Isod ceir rhai o’r gwelliannau diweddaraf yn niweddariad mis Ionawr Blackboard Learn Ultra yr hoffai’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu dynnu sylw Hyfforddwyr atynt.
Batch Edit: Newid i ddyddiad a/neu amser penodol.
Yn aml, mae hyfforddwyr eisiau newid y dyddiad a’r amser ar gyfer nifer o eitemau dethol yn eu cwrs ar yr un pryd. Y broblem gyda gwneud y newid hwnnw yw y byddai’n ddiflas iawn pe bai’n rhaid i chi newid un eitem ar y tro.
Gan ddefnyddio Batch Edit, gall hyfforddwyr nawr newid y dyddiad a/neu’r amser presennol ar gyfer eitemau a ddewiswyd. Mae’r un nodwedd hefyd yn gweithio ar ddyddiadau ac amseroedd ‘dangos ar’ a ‘chuddio ar ôl’.
Noder: Mae Batch edit ar gyfer dyddiadau/amser ond yn gweithio gydag eitemau sydd â gwerthoedd dyddiad ac amser sy’n bodoli eisoes. Ni chymhwysir dyddiad ac amser i eitemau nad oes ganddynt werth dyddiad neu amser.
Llun isod: Mynediad i Batch Edit o Gynnwys y Cwrs.
Llun isod: Newid i opsiwn dyddiad a/neu amser penodol ar gyfer Batch Edit.
Cyfrifiadau Colofn Cyfanswm a Phwysoliad.
Mae angen llyfr graddau ar hyfforddwyr sy’n cefnogi senarios graddio amrywiol. Mae’r llyfr graddau’n cefnogi creu colofnau wedi’u cyfrifo a gradd cwrs gyffredinol. Rydym yn ehangu nodweddion y llyfr graddau i gefnogi colofnau cyfrifo cyfanswm a phwysoliad. Mae’r mathau hyn o gyfrifiadau’n ddefnyddiol ar gyfer digwyddiadau neu gyfnodau penodol, megis arholiadau canol tymor neu arholiadau terfynol.
Gall colofnau cyfrifo cyfanswm fod yn gyfrifiadau seiliedig ar bwyntiau neu wedi’u pwysoli. Yn yr un modd â gosod Gradd Gyffredinol, gall hyfforddwyr gysylltu/dadgysylltu eitemau mewn categori yn y cyfrifo. Gallant hefyd ddewis eithrio categorïau o’r cyfrifo. Ar gyfer categori wedi’i gynnwys, gall hyfforddwyr olygu’r rheol gyfrifo. Mae’r rheol cyfrifo yn caniatáu i hyfforddwyr ollwng sgoriau neu i gynnwys y sgôr isaf neu uchaf yn y categori yn unig.
Efallai yr hoffai hyfforddwyr ddiffinio colofn cyfrifo cyfanswm at eu defnydd eu hunain. Yn yr achos hwn, gallant ddewis cuddio oddi wrth fyfyrwyr. Os dymunir, gall hyfforddwyr gynnwys colofn cyfrifo cyfanswm yn y cyfrifiad gradd gyffredinol.
Llun isod: Ychwanegu colofn Cyfrifo Cyfanswm o’r wedd Grid.
Llun isod: Ychwanegu colofn Cyfrifo Cyfanswm o’r wedd Eitemau Graddadwy.
Llun isod: Golygu Colofn Cyfrifo Cyfanswm wedi’i Bwysoli.
Llun isod: Diffinio rheolau ar gyfer colofn Cyfrifo Cyfanswm wedi’i Bwysoli.
Cofnodion ymgais am well uniondeb asesu ar gyfer Profion ac Aseiniadau Blackboard
Mae’r Cofnodion Ymgais yn nodwedd anhepgor ar gyfer dilysu materion y gallai myfyrwyr ddod ar eu traws yn ystod asesiad. Mae’r cofnodion hefyd yn helpu hyfforddwyr i adnabod arwyddion o anonestrwydd academaidd.
Noder: Gellir defnyddio cofnodion ymgais gyda Phrofion ac Aseiniadau Blackboard, ond nid gyda Turnitin.
Ar gyfer Profion, mae’r cofnodion yn darparu’r canlynol:
- Gwybodaeth fanwl, gan gynnwys y dyddiad ac amser cychwyn a’r atebion i bob cwestiwn.
- Manylion cwestiwn-benodol, megis rhif y cwestiwn, rhagolwg o’r cwestiwn, ac amcangyfrif o’r amser a dreulir ar bob cwestiwn.
- Rhif derbynneb cyflwyno, gradd derfynol, a gradd ymgais.
- Hawdd toglo rhwng pob ymgais sydd ar y gweill a phob ymgais a gyflwynwyd i sicrhau olrhain asesu cynhwysfawr.
Llun isod: Cofnod ymgais prawf gydag ymgeisiau lluosog a wnaed gan y myfyriwr
Ar gyfer Aseiniadau, mae’r cofnodion yn cynnig:
- Dyddiad ac amser cychwyn a chyflwyno.
- Rhif derbynneb cyflwyno.
- Toglo rhwydd rhwng ymgeisiau gwahanol i gael gwedd cyfannol.
Llun isod: Cofnod ymgais Aseiniad.
Gall hyfforddwyr gael mynediad i’r Cofnodion Ymgais o ddwy brif ardal:
- Dewislen Cyd-destun ar y Dudalen Gyflwyno – yn gyfyngedig i asesiadau unigol.
- Tab Graddau o dan y Dudalen Trosolwg Myfyrwyr – ar gael ar gyfer asesiadau grŵp ac unigol.
Llun isod: Mynediad o’r tab Cyflwyno
Llun isod: Mynediad o’r tab Graddau o’r trosolwg myfyrwyr.
Ar gyfer asesiadau dienw, daw’r adroddiad yn weithredol ar ôl postio’r graddau a chodi’r anhysbysrwydd. Mae hyn yn sicrhau bod yr adroddiad Cofnodion Ymgais yn nodwedd gadarn hyd yn oed mewn sefyllfaoedd lle mae hunaniaethau myfyrwyr yn cael eu cuddio i ddechrau.
Gradd sy’n weladwy i fyfyrwyr yn y Llyfr Graddau pan fydd yr eitem wedi’i chuddio gan amodau rhyddhau.
Mae amodau rhyddhau yn darparu opsiynau ar gyfer llwybrau dysgu penodol trwy gynnwys y cwrs. Pan fydd hyfforddwyr yn gosod amodau rhyddhau, nid yw’r cynnwys ar gael nes bod myfyrwyr yn bodloni’r amodau hynny. Mae opsiwn i ‘Guddio’ cynnwys dethol rhag fyfyrwyr ar gael. Mae’r gosodiad hwn hefyd yn cuddio’r radd o wedd myfyrwyr y llyfr graddau.
Nawr, gall hyfforddwyr osod amodau rhyddhau heb boeni am guddio graddau. Waeth beth fo’r gosodiad yn “Pryd fydd y cynnwys yn ymddangos?” gall myfyrwyr weld y radd. Mae holl nodweddion eraill yr amodau rhyddhau yn aros yr un peth.
Llun isod: Gosodiadau amodau rhyddhau gyda dyddiad/amser yr amod rhyddhau wedi’i osod ar y cyd â’r cyflwr cuddio yn “Pryd fydd y cynnwys yn ymddangos?”
Llun isod: Gwedd llyfr graddau myfyrwyr yn dangos gradd y myfyriwr waeth beth fo gosodiad yr amod rhyddhau yn y llun uchod.
Noder: Mae’n dal yn bosibl i Hyfforddwyr guddio graddau a cholofnau Llyfr Graddau os bydd hyn yn angenrheidiol at ddibenion byrddau arholi neu gymedroli. Unwaith y bydd y Prawf neu’r Asesiad cysylltiedig wedi’i gwblhau; Cliciwch ar y golofn yn y Llyfr Graddau, dewiswch Golygu, yna addaswch yr Amodau Rhyddhau i Cuddio rhag Fyfyrwyr.
Llun isod: Newid Amodau Rhyddhau i Cuddio rhag Fyfyrwyr.
Nodwedd rheoli ffeiliau nad ydynt yn cael eu defnyddio.
Er mwyn helpu hyfforddwyr i ddeall y defnydd a wneir o’r ffeiliau yn eu cwrs a lleihau eu hôl troed digidol, mae Blackboard wedi creu’r nodwedd Ffeiliau heb eu Defnyddio. Mae’r nodwedd hon yn helpu hyfforddwyr i ddod o hyd i ffeiliau cwrs a dileu’r rhai nad ydynt yn cael eu defnyddio. Gall hyfforddwyr ddod o hyd i’r nodwedd Ffeiliau heb eu Defnyddio yn y ddewislen tri dot ar dudalen Cynnwys y Cwrs.
Llun isod: Nodwedd Ffeiliau heb eu Defnyddio.
Mae dwy wedd ar gael: ffeiliau heb eu defnyddio (gwedd ddiofyn) neu pob ffeil. Enw’r ffeil, dyddiad uwchlwytho, ac arddangos maint y ffeil ynghyd ag opsiwn i lawrlwytho copi o’r ffeil leol. Gall hyfforddwyr ddileu ffeiliau heb eu defnyddio’n hawdd.
Llun isod: Rhestr o ffeiliau heb eu defnyddio.
Llun isod: Rhestr o bob ffeil.