Cnorthwy-ydd Dirnadaeth Ddigidol – Joseph

Helo! Joseph ydw i, a byddaf yn gweithio gyda’r tîm UDDA i ddadansoddi a lledaenu canlyniadau Arolwg Dirnadaeth Profiad Digidol Myfyrwyr 2022. Wrth i’r profiad digidol ddod yn rhan annatod o barhad a datblygiad dysg y myfyrwyr, mae’r arolwg hwn yn ein galluogi i ddeall sut mae gweithredu systemau digidol wedi effeithio ar fyfyrwyr. Fel myfyriwr a aeth drwy’r profiad o ddefnyddio’r systemau newydd hyn, mae gennyf brofiad a gafael gadarn o ran safbwynt y myfyrwyr. Bydd hyn yn fy ngalluogi i ddadansoddi a dehongli’r canlyniadau hyn yn well.

Pan oeddwn yn penderfynu ar brifysgolion am y tro cyntaf, roedd tair yr oeddwn am wneud cais iddynt, a llwyddais i fynd i ddiwrnodau agored dwy o’r rhain. Fodd bynnag, oherwydd problemau teithio, nid oedd modd i mi fynychu diwrnod agored Aberystwyth. Wrth ddod i benderfyniad terfynol sylweddolais fod fy nwy chwaer yn mynychu’r ddwy brifysgol arall, felly er mwyn cael llawer mwy o ryddid dewisais wneud cais i Aberystwyth. Y tro cyntaf i mi weld Aberystwyth oedd ychydig cyn fy narlith gyntaf.

Er nad oeddwn yn gwybod dim am Aberystwyth, fe wnes i syrthio mewn cariad â’r lle gydol fy ngradd a mwynhau fy nghwrs cyfun yn fawr. Rwyf wedi dysgu nid yn unig sut i ysgrifennu traethodau cadarn a chymhleth ar lenyddiaeth Saesneg ond hefyd sut i gynllunio a sefydlu ardal ffilmio yn gyfan gwbl ar fy mhen fy hun (gyda Chamera). Deuthum hefyd yn llywydd cymdeithas academaidd ar gyfer adran nad wyf yn rhan ohoni. Rhoddodd hyn lawer mwy o ddealltwriaeth i mi o gynlluniau gradd eraill a barn myfyrwyr gan fy mod yn gweld bod gan bob adran safbwyntiau gwahanol ac amrywiol iawn i’w haddysgu.

Wrth ffilmio anturiaethau a phwyllgorau cymdeithasau rwyf wedi dysgu sgiliau cydweithredol gwych ac wedi ymgymryd â gwahanol swyddi mewn dynameg grŵp er mwyn bod yn fwy effeithiol. Rwy’n gobeithio defnyddio’r sgiliau hyn wrth weithio gyda’r tîm UDDA er mwyn hwyluso dadansoddiad manwl o Arolwg Dirnadaeth Profiad Digidol Myfyrwyr 2022 yn ogystal â chynorthwyo’r tîm drwy awgrymu syniadau a helpu i gynllunio prosiectau.

xoxo

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*