Yn unol â’r Polisi Cipio Darlithoedd caiff pob recordiad Panopto ei gadw am 5 mlynedd cyn iddynt gael eu dileu. Ni fydd hwn yn newid. Fodd bynnag, er mwyn lleihau’n sylweddol ar gostau storio, mae angen i’r Brifysgol ddefnyddio’r nodwedd Archifo yn Panopto.
O 1af Tachwedd 2024 ymlaen, bydd holl recordiadau Panopto nad ydynt wedi cael eu gwylio mewn 13 mis yn cael eu symud i Archif Panopto, lle gellir eu hadfer pe bai eu hangen.
Adfer recordiad wedi’i archifo:
Fel aelod o staff neu fel myfyriwr, gallwch adfer recordiad wedi’i archifo os oes angen i chi gael mynediad ato am unrhyw reswm, cyhyd â bod gennych ganiatâd i gael mynediad i’r recordiad cyn iddo gael ei archifo. Byddwch yn ymwybodol y gall gymryd hyd at 48 awr i adfer recordiad. Pan fydd y recordiad wedi’i adfer, bydd crëwr gwreiddiol y recordiad yn cael gwybod ei fod ar gael yn ogystal â’r sawl sy’n gwneud cais i’w adfer (os yw’n wahanol).
Sut y bydd Rheolau Cadw yn newid yn ein hamgylchedd storio Panopto:
Ar hyn o bryd:
Bob mis; Mae recordiadau nad oes unrhyw un wedi’u gwylio mewn 5 mlynedd yn cael eu dileu.
Beth fydd yn newid:
Ar ddechrau bob mis; Bydd recordiadau nad ydynt wedi cael eu gwylio ers dros 13 mis yn cael eu symud i’r Archif.
Hefyd ar ddechrau bob mis; Bydd recordiadau nad oes unrhyw un wedi’u gwylio mewn 5 mlynedd yn cael eu dileu.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar eddysgu@aber.ac.uk.