Hoffem ddiolch i’n holl gyfranwyr a’r rhai oedd yn bresennol. Roedd y sesiynau o ansawdd mor uchel.
Ar draws dau ddiwrnod wyneb yn wyneb ac un diwrnod ar-lein, clywodd y cynrychiolwyr am y datblygiadau ar gyfer Blackboard Learn Ultra, Chat GPT a Deallusrwydd Artiffisial, a dulliau creadigol o ddylunio asesiadau.
Rydym eisoes yn cynllunio ein 12fed Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol a gynhelir ym mis Medi 2024 (dyddiad i’w gadarnhau).
Gobeithiwn eich gweld mewn digwyddiad sydd i ddod.
Y newyddion mawr ers ein diweddariad diwethaf ar brosiect Blackboard Ultra yw ein bod wedi dechrau sesiynau hyfforddi adrannol. Mae wedi bod yn wych cwrdd â staff a dangos hanfodion defnyddio Ultra. Hyd yma mae 200 o bobl wedi mynychu sesiwn, ac mae gennym fwy o sesiynau wedi’u trefnu dros yr haf.
Os nad ydych yn gallu mynychu eich sesiwn hyfforddi adrannol, mae gennym nifer o rai wedi’u trefnu’n ganolog i chi ymuno â hwy.
Yn ogystal â hyn, ac i sicrhau bod gan gydweithwyr fynediad at nodweddion llawn Ultra, mae’r sesiynau canlynol wedi’u trefnu (ar gael yn Gymraeg a Saesneg):
E-ddysgu Uwch: Defnyddio Profion
E-ddysgu Uwch: Cynllunio Dewisiadau Eraill yn lle Wici
E-ddysgu Uwch: Defnyddio Trafodaethau
E-ddysgu Uwch: Defnyddio Cyfnodolion
E-ddysgu Uwch: Cynllunio Dewisiadau Eraill yn lle Blog
Rydym hefyd yn gweithio y tu ôl i’r llenni ar integreiddio ag offer eraill. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar ei gwneud hi’n haws i chi ddod o hyd i’r ffolder Panopto ar gyfer y flwyddyn academaidd gywir pan fyddwch chi’n creu recordiadau. Rydyn ni’n credu y bydd hyn yn gwneud pethau’n llawer haws pan fydd yr addysgu’n dechrau eto. Cadwch lygad allan am newyddion ar hyn.
Rydym yn edrych ymlaen at groesawu cydweithwyr o Antholeg / Blackboard a Phrifysgol Bangor i’r gynhadledd ddysgu ac addysgu flynyddol. Mae gennym ddiwrnod cyfan o ddigwyddiadau cysylltiedig ag Ultra ar 4 Gorffennaf. Os nad ydych wedi archebu eich lle yn y gynhadledd, gallwch wneud ar ein gwefan. Gweddalennau’r gynhadledd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Blackboard Ultra, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).
Ddydd Mawrth 4 Gorffennaf, bydd cydweithwyr o Blackboard yn ymuno â ni wyneb yn wyneb.
Bydd cydweithwyr yn clywed am ddatblygiadau ar gyfer y dyfodol, yn cael cyfle i weithio ar eu modiwlau Blackboard Ultra a’u gwella, a rhoi adborth i’r cwmni ar welliannau.
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’r 11eg Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol, sydd ychydig dros fis i ffwrdd, 4-6 Gorffennaf.
Diben thema’r gynhadledd eleni, Dysgu sy’n Trawsnewid: Creu Cyfleoedd i Ddysgu, yw myfyrio ar yr ymrwymiad sydd gan staff PA i wella profiad dysgu myfyrwyr.
Mae’n bleser gennym gadarnhau ein rhaglen lawn. Byddwn yn cael 2 ddiwrnod wyneb yn wyneb (dydd Mawrth 4 Gorffennaf a dydd Mercher 6 Gorffennaf) ac 1 diwrnod ar-lein (Iau 6 Gorffennaf).
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y gynhadledd, a chofiwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd drwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau mae croeso i chigysylltu â ni.
Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi ein prif anerchiadau ar gyfer y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol eleni (4-6 o fis Gorffennaf 2023).
Bydd cyd-weithwyr o Blackboard a Phrifysgol Bangor yn ymuno â ni i sicrhau ein bod wedi’n paratoi’n dda ar gyfer symud i Ultra.
Bydd cyfleoedd:
I ddysgu am fanteision symud i Ultra
I glywed am ddatblygiadau newydd cyffrous a fydd o help i wella eich addysgu a’ch cynlluniau yn y dyfodol
I glywed gan gydweithwyr o Fangor am y gwersi maen nhw wedi’u dysgu wrth symud
I gael golwg ar yr hyn y mae rhagorol yn ei olygu o ran cyrsiau Ultra
I fynd i weithdy a fydd o help i wella’ch modiwlau a sicrhau eu bod ar eu gorau ar gyfer mis Medi
I roi eich adborth ynglŷn ag Ultra i ddatblygwyr cynnyrch i’w helpu i ddiwallu ein hanghenion
Byddwn yn cyhoeddi gweddill ein rhaglen yn fuan, ond gallwch ddisgwyl sesiynau ar Ddeallusrwydd Artiffisial, Dylunio Asesu Creadigol, datblygu gwytnwch myfyrwyr.
Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld wyneb yn wyneb ar 4 a 5 o fis Gorffennaf ac ar-lein ar 6 o fis Gorffennaf.
Bydd Michael Webb o Jisc yn trafod Deallusrwydd Artiffisial yn y sesiwn Navigating the Opportunities and Challenges of AI in Education
Ers cyflwyno ChatGPT, mae ein cyd-weithwyr wedi bod yn dod o hyd i ffyrdd lle y gellid defnyddio gallu deallusrwydd artiffisial mewn Addysg Uwch law yn llaw â’r heriau sy’n codi yn ei sgil.
Nod canolfan genedlaethol Jisc ar gyfer deallusrwydd artiffisial mewn addysg drydyddol yw helpu sefydliadau i fabwysiadu Deallusrwydd Artiffisial mewn ffordd gyfrifol a moesegol. Rydym yn gweithio ar draws y sector i helpu sefydliadau i wynebu’r heriau a’r cyfleoedd a gyflwynir gan Ddeallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol. Yn y sesiwn hon byddwn yn adolygu cryfderau a gwendidau Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol, yr arferion a’r dulliau a welwn yn dod i’r amlwg, ac yn edrych ar sut mae technolegau ac arferion yn datblygu wrth i fwy a mwy o gymwysiadau Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol ymddangos.
Michael Webb yw cyfarwyddwr technoleg a dadansoddeg Jisc – asiantaeth ddigidol, data a thechnoleg y DU sy’n canolbwyntio ar addysg drydyddol, ymchwil ac arloesi. Mae’n gyd-arweinydd canolfan genedlaethol Jisc ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial mewn addysg drydyddol, ac yn cefnogi defnydd cyfrifol ac effeithiol o ddeallusrwydd artiffisial ar draws y sector addysg drydyddol. Yn ogystal â deallusrwydd artiffisial, mae wedi gweithio ar brosiectau yn ymwneud â rhyngrwyd pethau, realiti rhithwir, a dadansoddeg dysgu. Cyn ymuno â Jisc, bu Michael yn gweithio yn y sector addysg uwch, gan arwain TG a thechnoleg dysgu.
Bydd y sesiwn hon o ddiddordeb i gydweithwyr a hoffai ychwanegu Deallusrwydd Artiffisial i’w gweithgareddau addysgu a dysgu, yn ogystal â dod o hyd i ffyrdd y gellir ei ddefnyddio’n gynhyrchiol.
Gallwch gofrestru nawr ar gyfer yr unfed ar ddeg gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol. Eleni bydd y gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn dwyn y thema Dysgu sy’n Trawsnewid: Creu Cyfleoedd i Ddysgu ac fe’i cynhelir rhwng dydd Mawrth 4 a dydd Iau 6 Gorffennaf 2023.
Gwahoddir staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig a myfyrwyr i gyflwyno cynigion ar gyfer 11eg Cynhadledd Dysgu ac Addysgu, Dydd Mawrth 4 – Dydd Iau 6 Gorffennaf 2023.
Yn adlewyrchu’r ymroddiad sydd gan staff Prifysgol Aberystwyth i wella profiad dysgu eu myfyrwyr.
Dyma prif gangen y gynhadledd eleni:
Addysgu yn oes Deallusrwydd Artiffisial
Paratoi ar gyfer Blackboard Ultra
Dylunio cyffredinol ar gyfer dysgu
Mentora ar gyfer llwyddiant a hunanreoleiddio
Cyd-destunau dysgu gweithredol a dilys
Mae croeso i staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig, a myfyrwyr gynnig sesiynau ar unrhyw bwnc sy’n berthnasol i ddysgu, yn enwedig os ydynt yn canolbwyntio ar ymgorffori a defnyddio technoleg wrth ddysgu. Mae croeso i chi gyflwyno pynciau eraill, hyd yn oed os nad ydynt yn cyd-fynd ag un o’r canghennau uchod.
Rydym yn annog cyflwynwyr i ystyried defnyddio fformatau amgen sy’n cyd-fynd â’r hyn a drafodir yn eu sesiynau. Gan hynny, ni fyddwn yn gofyn am fformat cyflwyno safonol, ond gofynnwn i chi gynnwys fformat, hyd y sesiwn ac unrhyw ofynion eraill a fo gennych wrth i chi wneud eich cynnig isod.
Gofynnwn i chi lenwi’r ffurflen hon erbyn 5 Mai 2023.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Datblygu ac Addysgu am udda@aber.ac.uk.
Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi’r thema ar gyfer ein hunfed Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol ar ddeg.
Bydd y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn cael ei chynnal gyda mwy o bresenoldeb wyneb yn wyneb a rhai gweithgareddau ar-lein o ddydd Mawrth 4 hyd ddydd Iau 6 Gorffennaf.
Dyma’r thema a’r elfennau ar gyfer y gynhadledd eleni:
Dysgu sy’n Trawsnewid: Creu Cyfleoedd i Ddysgu
Addysgu yn oes Deallusrwydd Artiffisial
Paratoi ar gyfer Blackboard Ultra
Dylunio cyffredinol ar gyfer dysgu
Mentora ar gyfer llwyddiant a hunanreoleiddio
Cyd-destunau dysgu gweithredol a dilys
Cadwch lygad am ein galwad am gynigion, sydd ar ddod, ac i drefnu eich lle yn y gynhadledd.