TipDigi 9 – Recordio eich sgrin yn uniongyrchol yn PowerPoint 🎥

Os oes angen i chi gynnwys recordiad sgrin yn eich cyflwyniad PowerPoint, gallwch wneud hynny’n uniongyrchol yn PowerPoint heb orfod defnyddio unrhyw feddalwedd arall! Agorwch PowerPoint, ac yna gwyliwch y fideo isod neu dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:

  • Dewiswch Recordio (Record)
  • Dewiswch Recordio Sgrin (Screen Recording)
  • Agorwch y dudalen yr ydych am ei recordio
  • Cliciwch ar Dewiswch yr Ardal (Select Area) a dewiswch yr union ran o’r sgrin yr ydych am ei recordio
  • Dewiswch Sain (Audio) os ydych am recordio sain gyda’ch fideo
  • Dewiswch Recordio (Record) (dylech weld 3, 2, 1 ar eich sgrin cyn bod y recordio’n dechrau) a chwblhewch eich recordiad
  • Pan fyddwch wedi gorffen eich recordiad, gadewch i’ch llygoden hofran ar dop y sgrin a dewiswch Stop (Stop)
  • Bydd eich recordiad sgrin yn cael ei ludo’n awtomatig yn eich cyflwyniad PowerPoint
  • Gallwch olygu eich recordiad drwy glicio ar eich recordiad a dewis Chwarae (Playback)

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Graddedigion PA – Wythnos 1 (Francesca Hughes)

Post blog gan Laurie Stevenson (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

*Darllenwch fy mlog cyntaf i ddysgu mwy am ein Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Graddedigion*

Francesca yw ein myfyriwr graddedig cyntaf i gael ei chyfweld ac mae hi bellach yn gweithio fel ysgrifennydd cynorthwyol o fewn y GIG a byddai wedi hoffi gwella ei gwybodaeth a’i medrusrwydd o ran defnyddio MS Excel cyn iddi raddio. 

Mae dau ddigwyddiad yn ein Gŵyl Sgiliau Digidol (6-10 Tachwedd 2023) ar ddefnyddio Excel at ddefnydd bob dydd yn ogystal â gweithio gyda setiau mwy cymhleth o ddata. I gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru eich lle ar unrhyw ddigwyddiadau yn yr ŵyl, ewch i edrych ar y rhaglen

Read More

Dysgwch sut i godio am ddim gyda CoderPad yn LinkedIn Learning

Efallai fod yna lawer o wahanol resymau pam yr hoffech ddysgu codio. Mae’n bosibl ei bod yn sgil yr hoffech ei hymarfer ar gyfer eich gradd; gallai fod yn hobi i chi; neu efallai fod gennych ddiddordeb mewn datblygu’r sgil hon i wella eich cyflogadwyedd.

Mae gwybod sut i godio yn sgil hynod o werthfawr, ond os ydych chi’n newydd i godio, fe allai fod yn anodd gwybod sut i ddechrau arni. Yn ffodus, mae LinkedIn Learning, llwyfan dysgu ar-lein y mae gan bob myfyriwr ac aelod o staff PA fynediad am ddim iddo, (dysgu sut i ddechrau arni), wedi lansio partneriaeth newydd gyda CoderPad.

Maent wedi lansio amrywiaeth o gyrsiau Heriau Cod newydd ar Python, Java, SQL, JavaScript, C#, a Go, a gynlluniwyd i helpu dysgwyr o ddechreuwyr i ddysgwyr uwch i ddatblygu eu sgiliau codio trwy ymarferion rhyngweithiol ac adborth amser real.

Gwyliwch y fideo isod i ddysgu mwy am yr heriau hyn:

Ar hyn o bryd mae 33 o Heriau Cod (ond mae hyn yn cynyddu’n barhaus), a gallwch hefyd ddysgu sut i godio ac ymarfer eich sgiliau gyda chyrsiau rhaglennu GitHub ychwanegol yn LinkedIn Learning.

Dyma ychydig o gyrsiau Heriau Cod i chi ddechrau arni!

Heriau Cod i Ddechreuwyr

Heriau Cod Uwch

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am unrhyw ran o’r cynnwys a grybwyllir uchod, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol am LinkedIn Learning, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).

TipDigi 8: Cyfyngu ar eich amser sgrolio ar Instagram 🤳

Ydych chi’n cael trafferth canolbwyntio ar eich gwaith? Ydych chi’n oedi a gohirio ar gyfryngau cymdeithasol?  

Oes angen i chi gyfyngu ar eich amser sgrolio? 

Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi nawr gyfyngu ar eich amser sgrolio trwy’r gosodiadau ar Instagram?  

Ewch i: 

  • Settings, 
  • Time spent, 
  • Set daily time limit. 

Gallwch osod y cyfyngiadau hyn fel bod nodyn atgoffa yn ymddangos ar ôl cyfnod o’ch dewis sy’n awgrymu eich bod yn cymryd egwyl.  

I ailosod yr amserydd, caewch yr ap a’i ailagor. 

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

Cyflwyno ein cyfres newydd o ‘Broffiliau Sgiliau Digidol Graddedigion PA’! 

Blog bost gan Laurie Stevenson (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Fel rhan o brosiect a drefnir gan y Pencampwyr Digidol Myfyrwyr, byddwn yn cyhoeddi cyfres wythnosol o gyfweliadau â graddedigion Prifysgol Aberystwyth am eu defnydd o sgiliau digidol yn eu bywydau ers graddio, boed hynny yn eu swydd bresennol, astudiaeth ôl-raddedig neu ar lwybr eu gyrfa. Byddwn hefyd yn clywed am y sgiliau yr hoffent fod wedi eu datblygu cyn iddynt adael Prifysgol Aberystwyth. 

Byddwn yn rhyddhau pedwar proffil y tymor hwn, un yr wythnos ar ddydd Iau, a bydd yr hanner arall yn cael ei ryddhau yn Semester 2. Bydd y proffil cyntaf yn cael ei gyhoeddi ddiwedd yr wythnos a bydd ar gael o’r dudalen hon ar y Blog Sgiliau Digidol, ond yn y cyfamser edrychwch ar Fframwaith Galluoedd Digidol JISC, sef y fframwaith rydym yn ei ddilyn yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, i ddysgu beth yw sgiliau digidol a pham eu bod yn bwysig i chi. 

Cofiwch ymweld â’r blog Ddydd Iau i ddarllen ein proffil cyntaf! 

TipDigi 7 – Dysgwch sgiliau digidol newydd am ddim gyda’n casgliadau sgiliau digidol o LinkedIn Learning 💻

Ydych chi eisiau dysgu neu ddatblygu eich sgiliau digidol ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? Gyda’n casgliadau sgiliau digidol LinkedIn Learning, gallwch bellach ddatblygu eich sgiliau digidol ymhellach gyda chyrsiau a fideos hawdd eu deall sydd wedi’u teilwra’n fwy penodol i’r hyn yr ydych chi’n chwilio amdano. Gydag amrywiaeth o gynnwys i ddewis ohonynt yn LinkedIn Learning, rydym wedi datblygu 30 casgliad newydd (15 i fyfyrwyr a 15 i staff) i’ch cynorthwyo ym Mhrifysgol Aberystwyth i ddod o hyd i’r cynnwys mwyaf priodol sy’n addas ar gyfer yr hyn yr hoffech ddysgu amdano. Mae pob casgliad yn cynnwys 9 o adnoddau, a gall yr adnoddau hyn amrywio o fideos byr 3 munud i gyrsiau mwy manwl.  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y casgliadau LinkedIn Learning hyn, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).  

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigi6 – Gosod eich statws am gyfnod penodol yn MS Teams i ddangos eich bod yn brysur 🔕

Weithiau, mae’n bosibl y bydd angen i chi neilltuo rhywfaint o amser i ganolbwyntio ar ddarn penodol o waith, ond sut mae dangos i bobl eraill sydd hefyd ar-lein eich bod yn brysur? Mae Microsoft Teams yn eich galluogi i osod eich statws ar Peidiwch â tharfu (Do not disturb), sy’n golygu na fydd hysbysiadau neu alwadau Teams yn tarfu arnoch (oni bai eich bod yn dewis eu cael gan bobl benodol). Ond mae’n hawdd anghofio diffodd y statws hwnnw pan fyddwch wedi gorffen.

Yn ffodus, mae Teams yn eich galluogi i osod eich statws am gyfnod penodol. Gwyliwch y fideo isod neu dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:

  • Agorwch MS Teams a chliciwch ar eich llun proffil
  • Cliciwch ar eich statws presennol
  • Dewsiwch Hyd (Duration)
  • Dewiswch Peidiwch â tharfu (Do not Disturb) (neu ba statws bynnag yr ydych am iddo ymddangos)
  • Dewiswch am ba hyd yr ydych am i’r statws hwn ymddangos
  • Cliciwch ar Cwblhau (Done)

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos! 

Dewch i’n sesiynau galw heibio Sgiliau Digidol trwy gydol Semester 1

Bydd aelod o’r tîm ar gael bob wythnos i gefnogi myfyrwyr a staff yn ein sesiynau galw heibio Sgiliau Digidol. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i adnoddau i ddatblygu eich sgiliau digidol; rhoi cyngor cyffredinol i chi am ddatblygu eich sgiliau digidol; ac rydym hefyd yn hapus iawn i drafod eich adroddiadau Offeryn Darganfod Digidol.

📍 Byddwn yn yr Hwb Sgiliau (a ddangosir gan y seren ar y ddelwedd isod) yn Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen ar y dyddiau Mawrth a Mercher isod drwy gydol semester 1. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso mawr i chi e-bostio digi@aber.ac.uk.

Dydd Mawrth
⏰ 11:00-12:00
Dydd Mercher
⏰ 10:00-11:00
Hydref ’2311 Hydref ’23
17 Hydref ’2325 Hydref ’23
31 Hydref ’23Tachwedd ’23
14 Tachwedd ’2322 Tachwedd ’23
28 Tachwedd ’23Rhagfyr ’23
12 Rhagfyr ’23

TipDigi 5: Holltwch eich sgrin a chwblhau sawl tasg ar yr un pryd 💻

Ydych chi’n gweithio ar un sgrin ac yn ei chael hi’n anodd? Ydych chi wedi blino ar newid rhwng dwy ffenestr? 

Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi hollti’ch sgrin i weld dau beth ar unwaith sy’n ei gwneud hi’n llawer haws edrych ar ddwy ffenestr ar yr un pryd? Mae hyn yn golygu y gallwch weithio ar ddogfennau, tabiau a llawer mwy ochr yn ochr.  

  • Ar eich bysellfwrdd, i ochr chwith y bar gofod mae’r botwm Windows
  • Daliwch y botwm Windows ac yna tapio unrhyw allwedd saeth yr hoffech. Er enghraifft, daliwch y fysell Windows ac yna tapiwch y fysell saeth chwith.  
  • Bydd hyn yn symud eich dogfen i ochr chwith eich sgrin.  
  • Byddwch yn gweld yr holl ffenestri agored sydd gennych i lenwi gweddill y sgrin. Dewiswch ba ffenestr yr hoffech ei hagor. 

Noder, mae’r cyfarwyddiadau hyn ar gyfer Windows PC yn unig. Os ydych chi’n gweithio ar Mac, edrychwch ar y cyfarwyddiadau canlynol i hollti’r sgrin: Use two Mac apps side by side in Split View – Apple Support (UK) 

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!