Gyda chyfnod yr arholiadau ar fin dechrau, gall adolygu a bod yn gynhyrchiol fod yn anodd, a gall fod yn demtasiwn i roi’r gwaith o’r neilltu a sgrolio trwy’r cyfryngau cymdeithasol. Ond gyda’r ap Flora, gall hyn fod yn llawer haws! Mae Flora yn ap cynhyrchiant rhyngweithiol lle gallwch storio rhestrau o bethau i’w gwneud a meithrin arferion cadarnhaol, ac mae ar gael ar iOS ac Android. Gallwch osod amseryddion i ganolbwyntio ac amseryddion i’ch atgoffa i gamu i ffwrdd o’ch tasg a phryd i ddechrau eto. Mae’r ap Flora yn caniatáu ichi blannu hedyn ar ddechrau eich tasg, sy’n tyfu’n araf yr hiraf y byddwch chi’n parhau i ganolbwyntio, ac os ewch chi ar eich ffôn i fynd ar apiau eraill megis y cyfryngau cymdeithasol neu gemau, bydd eich coeden yn marw! Mae nodweddion eraill yn cynnwys y gallu i ddatgloi gwahanol rywogaethau o goed yr hiraf nad ydych chi’n torri eich amseryddion canolbwyntio, neu gwblhau heriau, yr opsiwn i greu rhestrau o bethau i’w gwneud er mwyn rheoli eich tasgau, hysbysiadau ar eich ffôn i’ch atgoffa i gymryd seibiant, y gallu i gael ffrindiau a herio eich gilydd i dyfu coed ac aros oddi ar eich ffonau. Lawrlwythwch nawr a dechreuwch blannu yn eich gardd gynhyrchiant!
Categori: Hunaniaeth a Lles Digidol
Nesaf yn y gyfres: Diweddariadau newydd i’n hoff apiau darllen 📚
Blogbost gan Shân Saunders (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)
Ym mis Chwefror fe wnaethon ni ysgrifennu blogbost am apiau i helpu gyda’ch arferion darllen. Gan ei fod yn Ddiwrnod Cenedlaethol Carwyr Llyfrau, mae diweddariadau newydd i un o’r apiau a grybwyllir – Fable. Mae Fable yn gyfuniad o ap darllen a chyfryngau cymdeithasol lle gallwch weld diweddariadau gan ddarllenwyr eraill gan gynnwys eu barn am y llyfrau rydych eisoes wedi’u darllen a’r llyfrau yr hoffech eu darllen.
Mae diweddariadau diweddar yn cynnwys cael eich pyliau darllen a’ch cynnydd ar y dudalen hafan i gael mynediad hawdd. Yn ogystal, mae Fable bellach yn ymestyn allan o lyfrau gyda’r opsiwn i nodi’ch cynnydd ac ymuno â chlybiau ar gyfer rhaglenni teledu sy’n golygu y gallwch wylio penodau a thrafod eich hoff raglenni gyda selogion eraill. Ar hyn o bryd mae Fable hefyd yn profi sgwrsfot DA newydd o’r enw Scout lle rydych chi’n ychwanegu ysgogiadau am awgrymiadau ac argymhellion ar gyfer eich darlleniadau nesaf yn seiliedig ar ymadroddion a genres neu os ydych chi’n chwilio am rywbeth tebyg i’w ddarllen.
Y brif nodwedd newydd yw’r dudalen ystadegau. O dan eich proffil defnyddiwr, mae crynodeb darllenydd erbyn hyn, crynodeb DA sy’n diweddaru’n awtomatig ar ôl pob darlleniad. O fewn hyn mae graff hefyd o’r llyfrau rydych chi wedi’u darllen eleni gyda mewnwelediad darllenydd i pryd y disgwylir i chi gyrraedd eich targed darllen. Ynghyd â’r teclyn pyliau darllen ar y dudalen hafan, gallwch weld faint rydych chi wedi’i ddarllen yn ystod y misoedd blaenorol gan gynnwys eich pwl darllen hiraf. Gallwch hefyd weld graff gyda’r genres a ddarllenwyd amlaf gennych ac o dan hyn gallwch weld y sgôr cyfartalog o lyfrau rydych chi wedi’u darllen.
Ystyriwch eich Lles Digidol ar Ddiwrnod Lles Byd-eang 🧘🏻♀️
Blogbost gan Shân Saunders (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)
Mae 8 Mehefin 2024 yn Ddiwrnod Lles Byd-eang, diwrnod i fyfyrio ar eich lles a’ch iechyd meddwl. Eleni cyflwynodd Hyrwyddwyr Digidol y Myfyrwyr Gyfres Lles Digidol a oedd yn ymdrin ag ystod eang o fywyd digidol i helpu i wella lles digidol eraill gydag awgrymiadau a thriciau.
Fe wnaethant ystyried ergonomeg ddigidol gan gynnwys creu casgliad LinkedIn Learning am y gosodiad gorau ar gyfer eich desg a chyngor ar sut i leihau straen llygaid drwy’r rheol 20-20-20 a galluogi modd tywyll. Dechreuodd un o’n hyrwyddwyr digidol ar gyfnod o ddadwenwyno digidol a oedd yn cynnwys dileu pob ap cyfryngau cymdeithasol, analluogi hysbysiadau, disodli ID wyneb gyda chyfrinair bwriadol a bod yn fwy ystyriol o’r rheswm y maent ar eu ffôn. Fe wnaethant adrodd am y manteision, yr anfanteision a rhoi cyngor i unrhyw un arall sy’n awyddus i roi cynnig ar ddadwenwyno digidol.
Yn ogystal, gwnaeth ein hyrwyddwr digidol ddarganfod bod ap ScreenZen yn fendith yn ystod eu dadwenwyno digidol i helpu i orfodi ffiniau gwell wrth ryngweithio ag apiau a dod yn fwy ymwybodol o’ch defnydd digidol. Edrychodd y gyfres Lles Digidol hefyd ar bwysigrwydd trefnu eich gofodau digidol, gan gynnwys creu ffolderi gwell, addasu eich sgriniau cartref, a chlirio eich ffolder lawrlwytho.
Mae adnoddau lles digidol eraill yn cynnwys blogbost ar gyfer unrhyw ddefnyddiwr iPhone am y nodweddion sydd ar gael yn y gosodiadau i helpu gyda’ch terfyn amser sgrin a nodwedd i helpu i gadw pellter eich ffôn i leihau straen llygaid.
Os hoffech edrych ar adnoddau pellach, mae croeso i chi edrych ar yr adran lles digidol ar y Llyfrgell Sgiliau Digidol neu yng nghasgliad LinkedIn Learning. Gallwch hefyd weld y sesiwn lles digidol a gynhaliwyd gennym yng Ngŵyl Sgiliau Digidol 2023.
Natur ar flaenau eich bysedd: Fy hoff apiau ar gyfer mwynhau’r awyr agored 🍃🌻
Blogbost gan Noel Czempik (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
Gyda’r dyddiau’n ymestyn a’r tymheredd yn codi, mae llawer yn dyheu am dreulio mwy o amser yn yr awyr agored. Er mwyn gwella eich anturiaethau yn yr awyr agored, rwyf wedi llunio rhestr o fy hoff apiau am ddim a fydd, gobeithio, yn ennyn eich chwilfrydedd ac yn dyfnhau eich gwerthfawrogiad o natur.
AllTrails
Mae AllTrails yn ganllaw poced i lwybrau cerdded, llwybrau beicio a mannau natur sy’n addas ar gyfer gwahanol lefelau a galluoedd. Mae’r ap yn caniatáu i chi gynllunio eich antur nesaf, boed yn fach neu’n fawr ac yn eich helpu i ddarganfod lleoedd newydd neu ddychwelyd i’ch hoff fannau!
Dyma rai o fy hoff nodweddion yn yr ap:
- Gallwch chwilio am lwybrau yn ôl lleoliad a hidlo yn ôl y math o weithgaredd, anhawster, hygyrchedd a hyd.
- Gallwch gael mynediad at wybodaeth fanwl am y llwybrau, gan gynnwys disgrifiadau trylwyr o’r llwybrau, tywydd presennol ac amodau’r ddaear, a’r cyfleusterau sydd ar gael.
- Gallwch wirio’r adolygiadau a’r lluniau i’ch helpu i benderfynu ai dyma’r llwybr cywir i chi.
- Cadwch eich hoff lwybrau a’u rhannu ag eraill yn yr ap.
📲 Lawrlwytho oddi ar Google Play 📲 Lawrlwytho o Siop Apple
Seek gan iNaturalist
Ydych chi erioed wedi gweld planhigyn tra’ch bod allan yn cerdded ac wedi meddwl tybed beth ydoedd? Mae Seek yn eich galluogi i adnabod rhywogaethau o blanhigion, anifeiliaid a ffyngau yn ddiymdrech wrth fynd. Nid oes angen cofrestru’r ap; lawrlwythwch yr ap a’i bwyntio at bethau byw o’ch cwmpas!
Dyma rai o fy hoff nodweddion yn yr ap:
- Gallwch bwyntio’r camera o fewn yr ap at yr hyn yr hoffech ei adnabod neu dynnu llun a’i uwchlwytho i’r ap yn nes ymlaen.
- Gallwch ddysgu mwy am dacsonomeg, natur dymhorol a tharddiad daearyddol y rhywogaeth.
- Gallwch ymgysylltu â chymuned a rhannu’r rhywogaethau rydych chi wedi’u canfod gyda’r ap. Mae PlantNet yn ap arall sy’n ddefnyddiol os ydych chi am fod yn rhan o brosiect gwyddoniaeth dinasyddion ar fioamrywiaeth planhigion.
📲 Lawrlwytho oddi ar Google Play 📲 Lawrlwytho o Siop Apple
SkyView Lite
Yr ap olaf yr hoffwn ei rannu gyda chi yw SkyView Lite. Mae’r ap hwn yn cynnwys map awyr rhyngweithiol sy’n caniatáu i ddefnyddwyr adnabod sêr, planedau a gwrthrychau wybrennol eraill. Mae’r ap yn reddfol, yn gywir ac yn hawdd ei bersonoli. Yng Nghymru, mae’r tywydd yn aml yn gallu bod yn anrhagweladwy, ac mae awyr glir yn aml yn dod fel syndod. Gyda SkyView wrth law, gallwch fanteisio i’r eithaf ar syllu digymell ar y sêr!
Fy hoff bethau am yr ap yw:
- Nid oes angen cysylltiad rhyngrwyd na GPS ar yr ap, felly gellir ei ddefnyddio mewn ardaloedd anghysbell.
- Tapiwch ar unrhyw wrthrych wybrennol i gael disgrifiad manwl. Tapiwch eto am fwy o wybodaeth a ffeithiau addysgol.
- Mae’r ap yn gweithio o dan do hefyd, felly gallwch ddysgu unrhyw bryd, waeth beth fo’r tywydd.
Sefwch allan o’r dorf gyda Thystysgrifau LinkedIn Learning 🏆
Yn y farchnad swyddi gystadleuol sydd ohoni, mae’n bwysig i fyfyrwyr prifysgol sefyll ar allan. Un ffordd o wneud hyn yw drwy ennill tystysgrifau ar gyfer cyrsiau a gwblhawyd ar eich cyfrif LinkedIn Learning Prifysgol Aberystwyth a’u hychwanegu at eich proffil LinkedIn personol.
Ond pam mae hyn yn bwysig? Mae ychwanegu tystysgrifau yn cynyddu eich siawns o gael eich canfod gan recriwtwyr sy’n chwilio am sgiliau penodol, gan ddangos eich ymrwymiad i ddysgu parhaus a datblygu gyrfa, gan eich gwneud yn ymgeisydd mwy apelgar.
Gwyliwch y fideo isod i ddysgu sut i ychwanegu tystysgrifau LinkedIn Learning i’ch proffil LinkedIn personol ⬇
Dysgwch fwy am LinkedIn Learning o’r sesiwn hon yn yr Ŵyl Sgiliau Digidol ’23 (Sesiwn Gymraeg; Sesiwn Saesneg)
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ychwanegu tystysgrifau LinkedIn Learning i’ch proffil LinkedIn personol, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk) neu edrychwch ar y dudalen Tystysgrif LinkedIn Learning swyddogol.
Creu eich proffil ar LinkedIn: Rock your Profile 🤘🏻
Blogbost gan Shân Saunders (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)
Sylwer mai dim ond trwy gyfrwng y Saesneg y ceir holl ddarpariaethau LinkedIn ar hyn o bryd.
Wrth i ddiwedd y flwyddyn academaidd agosáu, efallai eich bod yn dechrau meddwl am ragolygon swyddi a’ch gyrfaoedd yn y dyfodol a ble i ddechrau ar y daith hon. Mae LinkedIn bellach yn cynnig gweminarau “Rock your Profile” i’ch helpu i ddysgu sut i adeiladu proffil diddorol sy’n apelio at eich cynulleidfa ddelfrydol yn ogystal â thynnu sylw at nodweddion allweddol ac arferion gorau ar gyfer adeiladu proffil atyniadol. Mae’r gweminarau hyn ar gael ar wahanol adegau o’r dydd, cofrestrwch yma nawr: Rock Your Profile (linkedin.com).
Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth hefyd yn cynnig adolygu proffiliau CV a LinkedIn a rhoi cyngor ar eu gwella. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaethau hyn drwy alw heibio yn bersonol i Lyfrgell Hugh Owen Lefel D yn ystod y tymor. Mae’r tîm Gyrfaoedd hefyd ar gael drwy e-bost yn: gyrfaoedd@aber.ac.uk. Fel arall, mae’r tîm Gyrfaoedd hefyd yn cynnal sesiynau ar sut i greu CV a phroffil LinkedIn yn llwyddiannus. Mae’r sesiynau hyn yn cael eu hysbysebu ar y porth gyrfaoedd: www.aber.ac.uk/gyrfaoeddABER. Cawsom hefyd sesiwn am sut i ddefnyddio LinkedIn yn ein Gŵyl Sgiliau Digidol y gallwch ei weld yma: Sut i ddefnyddio LinkedIn – Gŵyl Sgiliau Digidol 2023 (6 – 10 Tachwedd) (aber.ac.uk). Gallwch weld rhagor o adnoddau ar LinkedIn drwy’r fideos isod:
- LinkedIn Quick Tips (24m)
- Using LinkedIn wisely (2m 44e)
- Optimizing Your LinkedIn Profile Nano Tips (10m 36e)
- Optimizing your LinkedIn Profile (3m 22e)
- Improve your LinkedIn search (1m 50e)
Taro Cydbwysedd: Ymdopi ag Astudio ac Ymgeisio am Swyddi ⚖
Blogbost gan Joel Williams (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
I lawer o fyfyrwyr, gall y cydbwysedd rhwng astudio ar gyfer arholiadau, cwblhau gwaith cwrs, a chwilio am gyfleoedd cyflogaeth ymddangos yn amhosibl. Dw i wedi ei chael hi’n anodd rheoli fy astudiaethau i wrth geisio dod o hyd i swyddi perthnasol ac wedyn llenwi tudalen ar ôl tudalen o geisiadau. Cymerwch lwyfannau fel Gradcracker neu GyrfaoeddAber. Mae Gradcracker, a weles i yn gyntaf yn ystod yr Ŵyl Sgiliau Digidol, fel llawer o wefannau tebyg, yn cyfuno llawer o gyfleoedd cyflogaeth wedi’u teilwra’n unswydd i’m sgiliau i. Yn y blogbost yma, dwi’n gobeithio amlinellu rhai o’r dulliau ddefnyddies i i helpu i reoli fy astudiaethau wrth chwilio am swyddi, a chyfeirio hefyd at nifer o adnoddau sydd ar gael drwy’r Brifysgol.
Rheoli’ch amser ⏰
Un o’r prif heriau sy’n wynebu myfyrwyr sy’n chwilio am swydd yw rheoli amser. Gyda darlithoedd, seminarau ac aseiniadau yn mynnu eu sylw, gall neilltuo amser penodol i wneud cais am swydd fod yn her. A dweud y gwir, roedd yr amser sy’n angenrheidiol ym mhob cais am swydd yn ffordd wych o ohirio cyn gwneud fy nhraethawd hir, a helpodd fi i gwblhau llawer ohonyn nhw yn gyflym. Er hynny, wrth i’m trydedd flwyddyn barhau ac wrth i aseiniadau eraill ddechrau codi braw, dyma weld mai’r ffordd orau i gadw rheolaeth dros y cyfan oedd rhoi awr neu ddwy i mi fy hun bob wythnos pan fyddwn i’n canolbwyntio ar geisiadau am swyddi yn unig. Er mwyn cadw at y terfyn amser hunanosodedig, dwi’n arbed URL unrhyw swyddi mae gen i ddiddordeb ynddyn nhw. Os ydyn nhw ar Gradcracker, dwi’n gofalu eu bod nhw yn fy rhestr fer, sy’n golygu ei bod yn hawdd dod o hyd iddyn nhw a dangos faint o amser sydd gen i i wneud cais am y swydd.
Cymaint o ysgrifennu ✍
Un rhwystr arall mae myfyrwyr yn dod ar ei draws yw’r pwysau i sefyll allan mewn marchnad swyddi hynod gystadleuol. Mae llunio CV perswadiol, ysgrifennu llythyrau eglurhaol pwrpasol, a pharatoi ar gyfer cyfweliadau i gyd yn elfennau hanfodol o’r broses o ymgeisio am swydd. Ond, mae cydbwyso cyflawniad academaidd a phrofiad gwaith perthnasol yn gallu cymryd amser ac ymdrech, yn enwedig i’r rhai sy’n jyglo nifer o ymrwymiadau yr un pryd. Yr adnodd mwyaf defnyddiol a weles i wrth geisio diweddaru fy CV oedd defnyddio’r sesiynau galw heibio sy’n cael eu cynnig yn ddyddiol gan y gwasanaeth gyrfaoedd. Roedd cael pâr arall o lygaid i edrych dros bopeth yn amhrisiadwy.
Un o’r adrannau yn fy CV dwi bob amser wedi cael trafferth ei llenwi yw’r adran sgiliau, a hynny yn rhannol am y gall fod yn anodd gwybod pa un yw’r pwysicaf i’w restru a hefyd am y gall fod yn anodd yn aml i lunio rhestr o sgiliau yn y fan a’r lle. Er mwyn helpu i lenwi’r adrannau hyn, fe ddefnyddies i gyfuniad o wybodaeth am fodiwlau a Offeryn Darganfod Digidol Jisc, a ddefnyddies i i adnabod fy hyfedredd â thechnoleg.
Gloywi’ch Presenoldeb Digidol 👣
Un o’r camau cyntaf gymeres i yn gynnar yn y broses o ymgeisio am swyddi oedd diweddaru a sgleinio fy mhroffil ar LinkedIn. Ar ôl cael fy sbarduno gan sesiwn ‘How to use LinkedIn‘ yn ystod yr Ŵyl Sgiliau Digidol, adolyges i lawer o’m proffil blaenorol a chreu rhywbeth y gallaf ei ddefnyddio ar gyfer ceisiadau am swyddi erbyn hyn.
Mae gwirio’ch ôl troed digidol yn elfen sy’n aml yn cael ei hanwybyddu wrth wneud cais am swyddi mewn oes ddigidol. Mae fy nghyd-Bencampwr Digidol Noel wedi ysgrifennu blogbost defnyddiol yn edrych ar y camau y gallwch eu cymryd i ddiogelu’ch ôl troed digidol a sicrhau bod y cyhoedd a chyflogwyr yn gallu gweld yr hyn rydych chi am iddyn nhw ei weld a dim byd arall. Mae’r Tîm Sgiliau Digidol hefyd wedi curadu casgliad LinkedIn Learning ar reoli eich hunaniaeth ddigidol.
Y Gwasanaeth Gyrfaoedd 💬
Os ydych chi’n chwilio am gyngor mwy penodol, y gwasanaeth gyrfaoedd yw’r bobl orau i siarad â nhw ac mae manylion am y ffordd orau o ddefnyddio’r gwasanaeth ar eu tudalennau gwe, ac mae’r cymorth yn agored i fyfyrwyr presennol ac ôl-raddedigion.
Diwrnod Byd-eang Gweithio Gartref 🏡
Blogbost gan Shân Saunders (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)
Gweithio gartref yw’r norm newydd i’r rhan fwyaf o bobl erbyn hyn gyda swyddfeydd cartref bellach yn rhan annatod o’r rhan fwyaf o aelwydydd. Mae gallu gweithio gartref yn fanteisiol mewn sawl ffordd ond gall hefyd olygu ein bod yn treulio gormod o amser o flaen sgrin yn ogystal â gorfod addasu i ffyrdd newydd o weithio. Gan fod heddiw yn ddiwrnod byd-eang gweithio gartref, rydym am rannu ein cynghorion a’n hawgrymiadau ar gyfer gweithio gartref yn fwy llwyddiannus.
- Camwch i ffwrdd o’r ddesg!
Yn yr un modd â gweithio mewn unrhyw swyddfa, mae cael seibiannau rheolaidd a chamu i ffwrdd o’ch cyfrifiadur yn hanfodol. Gallai hyn olygu cymryd hoe i wneud diod, cymryd amser i ymestyn neu hyd yn oed wneud rhywfaint o ioga desg! Gallwch weld y cyrsiau a’r fideos LinkedIn Learning isod i gael rhai awgrymiadau ar gymryd seibiannau a chyrsiau ymestyn (mae pob cwrs LinkedIn Learning ar gael yn Saesneg yn unig).
- Chair Work: Yoga Fitness and Stretching at Your Desk (33m)
- Computer and Text Neck Stretching Exercises (20m)
- Workings from Home: Schedule Breaks (1m 7e)
- A yw eich desg wedi’i gosod i lwyddo?
Mae ergonomeg ddigidol yn bwysig i helpu’ch cynhyrchiant a theimlo’n gyfforddus ac yn hapus â’ch gofod ond mae’n angenrheidiol ar gyfer cynnal eich iechyd corfforol hefyd! Gallwch wella eich ergonomeg ddigidol trwy sicrhau bod eich gofod swyddfa gartref wedi’i osod yn gywir, eich bod yn ymwybodol o straen ar y llygaid a’ch bod yn gwneud yr addasiadau angenrheidiol lle gallwch. Gallwch ddysgu mwy am ergonomeg ddigidol drwy’r adnoddau isod:
- Cadw Llygaid ar y Wobr: Canllaw i Fyfyrwyr ar drechu Straen Llygaid Cyfrifiadurol
- Casgliad LinkedIn Learning: Ergonomeg Ddigidol
- Ergonomics 101 (35m)
- Sefydlu Trefn
Mae gweithio gartref yn fanteisiol iawn, ond gall fod yn hawdd iawn ymgolli yn eich gwaith a cholli eich diwrnod a dyna pam ei bod hi mor bwysig sefydlu trefn. Gall hyn gynnwys cymryd egwyl ginio gyson, cael amseroedd canolbwyntio penodol ar ddiwrnodau penodol ac os oes gennych dasgau rheolaidd, cwblhau’r rhain ar yr un diwrnod. Edrychwch ar y fideos a’r cyrsiau isod i gael awgrymiadau ar sefydlu trefn.
- Canllaw i Fyfyrwyr ar Offer Rheoli Amser
- Awgrymiadau ar gyfer Meistroli eich Amserlen
- Productivity Tips: Establishing a productive daily routine (2m 40e)
- Cyfarfodydd Ar-lein Perffaith
Mae cyfarfod yn rhithiol bellach yn ofyniad i unrhyw un sy’n gweithio o bell a daw hyn â math newydd o safonau. Mae’n bwysig cynnal proffesiynoldeb wrth weithio o’ch swyddfa gartref. Gall hyn olygu cael cefndir rhithiol, sicrhau bod gennych glustffonau o ryw ffurf, ymuno â’r cyfarfodydd yn gynnar a bod yn ymwybodol a yw eich meicroffon neu’ch camera ymlaen. Gallwch ddysgu mwy am yr arferion gorau ar gyfer cyfarfodydd ar-lein yn yr adnoddau isod.
- 6 Awgrym i gael Cyfarfodydd Ar-lein Llwyddiannus
- Working from Home: Online meeting protocols and phone manners (1m 37e)
- Etiquette for video meetings (3m 10e)
- Cadw mewn cysylltiad
Er bod cymaint o fanteision i weithio gartref, gall fod yn ynysig ac yn anodd cynnal y cyfathrebu â chyd-gyfoedion ac felly mae’n bwysig iawn cadw mewn cysylltiad. Y ffordd orau o wneud hyn yw defnyddio offer cyfathrebu ar-lein. Gall hyn olygu defnyddio Microsoft Teams neu ddogfennau cydweithredol megis Word online neu SharePoint. Gallwch ddysgu mwy am y gwahanol fathau o ffyrdd i gadw mewn cysylltiad isod.
Rhowch flaenoriaeth i’ch lles digidol ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl Prifysgolion
Blogbost gan Sioned Llywelyn (Arweinydd Sgiliau Digidol)
Yn yr oes sydd ohoni, mae’r rhan fwyaf ohonom yn dibynnu’n helaeth ar dechnoleg. Er bod y byd digidol yn cynnig posibiliadau ac adnoddau diddiwedd, mae’n hanfodol parhau i gofio ei effeithiau posibl ar ein lles digidol. A hithau’n Ddiwrnod Iechyd Meddwl Prifysgolion dyma gyfle perffaith i rannu detholiad o awgrymiadau ac adnoddau i’ch helpu i gael perthynas iachach â thechnoleg.
Hoffem glywed oddi wrthych! Pa strategaethau neu adnoddau sydd fwyaf defnyddiol i chi wrth gynnal perthynas iach â thechnoleg?
A oes bywyd ar ôl cyfryngau cymdeithasol? – Fy mis o wneud detocs digidol 📵
Blogbost gan Noel Czempik (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
Ydych chi erioed wedi teimlo bod eich ffôn yn eich rheoli chi mwy nag yr ydych chi’n rheoli eich ffôn? Dyna’n union yr oeddwn i’n ei deimlo, nes i mi gyrraedd croesffordd y llynedd. Yn rhwystredig oherwydd yr ymdrechion aflwyddiannus i leihau fy amser ar sgrin a’r teimlad o fod yn sownd mewn byd digidol, cychwynnais ar daith ddadwenwyno digidol trwy gydol mis Rhagfyr – gallwch ddarllen amdani yma.
Yn y blogbost hwn, byddaf yn rhannu fy mhrofiad, yr uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau, a’r gwersi a ddysgais o adennill rheolaeth dros fy arferion digidol.
👍 Newidiadau cadarnhaol o’m detocs
- Llai, nid mwy, o unigrwydd. Wnes i erioed sylweddoli faint yr oedd cyfryngau cymdeithasol yn draenio fy matri cymdeithasol. Ar ôl peth amser hebddo, roeddwn i’n ei chael hi’n haws mynd allan a rhyngweithio â phobl, ac yn sicr ni wnes i golli’r ofn fy mod yn colli allan.
- Gwell ymwybyddiaeth emosiynol. Roeddwn i’n meddwl bod defnyddio fy ffôn yn helpu i reoleiddio fy emosiynau, ond dim ond tynnu sylw ydoedd. Ar ôl addasiad annymunol, gallwn gydnabod a phrosesu fy nheimladau’n fwy iach.
- Trefn bore newydd. Roeddwn i’n meddwl nad oedd gen i un, ond fy nhrefn boreol oedd defnyddio fy ffôn. Ar ôl i mi stopio, roeddwn i’n ei chael hi’n haws gwneud pethau eraill, megis ysgrifennu yn fy nyddiadur gyda phaned o de.
- Cynhyrchiant a chreadigrwydd diymdrech. Gallwn wneud llawer yn yr eiliadau bach hynny pan fyddwn fel arfer yn codi fy ffôn. Roedd fy meddwl yn glir hefyd i feddwl am fy natrysiadau fy hun yn hytrach na chwilio amdanynt ar-lein.
- Gorffwys gwell. Roedd ansawdd fy nghwsg yn gwella, ac roedd seibiannau bach yn ystod y dydd yn fwy hamddenol.
- Byw i’r funud. Roedd hi’n haws mwynhau’r cyfnodau bach bob dydd ac roedd amser fel petai’n arafu.
👎 Rhai o’r anfanteision a’r heriau a brofais
- Ymfudodd fy arferion digidol i apiau eraill. Am gyfnod, roeddwn i’n ei chael hi’n anodd peidio â disodli’r cyfryngau cymdeithasol gyda YouTube neu hyd yn oed sgrolio trwy fy lluniau neu negeseuon. Roedd ap ScreenZen yn ddefnyddiol iawn – Darllenwch fy adolygiad o’r ap yma.
- Y cyfnod addasu. Am beth amser, roeddwn i’n teimlo’n anniddig ac yn ddiflas ac yn crefu i gael defnyddio fy ffôn trwy’r amser. Roedd angen i mi ail-ddysgu sut i dreulio fy amser a bod yn amyneddgar.
- Yr anghyfleustra. Roeddwn i’n synnu faint oedd angen i mi ddefnyddio fy ffôn i wirio’r amser, gosod y larwm neu’r amserydd, defnyddio dilysu aml-ffactor, neu dalu am bethau.
- Colli allan. Mae llawer o ddigwyddiadau, megis gigs lleol neu ddigwyddiadau clybiau a chymdeithasau, yn cael eu hysbysebu ar-lein yn unig. Roeddwn i’n cael gwybod am lawer o gyfleoedd ar ôl iddynt ddigwydd, a hyd yn oed wrth chwilio’n rhagweithiol, roedd y rhan fwyaf o ganlyniadau chwilio yn mynd â mi i wefannau cyfryngau cymdeithasol, a oedd yn aml yn golygu mewngofnodi i gael mynediad at y cynnwys llawn.
Fy nghyngor i’r rhai sydd â diddordeb mewn gwneud detocs digidol
- Nid oes rhaid iddo fod yn berffaith. Hyd yn oed os oes angen i chi ddefnyddio dyfeisiau ar gyfer gwaith / astudio neu os ydych yn baglu o ran eich ymrwymiadau, mae’n dal yn bosibl – gallwch chi elwa yn fawr o’r profiad o hyd.
- Addasu wrth i chi fynd. Efallai y bydd angen i chi addasu eich disgwyliadau os nad yw pethau’n mynd yn union fel y cynlluniwyd, nid methiant yw hyn. Dathlwch lwyddiannau bach a dod o hyd i’r hyn sy’n teimlo’n dda i’ch helpu i adeiladu arferion cynaliadwy.
- Nid yw’n ddedwyddwch llwyr, ond nid yw’n ddiflastod llwyr chwaith. Bydd adegau pan fyddwch chi eisiau rhoi’r gorau iddi ac adegau pan na fyddwch chi’n difaru dim. Bydd eich profiad a phopeth rydych chi’n ei ddysgu amdanoch chi’ch hun yn unigryw, ac efallai taw hyn yw’r peth mwyaf gwerthfawr.