At Sylw’r Holl Staff 📣 – Yn cyflwyno’r Llyfrgell Sgiliau Digidol!  

Yellow and Blue banner with laptop, AU logo, and the text Digital Skills Library

Mae’r Tîm Sgiliau Digidol yn falch o gyhoeddi lansiad y Llyfrgell Sgiliau Digidol newydd i staff. Mae’r Llyfrgell Sgiliau Digidol yn gasgliad ar-lein o adnoddau a ddewiswyd yn benodol gan PA ac adnoddau allanol i helpu pob aelod o staff i ddatblygu eu sgiliau digidol. Mae hyn yn cynnwys ffyrdd o gefnogi eich hunaniaeth ddigidol a’ch lles, arweiniad ynghylch dysgu a datblygu megis cyfarwyddiadau CMS, cyngor i wella’ch cyfathrebu digidol a llawer mwy.  

Mae’r Llyfrgell Sgiliau Digidol ar gael i’r holl staff ddatblygu eu sgiliau digidol. Fodd bynnag, yn ogystal â hyn, mae gennym adnoddau penodol hefyd i helpu gydag addysgu, gan gynnwys cyngor ar Blackboard, canllawiau llyfrgell ac adnoddau i gefnogi addysgu ar-lein.  

Ewch i’r Llyfrgell Sgiliau Digidol Staff heddiw!  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, problemau wrth geisio cael mynediad i’r Llyfrgell Sgiliau Digidol, neu awgrymiadau ar gyfer adnoddau newydd, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol yn digi@aber.ac.uk

Adnoddau i’ch helpu i baratoi ar gyfer eich arholiadau

Wrth i ni agosáu at ddechrau cyfnod yr arholiadau, rydym wedi rhestri amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i wneud y gorau o dechnoleg wrth i chi baratoi ac adolygu ar gyfer eich arholiadau.

Yellow and Blue banner with laptop, AU logo, and the text Digital Skills Library

Llyfrgell Sgiliau Digidol Myfyrwyr

Mae yna adnoddau ym mhob un o’r chwe chasgliad a fydd yn eich cefnogi chi i wneud y mwyaf o dechnoleg wrth i chi baratoi ar gyfer eich arholiadau

Mae gan y casgliad hwn rai awgrymiadau a chyngor i’ch helpu i adolygu ac astudio ar gyfer eich arholiadau

Gall tymor yr arholiadau fod yn gyfnod heriol i fyfyrwyr. Mae’r casgliad hwn yn cynnig rhai strategaethau a chyngor er mwyn ichi allu rheoli eich straen adeg yr arholiadau

Edrychwch hefyd ar y Cwestiynau a Holir yn Aml am yr arholiadau, ac os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch unrhyw un o’r adnoddau sydd wedi’u rhestri uchod, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).

Beth alla i ei ddysgu yn y Llyfrgell Sgiliau Digidol newydd?

Fe gyhoeddon ni bostiad blog yn gynharach yr wythnos hon yn eich cyflwyno i’n Llyfrgell Sgiliau Digidol newydd. Mae’r Llyfrgell Sgiliau Digidol yn cynnwys chwe chasgliad o adnoddau PA ac allanol i gefnogi myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i ddatblygu ystod o sgiliau digidol newydd a presennol.

Rydym wedi bod yn lansio’r casgliadau hyn ar sianeli cyfryngau cymdeithasol GG drwy gydol yr wythnos hon, ond gallwch hefyd edrych ar y delweddau isod i ddarganfod yr ystod o sgiliau digidol y gallech chi eu dysgu ym mhob un o’r chwe chasgliad.

Bydd y Llyfrgell Sgiliau Digidol ar gyfer staff yn cael ei lansio ym mis Mehefin 2023. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu broblemau yn defnyddio’r Llyfrgell Sgiliau Digidol, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).  

Cyflwyno’r Llyfrgell Sgiliau Digidol! 💻🔎

Yellow and Blue banner with laptop, AU logo, and the text Digital Skills Library

Rydym wedi bod yn gweithio ar ddod â chasgliad o adnoddau PA ac allanol at ei gilydd i helpu myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i ddatblygu ystod o sgiliau digidol newydd a presennol. Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys eich addysgu am eich ôl troed digidol; a’ch helpu i wella’ch lles a’ch hunaniaeth ddigidol trwy ddarparu adnoddau i helpu gyda straen arholiadau a gwybodaeth am ‘gwe-gwrteisi’ (ymddygiad ar-lein).  

Ond yn ogystal â hyn, mae gan ein Llyfrgell Sgiliau Digidol adnoddau i helpu gyda’ch addysg a’ch datblygiad digidol. Mae gennym ni adnoddau ar gyfer defnyddio meddalwedd penodol, er enghraifft sut i godio gyda Python, yn ogystal â defnyddio meddalwedd dylunio graffeg a golygu delweddau fel Adobe Photoshop a Canva.

Rydym hefyd wedi cadw mewn cof y gallech chi fod eisiau gwella rhai o’ch sgiliau digidol presennol ac felly rydym wedi cynnwys adnoddau i’ch helpu i ddysgu syniadau a thriciau newydd mewn meddalwedd cyfarwydd fel Microsoft Excel, PowerPoint, Teams, a llawer mwy!  

Ewch i ymweld â’r Llyfrgell Sgiliau Digidol myfyrwyr heddiw a gallech hefyd ymweld â’n stondin ar Lefel D (llawr gwaelod) Llyfrgell Hugh Owen yr wythnos hon er mwyn dysgu mwy.

Bydd y Llyfrgell Sgiliau Digidol ar gyfer staff yn cael ei lansio ym mis Mehefin 2023. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu broblemau yn defnyddio’r Llyfrgell Sgiliau Digidol, e-bostiwch digi@aber.ac.uk.