Cyrsiau Ultra 2023-24

Pan ddewch yn ôl ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, bydd eich cyrsiau newydd yn Blackboard yn edrych ychydig yn wahanol. O fis Medi 2023, bydd yr holl gyrsiau newydd yn Blackboard yn gyrsiau Ultra.

Rydym wedi bod yn defnyddio Ultra Base Navigation (UBN) yn Blackboard ers mis Ionawr 2023, ac rydym yn gwybod bod llawer ohonoch yn meddwl ei fod yn haws i’w ddefnyddio – yn enwedig ar ddyfeisiau symudol.

Mae gan gyrsiau Ultra yr un dyluniad hygyrch a chyfeillgar i ffonau symudol ag UBN – dyma sut mae cwrs Ultra yn edrych:

Sgrinlun o Gwrs Ultra Blackboard

Oherwydd y ffordd y mae wedi’i ddylunio, nid oes gan gwrs Ultra fyth mwy na dwy lefel o ffolderi – mae hyn yn ei gwneud hi’n llawer cyflymach ac yn haws dod o hyd i’ch deunyddiau cwrs a’r dolenni cyflwyno aseiniadau. Ac mae yna hefyd offer chwilio ym mhob cwrs.

Rydym hefyd wedi ailgynllunio templed y cwrs i sicrhau ei fod yn defnyddio’r iaith y mae’r cwrs yn cael ei addysgu ynddi. Os yw eich modiwl yn cael ei addysgu yn Gymraeg, bydd templed eich cwrs nawr yn Gymraeg. Ac mae gan fodiwlau dwyieithog dempled cwrs dwyieithog.

Mae llawer o wybodaeth am Ultra ar wefan Blackboard, gan gynnwys cyflwyniad i lywio eich ffordd o amgylch Cwrs Ultra (Noder – mae’r fideo ar y dudalen hon ar safle allanol ac ar gael yn Saesneg yn unig). 

Mae holl gyrsiau y blynyddoedd blaenorol yn dal i fod ar gael – felly os oes angen edrych yn ôl ar ddeunyddiau hen gwrs, gallwch wneud hynny hefyd.

Fyddaf fi’n gallu cael gafael ar hen gyrsiau a deunyddiau ar ôl inni symud i Ultra?

Icon Blackboard Ultra

Bydd cyrsiau’r blynyddoedd blaenorol yn parhau i fod ar gael (yn unol â pholisi cadw’r brifysgol). Byddwch chi’n gallu cael gafael ar hen gyrsiau a’u deunyddiau gan ddefnyddio’r gwymplen Cyrsiau.

Sylwch fod y ffordd i gael gafael ar gyflwyniadau Turnitin o’r cyfnod cyn haf 2022 wedi newid – darllenwch ein canllawiau ar lawrlwytho cyflwyniadau Turnitin a wnaed cyn haf 2022.

Trafferthion gweld adborth yn Turnitin

Cawsom adroddiadau am staff a myfyrwyr yn methu gweld sylwadau adborth yn Turnitin ar aseiniadau wedi’u marcio.

Os nad ydych yn gallu gweld eich adborth, cliciwch ar y ffenest sy’n cynnwys yr aseiniad i ddangos y sylwadau yn y testun, QuickMarks, a thestun wedi’i uwcholeuo.

Rydym wedi sôn wrth Turnitin am hyn ac fe rown ddiweddariad ichi ar y mater pan fydd wedi ei ddatrys.

Eich Cofnodion Cymrodoriaeth

A oes gennych unrhyw gategori o Gymrodoriaeth o’r AAU (a ddyfernir gan Advance HE)?

Gall hyn fod yn Gymrawd Cyswllt (AFHEA), Cymrawd (FHEA), Uwch Gymrawd (SFHEA) neu’n Brif Gymrawd (PFHEA).

Os felly, llongyfarchiadau mawr! Mae eich cymrodoriaeth “yn dangos ymrwymiad personol a sefydliadol i broffesiynoldeb mewn dysgu ac addysgu o fewn addysg uwch.” (Cymrodoriaeth, Advance HE

Yn rhan o’n datganiadau data blynyddol, mae angen i ni sicrhau bod gennym gofnodion o bawb sydd â chymrodoriaeth, ac ym mha gategori. Gallwch wneud hyn eich hun drwy ddiweddaru eich cofnod ABW. Os gwnaethoch chi ennill cymrodoriaeth mewn sefydliad arall, dylech hefyd ddiweddaru eich cofnodion gyda Advance HE i adlewyrchu eich swydd bresennol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Diweddaru eich cofnod ABW

Gwnewch yn siŵr bod ABW yn cofnodi’r categori sydd gennych ar hyn o bryd yn gywir. Cofiwch ddiweddaru eich cofnod os dyfernir categori newydd o gymrodoriaeth i chi.

  1. Mewngofnodwch i Pobl Aber gan ddefnyddio eich manylion mewngofnodi PA arferol.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod ar y tab Eich cyflogaeth o’r ddewislen ar y chwith.
Sgrinlun o ABW gyda'ch cyflogaeth wedi'i hamlygu

  • Ewch i Gwybodaeth Bersonél yn y golofn Eich Cyflogaeth.

(Sgrinlun o ABW gyda Gwybodaeth Bersonél wedi’i hamlygu.)

  • Ewch i’r tab HESA.
Sgrinlun o ABW gyda’r tab HESA wedi'i amlygu

  • Ar y tab hwnnw, sgroliwch i lawr nes i chi gyrraedd cyfres o feysydd sydd wedi’u labelu fel Cymhwyster Addysgu.
Sgrinlun o ABW gyda’r blychau Cymhwyster Addysgu wedi'u hamlygu

  • Cliciwch ar y saeth am i lawr ar un o’r meysydd Cymhwyster Addysgu.

Bydd cwymplen yn agor sy’n cynnwys sawl opsiwn sy’n dechrau gyda Cydnabyddir gan Advance HE fel….

Dewiswch y categori cymrodoriaeth priodol.

Sgrinlun o ABW gyda rhestr o’r categorïau cymrodoriaeth wedi'i hamlygu

  • Cofiwch glicio ar y botwm Cadw ar waelod y sgrin.
Sgrinlun o ABW gyda’r botwm Cadw wedi'i amlygu

My Advance HE

Os gwnaethoch chi ennill cymrodoriaeth mewn sefydliad arall a’ch bod wedi symud i PA, diweddarwch eich cofnod My Advance HE i ddangos eich Perthynas Cyflogwr newydd â Phrifysgol Aberystwyth.

  1. Mewngofnodwch i My Advance HE gyda’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Advance HE. Os nad ydych yn gwybod eich cyfrinair, defnyddiwch y ddolen ar y dudalen mewngofnodi i’w ailosod
  2. Cliciwch ar My Profile
  3. Cliciwch ar Update Profile
  4. Sgroliwch i waelod y dudalen a chliciwch ar Create new employer relationship
  5. Ychwanegwch fanylion eich swydd newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth
  6. Gallwch hefyd olygu manylion unrhyw swyddi blaenorol (e.e. i ychwanegu dyddiad gorffen) drwy glicio ar y saeth am i lawr wrth ymyl y swydd honno a dewis Edit.
  7. Cliciwch ar Submit

Ac wrth gwrs, os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am gategori cymrodoriaeth arall, gallwch wneud cais am AFHEA, FHEA a SFHEA drwy’r Cynllun ARCHE

Pam a sut yr ydym yn rheoli cofrestriadau Blackboard

Un o’r ymholiadau mwyaf cyffredin a gawn yw gan bobl nad ydynt wedi’u cofrestru ar fodiwlau yn Blackboard. Ein hateb safonol yw y dylai’r staff a myfyrwyr fod wedi’u cofrestru ar y modiwl yng nghofnod y modiwl yn AstRA. Ar ôl gwneud hyn, dylai gymryd tua awr i’r cofrestriad gyrraedd Blackboard.

Ond gwyddom fod adegau o hyd pan fo myfyrwyr a staff yn cael eu hychwanegu i fodiwlau â llaw. Hoffem leihau hyn gymaint â phosibl, felly mae angen i ni ddeall pryd a sut mae hyn yn digwydd. Bydd ein harolwg byr yn ein helpu i wneud hyn. Bydd canlyniadau’r arolwg hwn yn ein helpu i weld a oes angen gwneud newidiadau i’n prosesau er mwyn ei gwneud hi’n haws i bawb sydd angen bod ar fodiwl gael mynediad yn gyflym a hawdd.

Gall fod yn demtasiwn ychwanegu rhywun i fodiwl â llaw, yn arbennig os ydych ar frys, neu’n methu dod o hyd i rywun a all wneud y newid ar eich rhan. Fodd bynnag, mae sawl rheswm pam ein bod yn cymryd ein holl gofrestriadau o’r un ffynhonnell:

  1. Mae’n bosibl gweld yn glir pwy sydd â mynediad i fodiwl. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer cofrestriadau staff oherwydd mae gan staff fynediad i farciau a manylion myfyrwyr. Os caiff ein holl gofnodion eu cymryd o AStRA, gwyddom, os oes gan rywun fynediad i fodiwl, bod eu cofrestriad wedi cael ei gymeradwyo. Hefyd, mae yna wiriadau o fewn AStRA sy’n gwneud yn siŵr mai dim ond manylion adnabod staff sy’n gallu cael caniatâd addysgu ar gyfer modiwl. Mae hyn yn osgoi camgymeriadau gyda manylion mewngofnodi neu gamgymeriadau teipio a allai olygu bod myfyrwyr yn cael mynediad i raddau (er enghraifft) yn ddamweiniol.
  2. Mae myfyrwyr yn cael mynediad i’r modiwlau y maent wedi’u cofrestru arnynt yn unig. Er ein bod yn annog y myfyrwyr i wirio eu Cofnod Myfyriwr, yn aml byddant yn mynd yn ôl y modiwlau y maent wedi’u cofrestru arnynt yn Blackboard. Felly, os yw myfyriwr wedi cael ei ychwanegu i fodiwl yn Blackboard â llaw, ond heb gofrestru’n iawn yn y cofnod myfyriwr, gallai hyn achosi pob math o broblemau. Yn arbennig wrth gyrraedd cyfnod y byrddau arholi.
  3. Gellir ailadeiladu cofrestriadau os oes angen. Os oes problem â Blackboard, gallwn ailadeiladu caniatâd i fodiwlau’n gyflym a hawdd gan fod ffynhonnell ganolog iddynt. Ni fydd unrhyw gofrestriadau â llaw wedi’u cynnwys yn y broses hon a gallai olygu oedi cyn cael mynediad.

Os ydych chi’n ychwanegu staff neu fyfyrwyr i fodiwlau â llaw (neu’n gofyn i rywun arall wneud ar eich rhan) gofynnwn i chi roi rhai munudau o’ch amser i gwblhau ein harolwg.

Newidiadau i Beiriannau Dysgu

Dros yr haf, mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth wedi gwneud rhai newidiadau i’r offer yn yr ystafelloedd dysgu:

  • Cipio bwrdd gwyn gyda chamerâu Crestron Airboard
  • Dull Cyflwynydd PowerPoint gydag adlewyrchu sgrin
  • Byrddau gwyn rhyngweithiol gyda sgriniau CleverTouch

Mae’r offer hyn ar gael mewn detholiad o ystafelloedd ledled y campws.

Crestron Airboard

Bydd cipio bwrdd gwyn yn taflunio popeth yr ydych yn ei ysgrifennu ar y sgrin. Gallwch hefyd ei ddefnyddio i recordio eich nodiadau bwrdd gwyn.

Mae cipio bwrdd gwyn ar gael yn:

  • IBERS 0.30,
  • IBERS 0.31,
  • Edward Llwyd 3.34
  • Hugh Owen E3
  • Hugh Owen C22

Ar ôl mewngofnodi i’r cyfrifiadur:

  1. Cliciwch ar yr eicon Crestron Airboard ar y bwrdd gwaith
  2. Mae uned Crestron ar wal ger y bwrdd gwyn.
  3. Pan fydd y botwm ar yr uned yn fflachio’n las, pwyswch y botwm

Bydd tudalen Crestron wedyn yn ymddangos ar y sgrin ac yn dangos eich llawysgrifen ar y sgrin. Gallwch rannu dolen i’r dudalen hon â’ch myfyrwyr. Bydd modd iddynt weld eich llawysgrifen ar liniadur, llechen neu ffôn symudol.

Os hoffech recordio’r llawysgrifen gyda Panopto, bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn dewis cipio i sgrin y cyfrifiadur yn ogystal ag unrhyw PowerPoint yr ydych yn ei ddefnyddio wrth ddechrau eich recordiad. Bydd angen i chi wneud yn siŵr mai gweddalen Crestron yw’r brif ffenestr sydd ar agor ar y cyfrifiadur pan fyddwch yn ysgrifennu ar y bwrdd.

Dull Cyflwynydd

Gallwch ddefnyddio’r Dull Cyflwynydd i ddangos eich sleidiau PowerPoint i fyfyrwyr, a gweld nodiadau’r siaradwr eich hun o’r peiriant yn yr ystafell ddysgu.

Ar gael yn:

  • Edward Llwyd 3.34
  • IBERS 0.30
  • IBERS 0.31
  • IBERS 0.32
  • Labordai Iaith Hugh Owen (BA8 a BA9)
  • Hugh Owen C22 (bob amser yn y dull cyflwynydd gyda dau fonitor)
  • Pob ystafell ddysgu yn Penbryn 5.

Pan fyddwch yn mewngofnodi i’r cyfrifiadur bydd yn mynd yn awtomatig i adlewyrchu sgrin. Golyga hyn y bydd yr hyn a ddangosir ar y monitor yr un fath â’r hyn a ddangosir ar y sgrin taflunio. Os hoffech ddefnyddio Dull Cyflwynydd PowerPoint (nodiadau siaradwr ar y monitor a sleidiau ar y sgrin):

  1. Cliciwch ar Extend Display ar y bwrdd gwaith
  2. I recordio’r sleidiau ond nid y nodiadau, gosodwch Panopto i gipio Ail Sgrin ac nid y Brif Sgrin.
  3. Gallwch symud ffenestri o’ch prif sgrin (monitor) i’r Ail Sgrin (sgrin) drwy ei lusgo i ochr chwith y monitor
  4. I fynd yn ôl i’r wedd arferol, cliciwch ar Mirror Display

Byrddau Gwyn Rhyngweithiol

Ar gael yn:

  • Yr holl ystafelloedd dysgu yn Penbryn 5.

I ddefnyddio’r byrddau CleverTouch fel bwrdd gwyn:

  1. Tapiwch ar waelod y sgrin > dewiswch Lux
  2. Tapiwch ar y saeth chwith neu dde > dewiswch Note

Bydd hyn wedyn yn agor rhaglen bwrdd gwyn a gallwch ei anodi. Byddwch yn ymwybodol nad yw’n bosibl recordio’r sgriniau hyn gyda Panopto.

I fynd yn ôl i’r cyfrifiadur tapiwch ar waelod y sgrin a dewis HDMI.

I anodi PowerPoint ac ati ar y cyfrifiadur (dull HDMI)

  1. Cliciwch ar y saeth chwith neu dde ar y bwrdd
  2. Cliciwch ar yr eicon beiro
  3. Bydd hyn yn rhoi llun o’r sgrin, ni fyddwch yn gallu rhyngweithio â’r sgrin ond gallwch ysgrifennu arni.
  4. I symud ymlaen i’r sleid nesaf, cliciwch ar y saeth chwith neu dde ar y bwrdd
  5. Cliciwch ar yr eicon croes

Bydd hyn yn colli eich anodiadau. Noder y bydd eich anodiadau’n diflannu pan fyddwch yn symud i’r sgrin nesaf. Hefyd, ni chaiff anodiadau eu cipio gyda Panopto.

Beth sydd wedi newid gyda Blackboard Saas?

Mewngofnodi

Pan ewch chi i https://blackboard.aber.ac.uk byddwch nawr yn gweld y dudalen Login@AU. Defnyddiwch eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Prifysgol Aberystwyth ar y dudalen hon i gael mynediad i Blackboard.

Yr Iaith Gymraeg

Os ydych chi wedi nodi Cymraeg fel eich dewis iaith yn ABW neu ar eich Cofnod Myfyriwr, byddwch yn gweld y fersiwn Gymraeg o Blackboard yn awtomatig. Os hoffech newid eich gosodiadau iaith gweler y Cwestiynau Cyffredin.

Ap Blackboard

Os ydych chi’n cael problemau wrth ddefnyddio ap Blackboard:

  1. Allgofnodwch a chau’r ap.
  2. Chwiliwch am Aberystwyth University a chlicio ar yr enw.
  3. Cewch neges yn dweud eich bod yn mewngofnodi trwy wefan PA
  4. Cliciwch ar Got it
  5. Mewngofnodwch gyda’ch enw defnyddiwr a chyfrinair PA

Diweddariadau

Bydd Blackboard yn diweddaru ar ddechrau pob mis. Mae’r diweddariadau misol hyn yn golygu na fydd angen i ni atal gwasanaeth Blackboard i wneud gwaith cynnal a chadw o hyn ymlaen.

Dyddiadau diweddaru ar gyfer semester 1:

  • 5 Medi
  • 3 Hydref
  • 7 Tachwedd
  • 5 Rhagfyr
  • 2 Ionawr

Efallai y sylwch chi fod pethau wedi newid, neu fod nodweddion newydd wedi ymddangos. Byddwn yn ceisio rhoi gwybodaeth i chi am unrhyw newidiadau sylweddol trwy’r blog.  Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth ar https://help.blackboard.com/Learn/Administrator/SaaS/Release_Notes

Cadw Deunydd a Chopïau Wrth Gefn

Mae Blackboard yn cadw deunydd a ddilëir am 30 diwrnod. Os ydych wedi dileu rhywbeth o Blackboard ac am ei gael yn ôl, anfonwch e-bost at elearning@aber.ac.uk cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn cynnwys deunyddiau cyrsiau, defnyddwyr a graddau.

Ymdrin ag Ymholiadau

Gan fod Blackboard yn cael ei reoli yn y cwmwl bellach, efallai y bydd angen i’r staff cymorth e-ddysgu gyfeirio eich ymholiad ymlaen at dîm cymorth canolog Blackboard.  Mae’n bosib y bydd angen i ni:

  • Ofyn i chi am fwy o fanylion nag arfer ynglŷn â’r broblem – efallai y bydd angen i ni ofyn i chi am fanylion y camau a gymeroch
  • Ganiatáu i staff cymorth Blackboard gael mynediad i’ch modiwl

Mae hefyd yn bosib y bydd yn cymryd ychydig yn hirach i gael ateb, ond byddwn yn ceisio sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth am hynt eich ymholiad.

Blackboard SaaS – diweddariad 5

Iaith Gwaith logo - speech bubble containing the word Cymraeg

Da iawn ni! Y datblygiad mawr y mis hwn oedd creu fersiwn sy’n gweithio o’rrhyngwyneb Cymraeg. Ar ôl llawer o feddwl a gwaith ymchwil rydym wedi llwyddo i ffeindio ffordd o ail-greu ein tabiau a blychau  Cymraeg ar yr amgylchedd SaaS newydd. Fel defnyddwyr ni fydd unrhyw beth yn edrych yn wahanol, ond i ni mae’n gam enfawr ymlaen. Ac mae’r cyfan wedi’i ddogfennu (dros 9 tudalen!) i wneud yn siŵr y gall unrhyw un yn y tîm ei wneud, os bydd angen. Mae’n braf gweld Blackboard yn ôl i’w normalrwydd dwyieithog!

Rydym hefyd yn chwilio am staff dysgu a gweinyddol i’n helpu i brofi’r amgylchedd SaaS Blackboard newydd. Os oes gennych ddiddordeb, e-bostiwch ni ar elearning@aber.ac.uk

Byddwn yn rhoi mynediad i’n profwyr i gopïau o’u modiwlau Blackboard ar y safle SaaS. Byddwn wedyn yn gofyn i chi

  • Edrych ar ddeunyddiau’r cwrs a gwirio eu bod yn gweithio fel y disgwyl
  • Defnyddio rhai o offer Blackboard i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio’n iawn
  • Adnabod a rhoi gwybod am unrhyw broblemau neu faterion

Mae croeso i’r holl staff ymuno yn y gwaith profi. Rydym yn chwilio’n arbennig am staff sy’n defnyddio Blackboard yn Gymraeg neu sy’n defnyddio offer megis profion a byrddau trafod.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gallwch e-bostio elearning@aber.ac.uk

Blackboard SaaS – diweddariad 4

Ffocws y rhan fwyaf o’n profi dros y mis diwethaf oedd gwneud yn siŵr bod ein gosodiadau lleol yn Blackboard yn gweithio’n iawn. Rydym wedi treulio llawer o amser yn gweithio ar y cyfieithiad Cymraeg. Mae ein ffeiliau Cymraeg yn eithaf hen ac angen eu diweddaru, felly byddwn yn treulio amser yn ceisio sicrhau fod y rhyngwyneb Cymraeg yn gweithio’n iawn.

Rydym hefyd yn gwirio holl brif offer Blackboard i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio fel y disgwyl – ac er mwyn i hynny weithio’n iawn, byddwn angen eich cymorth. Rydym yn bwriadu gwahodd staff i brofi amgylchedd newydd SaaS i gael mwy o adborth – cadwch lygaid allan am e-bost yn eich gwahodd i ymuno â’r grŵp profi.

Yn y blog diwethaf gwnaethom grybwyll ein bod yn cynllunio amser segur ar gyfer trosglwyddo’r data’n derfynol. Mae hi wedi bod yn anodd dod o hyd i amser addas sydd ddim yn rhy gynnar neu’n rhy aflonyddgar yn ystod cyfnod yr arholiadau atodol. Credwn ein bod wedi dod o hyd i ddyddiad addas erbyn hyn. Ein cynllun yw trefnu amser segur i Blackboard ar 29 Awst. Dylai gymryd ychydig oriau’n unig i drosglwyddo data a phan fydd Blackboard ar gael eto, bydd ar gael i’w ddarllen yn unig tan 2 Medi. Os yw staff angen cael mynediad i ddiweddaru rhywbeth rhwng 29 Awst a 2 Medi, e-bostiwch elearning@aber.ac.uk