Offer sydd ar gael i’w Llogi gan y Gwasanaethau Gwybodaeth

Mae gan y Gwasanaethau Gwybodaeth offer sydd ar gael i’w llogi i gynorthwyo’r dysgu a’r addysgu. Mae rhestr lawn o offer sydd ar gael i’w benthyca gan y Gwasanaethau Gwybodaeth ar gael yma. I logi’r offer, e-bostiwch gg@aber.ac.uk / 01970 62 2400 gyda’ch gofynion.

Isod ceir rhai o’r eitemau a allai fod o ddiddordeb penodol.

Lego

Coventry Disruptive Media Learning Lab oedd ein siaradwyr gwadd yn y Gynhadledd Dysgu ac addysgu flynyddol y llynedd. Yn ogystal â’u cyflwyniad, gwnaethant hefyd gynnal rhai gweithdai i’r unigolion a fynychodd y gynhadledd. Cafodd un o’r gweithdai hyn ei arwain gan Oliver Wood, cynhyrchydd cymunedol yn DMLL, ac roedd yn canolbwyntio ar chwarae gyda LEGO i Ehangu Dysgu.

Roedd eu dulliau yn adeiladu ar fethodoleg Serious Play LEGO ac yn ei haddasu ar gyfer Gweithgareddau Dysgu ac Addysgu. Ceir rhagor o wybodaeth ar sut yr oeddent yn defnyddio LEGO ar eu tudalennau gwe.

Ceir recordiad o’r gweithdy o’r gynhadledd yma.

Roedd y sesiwn yn adeiladu ar gynhadledd fer y llynedd, Chwarae o Ddifrif ar gyfer Dysgu, a oedd yn dangos sut yr oedd LEGO yn cael ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau ledled y Brifysgol. Mae gan y Gwasanaethau Gwybodaeth 4 bocs mawr ac 1 bocs bach o LEGO ar gael i’w llogi.

Pensetiau Realiti Rhithwir a Chamera 3D

Mae nifer o Bensetiau Realiti Rhithwir a Chamera 3D ar gael i’w benthyca gan y Gwasanaethau Gwybodaeth. Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld cynnydd yn y defnydd o Realiti Rhithwir mewn Dysgu ac Addysgu. Mae Dr Steve Atherton, Darlithydd yn yr Adran Addysg, yn defnyddio Realiti Rhithwir i drochi myfyrwyr mewn amgylcheddau gwahanol a phrofi plentyndod ac addysg o wahanol gyd-destunau. Cewch ragor o wybodaeth ynghylch sut mae Steve yn defnyddio Realiti Rhithwir trwy wylio’r fideo hwn.

Yn y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol y llynedd, gwnaeth Joe Smith ac Aled John o’r Tîm Marchnata gyflwyno gweithdy ar ddefnyddio Camera 3D a gogls Realiti Rhithwir. Ceir recordiad o’r gweithdy yma.

Seinyddion Jabra

Mae’n bosibl llogi seinyddion gan y Gwasanaethau Gwybodaeth ar gyfer sesiynau Skype for Business hefyd. Mae Skype for Business ar gael yn rhan o danysgrifiad Office 365 y Brifysgol. Gallwch osod a defnyddio Skype for Business o gysur eich swyddfa eich hun.

Rydym wedi gweld cydweithwyr ledled y Brifysgol yn defnyddio Skype for Business ar gyfer sesiynau gweminar i fyfyrwyr sydd allan ar leoliad a hefyd i gynnig sesiynau adolygu i fyfyrwyr i baratoi ar gyfer eu harholiadau. Gallai Skype for Business fod yn ddefnyddiol i’r rhai sy’n gweithio gyda myfyrwyr Dysgu o Bell i ddarparu amgylcheddau ystafell ddosbarth rhithwir. Mae gan Skype for Business rai nodweddion rhyngweithiol hefyd, megis pleidleisio byw, a all helpu i ehangu’r sesiwn ar-lein.

Mae canllaw ar sut i ddefnyddio Skype for Business ar gyfer gweithgareddau dysgu ac addysgu ar gael ar ein tudalennau gwe. Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio Skype for Business ac yr hoffech drafod ymhellach neu os oes arnoch angen unrhyw gymorth, cysylltwch â’r Grŵp E-ddysgu (eddysgu@aber.ac.uk / 01970 62 2472).

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*