos â Llywodraethau, llunwyr polisi yn ogystal ag ysgolion, prifysgolion a chyflogwyr ledled y byd, ac mae’n hyrwyddo ‘dull tegwch’ mewn ysgolion yn seiliedig ar yr egwyddorion a drafodir yn ei lyfr, Equity in Education.

Mae Beth Brooks yn Swyddog Gweithredol gyda Chomisiwn Symudedd Cymdeithasol De-orllewin Lloegr, lle mae’n arwain prosiectau amrywiol yn ymwneud â symudedd cymdeithasol. Cyn ymuno â’r Comisiwn, bu Beth yn gweithio ym maes Ehangu Cyfranogiad ym Mhrifysgol Caerwysg, ac fel athrawes ysgol uwchradd yn Ne Orllewin Lloegr. Mae ganddi gymhwyster TAR gyda rhagoriaeth o Brifysgol Caerwysg.

Mae eu Gwasanaeth Tiwtora dan arweiniad Prifysgolion yn fodel tiwtora cynaliadwy, cost isel, sy’n gallu tyfu yn unol â’r anghenion, ac mae’n ddull ansawdd uchel o diwtora sydd â’r potensial i drawsnewid bywydau miloedd o bobl ifanc ledled Prydain. Gan ddefnyddio rhaglenni, mae tiwtoriaid israddedig yn rhoi hwb i sgiliau allweddol disgyblion ysgol, gan ennill profiad gwaith a chredydau tuag at eu gradd, a meithrin cysylltiadau amhrisiadwy gyda disgyblion sy’n syrthio ar ei hôl hi yn y dosbarth, tra maent yn ystyried gyrfa mewn addysgu. Yn wahanol i raglenni eraill, mae’n rhad ac am ddim i ysgolion – sy’n golygu bod pawb ar eu hennill trwy’r cynllun hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler eu gwefan.

Y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Cyhoeddi’r Prif Siaradwr

Mae’n bleser gennym gadarnhau ein prif siaradwr ar gyfer y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol eleni. Mae’r cyfnod archebu ar gyfer y gynhadledd eisoes ar agor. 

Bydd Dr Neil Currant yn ymuno â ni ar gyfer prif gyflwyniad wyneb-yn-wyneb a gweithdy dosbarth meistr ar ail ddiwrnod y gynhadledd, ddydd Mercher 9 Gorffennaf.

Bydd Neil yn trafod rôl bwysig asesu tosturiol, perthyn, ac arferion asesu cynhwysol.

Yn y gweithdy, bydd cyfle i gydweithwyr fyfyrio ar eu harferion asesu eu hunain a’r ffyrdd y gallent eu hymgorffori a’u haddasu yn seiliedig ar gyflwyniad Neil. Mae’r gwaith hwn yn adeiladu ar y gwaith hanfodol sy’n cael ei wneud yn y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr. 

Gweler bywgraffiad y siaradwr a dolenni at weithiau a phrosiectau dethol isod:

Mae Dr Neil Currant yn Uwch Ddatblygwr Addysgol ym Mhrifysgol Swydd Bedford. Cyn hynny, bu’n Bennaeth Datblygu Addysgol ym Mhrifysgol Brookes Rhydychen a’r Coleg Milfeddygol Brenhinol. Mae Neil wedi bod yn cefnogi arferion addysgu, dysgu ac asesu ym maes addysg uwch ers ugain mlynedd, ac mae ganddo arbenigedd mewn cynhwysiant ac asesu.

Mae Neil wedi bod yn rhan o brosiectau ymchwil a ariennir gan JISC ar ddefnyddio technoleg dysgu, prosiect a ariennir gan AU Ymlaen ar ddinasyddiaeth fyd-eang, ymchwil sefydliadol ar fylchau dyfarnu a phrosiectau a ariennir gan ASA ar berthyn a thosturi.

Mae Neil yn adolygydd ac yn achredwr ar gyfer AU Ymlaen. Cyd-sefydlodd Neil y Rhwydwaith Asesu Tosturiol mewn Addysg Uwch, ac ar hyn o bryd mae’n ymchwilio i arferion asesu sy’n gysylltiedig â thosturi, effaith affeithiol adborth, a pheidio â defnyddio graddau.

Ymchwil perthyn – Teaching Insights journal.

Rethinking assessment? Research into the affective impact of higher education grading

Prosiect perthyn – https://www.qaa.ac.uk/membership/collaborative-enhancement-projects/assessment/belonging-through-assessment-pipelines-of-compassion

Prosiect Asesu Tosturiol – https://www.qaa.ac.uk/membership/collaborative-enhancement-projects/assessment/compassionate-assessment-in-higher-education

Byddwn yn cyhoeddi siaradwyr allanol pellach maes o law.

Galw am Gynigion

Mae ein Cais am Gynigion yn dal ar agor, ac yn cau ar 8 Ebrill. Rydym yn croesawu cynigion sy’n ymwneud â themâu’r gynhadledd, ond hefyd y rhai sy’n arddangos yr arferion addysgu rhagorol sy’n digwydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cyfnod Archebu ar agor

Mae’r cyfnod archebu ar gyfer y gynhadledd eisoes ar agor. Cwblhewch ein harolwg ar-lein i archebu eich lle.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â threfnwyr y gynhadledd ar eddysgu@aber.ac.uk

Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Gallwch Gofrestru ar gyfer y Gynhadledd nawr

Gallwch gofrestru nawr ar gyfer yr trydydd ar ddeg gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol.

Eleni bydd y gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn dwyn y thema Llwybrau Arloesol i Rymuso Dysgwyr:  Addasu, Ymroi, a Ffynnu ac fe’i cynhelir rhwng dydd Mawrth 8 a dydd Iau 10 Gorffennaf 2025.

Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd trwy lenwi’r ffurflen ar-lein. 

Galw am Gynigion: Gynhadledd Dysgu ac Addysgu 2025

Gwahoddir staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig a myfyrwyr i gyflwyno cynigion ar gyfer 13eg Cynhadledd Dysgu ac Addysgu, Dydd Mawrth 8 – Dydd Iau 10 Gorffennaf 2025.

Gallwch gyflwyno a gweld yr alwad am gynigion ar-lein.

Dyma’r thema ar gyfer y gynhadledd eleni:

Llwybrau Arloesol i Rymuso Dysgwyr:  Addasu, Ymroi, a Ffynnu

Dyma prif gangen y gynhadledd eleni:

  • Dylunio asesiadau y gellir eu haddasu
  • Ymroddiad myfyrwyr a dysgu annibynnol
  • Meithrin cymuned  
  • Technolegau i wella dysgu
  • Dysgu ar-lein

Mae croeso i staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig, a myfyrwyr gynnig sesiynau ar unrhyw bwnc sy’n berthnasol i ddysgu, yn enwedig os ydynt yn canolbwyntio ar ymgorffori a defnyddio technoleg wrth ddysgu. Mae croeso i chi gyflwyno pynciau eraill, hyd yn oed os nad ydynt yn cyd-fynd ag un o’r canghennau uchod.

Rydym yn annog cyflwynwyr i ystyried defnyddio fformatau amgen sy’n cyd-fynd â’r hyn a drafodir yn eu sesiynau. Gan hynny, ni fyddwn yn gofyn am fformat cyflwyno safonol, ond gofynnwn i chi gynnwys fformat, hyd y sesiwn ac unrhyw ofynion eraill a fo gennych wrth i chi wneud eich cynnig isod.

Gofynnwn i chi lenwi’r ffurflen hon erbyn 8 Ebrill 2025. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â’r eddygsu@aber.ac.uk.

Y 13eg Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol:  Cyhoeddi’r Thema

Rydym yn falch o gyhoeddi thema’r 13eg Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol a gynhelir rhwng 8 a 10 Gorffennaf 2025.

Y thema yw:  “Llwybrau Arloesol i Rymuso Dysgwyr:  Addasu, Ymroi, a Ffynnu”.

Bydd y gynhadledd yn cynnwys y meysydd canlynol:

  • Dylunio asesiadau y gellir eu haddasu
  • Ymroddiad myfyrwyr a dysgu annibynnol
  • Meithrin cymuned  
  • Technolegau i wella dysgu
  • Dysgu ar-lein

Bob blwyddyn, rydym yn siarad â’n grŵp rhanddeiliaid ac aelodau eraill o’r Brifysgol i benderfynu ar bynciau a fydd yn ddefnyddiol i’n cydweithwyr. 

Mae’r maes cyntaf, sef dylunio asesiadau y gellir eu haddasu, yn dwyn ynghyd ddarn o waith gan gydweithwyr yn y Gwasanaethau i Fyfyrwyr, sy’n amlygu dulliau hyblyg o ddylunio asesiadau, asesiadau â sawl fformat, a dylunio asesu dilys.

Mae ymroddiad myfyrwyr a meithrin dysgu annibynnol yn parhau i fod yn her allweddol i gydweithwyr.  Yn y maes hwn, mae gennym ddiddordeb mewn strategaethau ar gyfer meithrin annibyniaeth wrth ddysgu, ffyrdd y gellir sgaffaldio dysgu, ac ymgorffori sgiliau ar gyfer dysgu a’r gweithle i raddedigion. 

Mae ein trydydd maes, sef meithrin cymuned, yn ceisio tynnu sylw at les yn y cwricwlwm gan ystyried dulliau o weithio sydd yn fwy ystyriol o drawma, sut mae cymunedau dysgu ar-lein yn cael eu creu, a defnyddio dadansoddeg dysgu.  Mae addysgeg gynhwysol yn ganolog i’r holl themâu hyn. 

Yn y maes technolegau i wella dysgu, bydd gennym ddiddordeb i glywed am astudiaethau achos cadarnhaol ac am ffyrdd o ymgorffori DA yn yr ystafell ddosbarth, am ffyrdd uwch a rhagorol o ddefnyddio Blackboard Ultra, ac am arferion da mewn addysgu yn yr oes ddigidol. 

Mae ein maes olaf, sef dysgu ar-lein, yn cyfeirio at waith Prosiect Dysgu Aber Ar-lein mewn partneriaeth â HEP, yn pontio dysgu ar y campws i ddysgu ar-lein, a strategaethau i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn dysgu ar-lein.

Bydd yr Alwad am Gynigion yn agor yn fuan a chyfle i archebu eich lle ar gyfer y gynhadledd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â threfnwyr y gynhadledd ar eddysgu@aber.ac.uk

Cadwch y Dyddiad: Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu

Mae’n bleser gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu gyhoeddi dyddiad yr 12fed Gynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu. Cynhelir y gynhadledd o ddydd Mawrth 8 Gorffennaf hyd ddydd Iau 10 Gorffennaf 2025.

Cadwch lygad am Alwadau am Gynigion a chyhoeddi thema’r gynhadledd. Yn ôl ein harfer, byddwn yn diweddaru ein tudalennau gwe ynghylch y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn ogystal â’n blog er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi ynghylch sut mae pethau’n datblygu.