Gallwch gofrestru ar gyfer y wythfed gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol. Eleni bydd y gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn dwyn y thema Cyfoethogi’r Cwricwlwm: Ysgogi Dysgu a Bywiogi’r Addysgu! ac fe’i cynhelir rhwng dydd Llun 7 a dydd Mercher 9 Medi 2020.
Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd trwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon.
Eleni, mae gennym raglen gyffrous ac amrywiol o weithgareddau, gweithdai a chyflwyniadau sy’n dangos yr arferion dysgu arloesol a geir yn y Brifysgol. Mae copi drafft o’r rhaglen ar gael ar ein tudalennau gwe.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni.
