Y mis hwn hoffai’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu dynnu sylw at dri o welliannau i Hyfforddwyr yn niweddariad Blackboard Learn Ultra ym mis Rhagfyr.
Opsiynau mewnosod delwedd ychwanegol
Mae delweddau’n helpu i wella dealltwriaeth o gynnwys y cwrs a’r ymgysylltiad ag ef. Mae hyfforddwyr a myfyrwyr eisiau defnyddio delweddau o ansawdd uchel mewn cynnwys a chyflwyniadau. Er mwyn helpu â hyn, mae botwm delwedd newydd wedi’i ychwanegu i’r golygydd cynnwys yn y mannau canlynol:
- Cyhoeddiadau
- Cwestiynau Asesu
- Atebion myfyrwyr ar gwestiynau (uwchlwytho ffeiliau lleol yn unig)
- Adborth cyflwyno (gwedd safonol)
- Cofnodion a sylwadau mewn dyddlyfrau
Llun isod: Gwedd hyfforddwr – botwm delwedd ar olygydd cynnwys ar gyfer Cyhoeddiadau
Graddio hyblyg – rheoli didoli ar y tab myfyrwyr
Gall graddio nifer fawr o gyflwyniadau heb ffordd i’w trefnu fod yn ddiflas. Nawr, gall hyfforddwyr gymhwyso gwahanol opsiynau didoli gyda graddio hyblyg:
- Dyddiad cyflwyno (hynaf – diweddaraf) o’r ymgais ddiweddaraf
- Dyddiad cyflwyno (hynaf – diweddaraf) o’r ymgais ddiweddaraf
- Cyfenw (A – Y)
- Cyfenw (Y – A)
- Enw Cyntaf (A – Y)
- Enw Cyntaf (Y – A)
- Cyfeirnod Myfyriwr (esgynnol)
- Cyfeirnod Myfyriwr (disgynnol)
Mae’r rhyngwyneb graddio yn storio’r opsiwn didoli a ddefnyddiwyd fwyaf diweddar. Os yw hyfforddwr yn rhoi’r gorau i raddio asesiad ac yn ailddechrau graddio yn ddiweddarach, cymhwysir yr opsiwn didoli olaf.
Hefyd, os ydych yn didoli’r cyflwyniadau yn ôl cyfenw neu statws graddio, mae’r opsiwn didoli a ddewiswyd yn cario drosodd i’r rhyngwyneb graddio.
Llun isod: Opsiynau didoli fel y dangosir o’r tab Myfyrwyr yn y graddio hyblyg.
Eithriadau dyddiadau cyflwyno asesiadau grŵp
Efallai y bydd hyfforddwyr am bennu dyddiadau cyflwyno gwahanol ar gyfer pob grŵp sy’n gweithio ar asesiad grŵp.
Yn y gorffennol, nid oedd unrhyw ffordd i glustnodi dyddiadau cyflwyno amrywiol ar gyfer pob grŵp sy’n gweithio ar asesiad grŵp. Nawr, gall hyfforddwyr neilltuo dyddiad cyflwyno unigryw i bob grŵp gan ddefnyddio’r llif gwaith eithriadau.
Ar y dudalen Cyflwyniadau yn yr asesiad grŵp, gall yr hyfforddwr ychwanegu neu olygu eithriadau ar gyfer grŵp.
Llun isod: Gwedd hyfforddwyr – ychwanegu neu olygu opsiwn eithriadau ar y dudalen Cyflwyniadau asesiad grŵp.
Mae’r panel Eithriadau yn dangos gwybodaeth berthnasol megis enw’r aseiniad ac enw’r grŵp dethol. Mae hyn yn helpu i sicrhau cywirdeb eithriad. Gall hyfforddwyr ddewis dyddiad cyflwyno ar gyfer y grŵp gan ddefnyddio’r dewisydd dyddiad ac amser.
Llun isod: Gwedd hyfforddwyr – panel eithriadau.