Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn awyddus i gael gwybod beth mae myfyrwyr ledled Cymru yn ei feddwl am ddysgu digidol. Ac rydyn ni’n annog myfyrwyr yn Aberystwyth i gymryd rhan yn yr ymchwil honno.
Gwahoddir holl fyfyrwyr y Brifysgol i ymuno â myfyrwyr eraill drwy Gymru mewn grŵp trafod drwy Zoom. Bydd y grŵp trafod yn cynnig cyfle i chi siarad am eich profiadau dysgu digidol drwy’r flwyddyn ddiwethaf. Beth sydd wedi gweithio’n dda i chi a beth sydd ei angen arnoch nawr i ddal ati i ddysgu’n effeithiol?
I gymryd rhan (a derbyn tocyn Amazon gwerth £20) anfonwch ebost at menna.brown@swansea.ac.uk. Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael manylion llawn am y gwaith ymchwil.