Un o’r gwelliannau newydd gwych sydd gennym yn Blackboard Ultra yw’r gallu i gynnwys dogfennau cydweithredol.
I’r rhai ohonom a wnaeth lawer o’n gwaith dysgu ar-lein yn ystod pandemig Covid, byddwch yn cofio inni glodfori manteision llwytho dogfen gydweithredol yn y sgwrs. Rydym wedi bod yn gweithio ar alluogi hyn yn ein Cyrsiau Blackboard ac rydym yn falch o ddweud bod y nodwedd hon ar gael i chi ei defnyddio yn eich cyrsiau ar gyfer 2023-24.
Mae hyn yn golygu y bydd eich myfyrwyr yn gallu cydweithio y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, ar Blackboard, yn eu hamser eu hunain. Mae 3 math o ddogfen ar gael i fyfyrwyr gydweithio arnynt:
Word
PowerPoint
Excel
Byddwn ni’n defnyddio’r dogfennau cydweithredol ar gyfer dewisiadau eraill yn lle blogiau a wicis. Ond, os ydych chi eisiau i’ch myfyrwyr lunio mapiau meddwl, creu syniadau, neu adeiladu ar sail eu nodiadau ei gilydd, edrychwch ar y dogfennau cydweithredol. Gallech hefyd eu defnyddio i gael myfyrwyr i gofrestru ar gyfer grwpiau. Gallwch ddefnyddio’r nodwedd grŵp mewn cyrsiau Ultra i gyfyngu eitem i fyfyriwr penodol neu grŵp penodol o fyfyrwyr. Hoffech chi wybod sut i wneud hynny? Edrychwch ar ganllawiau Blackboard ar Microsoft OneDrive a dogfennau cydweithredol.
Mae’r postiad blog hwn yn amlinellu’r datrysiadau y mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn gweithio arnynt ar gyfer gweithgareddau Blog. Ar ôl rhoi tro ar y datrysiadau hyn, byddwn yn gweithio ar ddarparu cyfarwyddyd i gydweithwyr.
Y Cefndir
Mae Blogiau yn offer cydweithio a ddefnyddir ar gyfer nifer o weithgareddau a asesir a gweithgareddau na chaiff eu hasesu ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Nid yw’r offer ar gael ar hyn o bryd yn Blackboard Ultra (er gwaethaf ein ceisiadau i’w ddiwygio) ac nid yw ar fap datblygu Blackboard.
Mae anargaeledd yr offer Blog wedi’i gynnwys ym mhob rhan o’r broses o wneud penderfyniadau i dynnu sylw at hyn fel risg wrth symud i Blackboard Ultra.
Mae union natur blogiau yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fyfyrio ar eu dysgu, trefnu eu meddyliau a’u syniadau’n gronolegol, a rhoi sylwadau ar negeseuon y naill a’r llall.
Er nad oes blogiau yn Ultra, mae dau ddarn o offer cyfrannu ac ymgysylltu cwbl integredig a fydd yn cynnig dewisiadau eraill: Dyddlyfrau a Thrafodaethau.
Dewis 1: Defnyddio’r offer Dyddlyfr
Er nad yw blogiau’n bodoli yn Blackboard Ultra, mae’r offer dyddlyfr yn parhau. Defnyddir dyddlyfrau mewn ffordd debyg i flogiau ond maent yn breifat rhwng tiwtoriaid cwrs a myfyrwyr. Os gall y gweithgaredd weithredu heb wneud negeseuon myfyriwr yn weladwy i bawb, rydym yn argymell defnyddio’r offer hwn.
Os oes angen elfen ryngweithiol rhwng myfyrwyr ar y gweithgaredd, rydym yn argymell defnyddio’r teclyn trafod. Yma gallwch greu edefyn, trefnu eich trafodaethau drwy ffolderi, gosod y trafodaethau i’w graddio, annog cyfranogiad myfyrwyr drwy beidio ag edrych ar yr edefyn nes bod y myfyrwyr wedi cwblhau eu postiad cychwynnol.
I gael syniad ynglŷn â sut mae trafodaethau’n gweithio, edrychwch ar hwn fideo arddangos.
Er bod yr offer bwrdd trafod wedi newid, mae ein hegwyddorion ar ddyluniad byrddau trafod ac ymgysylltiad yn aros yr un fath. Edrychwch ar ein neges flog dyluniad bwrdd trafodi gael awgrymiadau a chwestiynau i chi ofyn i’ch hunain wrth ddylunio’r gweithgaredd.
Dewis 3: Defnyddio offer blogio WordPress
Er ein bod yn argymell bod gweithgarwch y bwrdd trafod yn aros ar Blackboard er mwyn sicrhau y gall ymgysylltiad ac asesiad myfyrwyr barhau, mae yna declyn blogio arall a gefnogir gan y Brifysgol: WordPress. Os ydych chi’n meddwl mai WordPress yw’r unig ddewis i chi, rydyn ni’n argymell eich bod chi’n cysylltu â ni’n gyntaf i drafod eich gweithgaredd ac yna fe allwn ni roi cyngor pellach (eddysgu@aber.ac.uk).