Mae Prifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan yn y prosiect Profiad Mewnwelediad Digidol sy’n ceisio ymchwilio i brofiadau ein myfyrwyr o dechnoleg.
Mae’n galluogi inni gael gwell syniad o sut mae myfyrwyr yn defnyddio technoleg a meincnodi ein canlyniadau yn erbyn sefydliadau Addysg Uwch eraill yn ein sector. Yna gallwn ddefnyddio’r wybodaeth hon i wella profiadau digidol y myfyrwyr.
Yn ystod y gwanwyn eleni, cynhaliodd Prifysgol Aberystwyth arolwg cenedlaethol Jisc i ddeall profiadau digidol myfyrwyr. Cawsom ymateb gan dros 1,000 o fyfyrwyr, yn dweud wrthym am eu hagweddau tuag at dechnoleg mewn dysgu ac addysgu a’u profiadau o’r dechnoleg honno. Dyma rai o ganfyddiadau allweddol yr arolwg hwn.
Crynodeb o’r ystadegau allweddol
CWESTIWN
EIN DATA %
DATA’R DU %
DATA CYMRU %
Amgylchedd dysgu ar-lein wedi’i gynllunio’n dda
40
41
44
Cefnogaeth i ddefnyddio’ch dyfais eich hun
60
54
56
Yn gallu cael mynediad i systemau/gwasanaethau ar-lein o unrhyw le
67
68
67
Deunyddiau dysgu ar-lein wedi’u cynllunio’n dda
56
53
54
Ansawdd y dysgu ar-lein a’r dysgu digidol ar y cwrs
69
66
68
Cefnogaeth i ddysgu heb fod ar-lein/oddi ar y campws
57
51
53
Yn gallu cael gafael ar yr holl wasanaethau cymorth yr oedd arnoch eu hangen ar-lein
51
49
50
Faint o gefnogaeth a gawsoch i ddysgu ar-lein
58
61
62
Mae’r data yn ymwneud â chanran y myfyrwyr a oedd yn cytuno â’r datganiadau a nodwyd.
Dangosir hefyd y cymariaethau meincnodi.
Mae pump o’r wyth ystadegyn allweddol yn uwch ar gyfer Prifysgol Aberystwyth nag ar gyfer sefydliadau eraill yn y DU a Chymru.
Mae’r tueddiadau cyffredinol yr un fath ag ar gyfer sefydliadau eraill yn y DU a Chymru (mae’r meysydd lle cafodd PA ganlyniadau is yn rhai isel yn genedlaethol).
Chi a’ch sefyllfa ddysgu ar hyn o bryd
Technolegau Cynorthwyol
Dywedodd 17% o’r rhai a ymatebodd eu bod wedi defnyddio o leiaf un math o dechnoleg gynorthwyol.
Dywedodd 13% o’r myfyrwyr hyn ein bod wedi cynnig cefnogaeth iddynt ddefnyddio technolegau cynorthwyol.
Problemau wrth ddysgu ar-lein
Llwyfannau a gwasanaethau digidol yn eich sefydliad
Technoleg wrth ichi ddysgu
Gwella ansawdd dysgu ar-lein a dysgu digidol
Gofynnwyd i’r myfyrwyr pa un peth y dylem ei wneud i wella ansawdd y dysgu ar-lein a’r dysgu digidol. Cwestiwn testun rhydd oedd hwn, ac aethom ati i’w ddadansoddi er mwyn canfod themâu. Dyma rai o’r themâu cyffredin:
Crybwyllodd 42% welliannau i gynllun a threfn y dysgu ar-lein
Crybwyllodd 14% ddysgu ar-lein mwy difyr a rhyngweithiol
Crybwyllodd 12% fwy o ymwneud â myfyrwyr eraill
Crybwyllodd 11% fwy o sesiynau dysgu byw
Crybwyllodd 10% well darpariaeth ddigidol
Crybwyllodd 9% fwy o ymwneud â’r darlithwyr
Crybwyllodd 6% gynyddu sgiliau a gallu digidol
Agweddau cadarnhaol ar ddysgu ar-lein
Gofynnwyd i’r myfyrwyr pa agwedd ar ddysgu ar-lein fu fwyaf cadarnhaol iddynt hwy – os oedd yna agwedd gadarnhaol. Cwestiwn testun rhydd oedd hwn, ac aethom ati i’w ddadansoddi er mwyn canfod themâu. Dyma rai o’r themâu cyffredin:
Crybwyllodd 54%hyblygrwydd
Crybwyllodd 27%fynediad i ddeunyddiau ac adnoddau
Crybwyllodd 12%gyswllt â’r darlithwyr
Crybwyllodd 10% fuddiannau o ran lles ac anableddau
Crybwyllodd 7%ddysgu difyr a rhyngweithiol
Crybwyllodd 7% dechnoleg ddigidol
Crybwyllodd 6%gyswllt â’r myfyrwyr eraill
Agweddau negyddol ar ddysgu ar-lein
Gofynnwyd i’r myfyrwyr pa agwedd ar ddysgu ar-lein fu fwyaf negyddol iddynt hwy – os oedd yna agwedd negyddol. Cwestiwn testun rhydd oedd hwn, ac aethom ati i’w ddadansoddi er mwyn canfod themâu. Dyma rai o’r themâu cyffredin:
Crybwyllodd 45% ddiffyg ysgogiad neu ymwneud
Crybwyllodd 23%gynllun a threfn y dysgu ar-lein
Crybwyllodd 21% ddiffyg ymwneud cymdeithasol
Crybwyllodd 14% faterion lles
Crybwyllodd 14% broblemau â systemau TG
Crybwyllodd 9% ddiffyg cyswllt â staff
Crybwyllodd 6% ddiffyg sgiliau ymarferol
Ansawdd cyffredinol y dysgu ar-lein a’r dysgu digidol ar y cwrs
Datblygu eich sgiliau digidol
Cefnogaeth ac arweiniad i ddatblygu sgiliau digidol
I BA RADDAU YR YDYCH YN CYTUNO EIN BOD WEDI RHOI’R PETHAU CANLYNOL ICHI:
PA % CYTUNO
CYMRU % CYTUNO
Y DU % CYTUNO
Cefnogaeth i ddysgu ar-lein/oddi ar y campws
57
51
53
Arweiniad ynghylch y sgiliau digidol sy’n angenrheidiol ar gyfer eich cwrs
Gofynnwyd i’r myfyrwyr pa un peth y dylem ei wneud i’ch helpu i ddysgu’n effeithiol ar-lein. Cwestiwn testun rhydd oedd hwn, ac aethom ati i’w ddadansoddi er mwyn canfod themâu. Dyma rai o’r themâu cyffredin:
Crybwyllodd 35% welliannau i gynllun a threfn y dysgu ar-lein
Crybwyllodd 14% well mynediad i’r darlithwyr
Crybwyllodd 14%ddysgu ar-lein mwy difyr a rhyngweithiol
Crybwyllodd 13% fwy o hyfforddiant a chymorth gyda sgiliau a thechnoleg ddigidol
Crybwyllodd 8% fwy o gymorth gyda materion lles
Crybwyllodd 8% well mynediad i adnoddau a deunyddiau
Crybwyllodd 6% well darpariaeth ddigidol
Beth oedd barn y myfyrwyr am y gefnogaeth a gawsant i ddysgu ar-lein?
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan yn y prosiect Profiad Mewnwelediad Digidol sy’n ceisio ymchwilio i brofiadau ein myfyrwyr o dechnoleg. Mae’r prosiect yn seiliedig ar arolygon ar-lein a gynlluniwyd gan Jisc ac a ddefnyddir gan sefydliadau gwahanol ledled y DU.
Mae’n galluogi inni gael gwell syniad o sut mae myfyrwyr yn defnyddio technoleg a meincnodi ein canlyniadau yn erbyn sefydliadau Addysg Uwch eraill yn ein sector.
[:cy]Mae Prifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan yn y prosiect Profiad Mewnwelediad Digidol sy’n ceisio ymchwilio i brofiadau ein myfyrwyr o dechnoleg. Mae’r prosiect yn seiliedig ar arolygon ar-lein a gynlluniwyd gan Jisc ac a ddefnyddir gan sefydliadau gwahanol ledled y DU.
Mae’n galluogi inni gael gwell syniad o sut mae myfyrwyr yn defnyddio technoleg a meincnodi ein canlyniadau yn erbyn sefydliadau Addysg Uwch eraill yn ein sector.
Byddem yn gwerthfawrogi eich cymorth i hyrwyddo’r arolwg hwn i’r holl fyfyrwyr.
O fis Medi 2020, dylid defnyddio dau osodiad newydd ar bob man cyflwyno ar Turnitin. Gwneir hyn fel y gall myfyrwyr weld eu Hadroddiad Tebygrwydd (fel y cytunwyd gan y Bwrdd Academaidd).
Mae’r ddau osodiad o dan yr adran Gosodiadau Dewisol / Optional Setting wrth ichi greu man cyflwyno ar Turnitin:
1. Creu Adroddiadau Tebygrwydd i Fyfyrwyr – Ar unwaith (gellir ysgrifennu drostynt tan y Dyddiad Dyledus) 2. Caniatáu i fyfyrwyr weld Adroddiadau Tebygrwydd – Ie
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Datblygu ac Addysgu am eddysgu@aber.ac.uk.
Gellir creu profion a chwisiau ar-lein i’ch myfyrwyr trwy ddefnyddio adnodd profion (Tests) Blackboard. Gallwch ddarparu profion i fod yn ddull ffurfiannol o asesu, yn ddull hunanasesu i fyfyrwyr, neu’n ddull mwy ffurfiol o asesu perfformiad myfyriwr. Yn ddiweddar, mae’r Uned Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu wedi diweddaru ein canllaw ynglŷn â phrofion Blackboard, er mwyn cefnogi staff sy’n darparu gweithgaredd asesu ar-lein i fyfyrwyr. Pam defnyddio Profion Blackboard yn fy modiwl? Manteision i Fyfyrwyr
Atgyfnerthu’r dysgu. Mae ymchwil wedi dangos bod profion a chwisiau yn adnoddau grymus i hybu dulliau o ddwyn ffeithiau i gof, i gynorthwyo wrth adolygu ac i wella’r dysgu.
Adborth gwerthfawr. Gall profion Blackboard roi cyfleoedd ychwanegol ac amrywiol i fyfyrwyr i roi adborth.
Darparu cynnwys o’r cyfryngau. Mae modd cynnwys clipiau fideo, delweddau a dolenni at recordiadau ac adnoddau allanol yn y cwestiynau a’r atebion. Manteision i Staff
Mesur gwybodaeth myfyrwyr. Mae profion Blackboard yn ffordd effeithiol o fesur dirnadaeth a datblygiad myfyrwyr trwy gydol y cwrs, ac i ganfod unrhyw fylchau yn eu gwybodaeth.
Marcio sydyn. Caiff y mwyafrif o’r cwestiynau eu marcio ar unwaith gan Blackboard a’u rhoi yn awtomatig yn y Grade Centre.
Cronfeydd o gwestiynau i’w hailddefnyddio. Gellir creu cronfa o gwestiynau, y gellir dewis o’u plith ar gyfer aml brofion. Hefyd, gellir allforio cwestiynau a phrofion i’w defnyddio mewn modiwlau eraill. Sut mae creu prawf yn Blackboard? Dilynwch ein cyfarwyddyd ar greu prawf, ac yna gosod y prawf yn Blackboard. Profion Blackboard i Fyfyrwyr Ar ôl ichi greu a gosod eich Prawf, rydym yn argymell eich bod yn rhoi ein canllawiau ar gymryd profion Blackboard i’ch myfyrwyr. Os bydd myfyriwr yn cael trafferthion wrth gymryd y prawf, efallai y bydd angen i chi glirio ymgais y myfyriwr fel y gall ailsefyll y prawf. Os hoffech ragor o wybodaeth o unrhyw fath am y broses neu os oes gennych gwestiynau penodol, cofiwch gysylltu â ni (eddysgu@aber.ac.uk). Os ydych yn bwriadu defnyddio’r profion ar gyfer asesu ffurfiol, cofiwch gysylltu â ni.