Cynhadledd Fer: DA Cynhyrchiol, Dydd Iau 18 Rhagfyr: Cyhoeddi’r Rhaglen

Rydym yn falch iawn o gadarnhau ein rhaglen ar gyfer digwyddiad olaf y flwyddyn ddydd Iau 18 Rhagfyr.

Cynhelir ein Cynhadledd Fer ar DA Cynhyrchiol rhwng 09:30 a 15:30. Rydyn ni’n cynnal hwn fel digwyddiad hybrid. I’r rhai sydd eisiau ymuno wyneb yn wyneb, fe’i cynhelir yn Adeilad y Ganolfan Ddelweddu, VC, 0.06.

Rydym yn falch iawn o gadarnhau ein siaradwyr allanol:

Bydd James Fern a Richard Mason yn ymuno â ni i rannu’r dull 2-lôn o Gynllunio Asesiad DA Cynhyrchiol sydd wedi’i fabwysiadu ym Mhrifysgol Caerfaddon.

Gallwch ddarllen mwy am hyn ar eu tudalennau gwe: The Two-Lane Approach to GenAI Assessment Categorisation – Learning and Teaching Hub

Yn ogystal â James a Richard, mae gennym ni raglen gyffrous hefyd:

  • Bydd Hannah Dee, Amanda Clare a Clive King o’r Adran Gyfrifiadureg yn cyflwyno.
  • Bydd Emma Butler-Way, Tom Holt, Rhys Dafydd Jones, Jayesh Mukherjee, a Stephen Tooth yn ymuno â ni o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.
  • Bydd Jennifer Wood ac Alex Mangold o Ieithoedd Modern hefyd yn cyflwyno.
  • Bydd Joy Cadwallader a chydweithwyr o Cysylltiadau Academaidd hefyd yn ymuno.

I weld y rhaglen lawn a’r crynodebau, gweler ein tudalen we.

Gallwch archebu eich lle trwy glicio ar y ddolen hon.

Galw am Gynigion: Cynhadledd Fer: Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol

Ddydd Iau 18 Rhagfyr, bydd y Tîm Addysg Ddigidol yn cynnal eu digwyddiad olaf o’r flwyddyn, cynhadledd fer ar DA Cynhyrchiol.

Rydym yn galw am gynigion gan staff a myfyrwyr ar gyfer y digwyddiad hwn.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu, llenwch y ffurflen hon erbyn dydd Gwener 7 Tachwedd os gwelwch yn dda.

Mae gennym ddiddordeb mewn sesiynau sy’n ymdrin â’r themâu canlynol:

  • Ymgorffori sgiliau DA Cynhyrchiol yn y cwricwlwm 
  • DA Cynhyrchiol fel sgil cyflogadwyedd
  • Defnyddio DA Cynhyrchiol mewn asesiad
  • DA Cynhyrchiol a chynnal uniondeb academaidd
  • DA Cynhyrchiol ar gyfer gweithgareddau dysgu

Mae modd archebu’ch lle ar gyfer y digwyddiad nawr. Archebwch eich lle ar-lein.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk.