Ym mis Rhagfyr eleni, mae Blackboard wedi ei gwneud hi’n haws gweld negeseuon newydd mewn Trafodaethau a chyflwyniadau hwyr yn Blackboard Assignments (nid Turnitin). Yn ogystal, rydym yn tynnu sylw at ryddhau Sgyrsiau ag AI yn Blackboard a’r Gynhadledd Fer Ar-lein ar 18 Rhagfyr.
Gwella Trafodaeth: Dangosydd Neges Newydd
Pwnc Blackboard cysylltiedig: Trafodaethau
Mae Blackboard wedi ychwanegu dangosydd “Newydd” sy’n ymddangos wrth ymyl negeseuon ac atebion nad yw defnyddiwr wedi’u gweld eto. Mae hyn yn helpu i gyfeirio ymgysylltiad drwy ei gwneud hi’n haws dod o hyd i drafodaethau newydd.
Llun 1: Y dangosydd “Newydd” ochr yn ochr â neges ac ateb
Gweler hefyd yr adran ar y Y gallu i ‘ddilyn’ trafodaethau ar gyfer ymgysylltu gwell o ddiweddariad mis Awst 2024
Gwelliannau ar gyfer cyflwyniadau hwyr
Pwnc Blackboard cysylltiedig: Graddio Aseiniadau gyda Graddio Hyblyg
Er mwyn helpu hyfforddwyr i adnabod cyflwyniadau hwyr yn gyflym yn y faner ymgeisio, mae gan gyflwyniadau hwyr bellach ddangosydd Hwyr. Mae Blackboard hefyd wedi diweddaru’r geiriad o Cyflwynwyd yn hwyr <dyddiad> i Cyflwynwyd <dyddiad>.
Hefyd o bwys y mis hwn:
- Rydym wedi rhyddhau’r Sgwrs ag AI yn Blackboard sef bot sgwrsio i fyfyrwyr ryngweithio ag ef a phrofi eu gwybodaeth yn rhan weithgaredd dysgu y gall Hyfforddwyr roi persona iddo. Mae’n defnyddio Cwestiynau Socrataidd a Chwarae rôl.
- Byddwn yn arddangos AI Conversations ac Ymarfer Nodedig Blackboard yn ein Cynhadledd Fer ar-lein ddydd Mercher 18 Rhagfyr. Gallwch archebu eich lle ar-lein a gobeithiwn eich gweld chi yno.