Cadw Llygaid ar y Wobr: Canllaw i Fyfyrwyr ar drechu Straen Llygaid Cyfrifiadurol 👁

Blogbost gan Joel Williams (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Er y gall cyfrifiaduron fod yn offer ardderchog i gynyddu a symleiddio cynhyrchiant myfyriwr, gall syllu ar sgrin drwy’r dydd gael sawl effaith andwyol. Trwy’r blogbost yma, a hyn a’m ffeithlun cysylltiedig, rwy’n gobeithio rhoi sawl awgrym rwyf wedi’u defnyddio i helpu i wneud defnyddio cyfrifiaduron yn brofiad mwy pleserus trwy gydol fy ngradd. Yn y blogbost hon byddaf yn trafod un anhwylder cyffredin sy’n gysylltiedig â gweithio ar gyfrifiadur, sef straen llygaid. Gall straen llygaid ddigwydd ar ôl cyfnodau estynedig o edrych ar yr un monitor neu drwy ddefnyddio cyfrifiadur mewn amgylchedd sydd wedi’i oleuo’n wael.   

Rheol 20-20-20

Un o’r dulliau hawsaf i’w mabwysiadau yn fy astudiaethau yw’r rheol 20-20-20; Mae’r dull hwn yn golygu cymryd egwyl bob 20 munud, ac edrych ar wrthrych 20 troedfedd i ffwrdd (peidiwch â phoeni, nid oes angen i hyn fod yn fanwl gywir), am 20 eiliad. Byddai amrantu’n aml yn ystod y cyfnod hwn yn syniad da hefyd, oherwydd y gall hyn helpu i ymlacio cyhyrau’r llygaid a lleihau’r tebygolrwydd o straen ymhellach.  

Gallwch ddarganfod mwy am hyn drwy’r Cwrs LinkedIn Learning

Lleihau Golau Glas  

Dull arall o leihau straen llygaid yw cyfyngu ar olau glas oherwydd y gall y golau glas a gynhyrchir gan sgriniau leihau cyfanswm y melatonin a gynhyrchir (Yr hormon cwsg), a all darfu ar ein cylchoedd cysgu naturiol ac arwain at straen llygaid ar ddiwedd y dydd. Mae’r pwnc hwn yn dal i fod yn destun dadl wyddonol, a gallwch ddarllen mwy amdano yma. Mae hyn yn haws i’w osod ar beiriannau personol ond gyda rhywfaint o addasu gellir ei ddefnyddio ar bron bob un o gyfrifiaduron y Brifysgol. 

Mae dwy brif ffordd o reoli hyn: 

  • Yn gyntaf, gallwch ddefnyddio meddalwedd i leihau amlygiad i olau glas; mae gan MacOS a Windows osodiadau parod, Night Shift a Nightlight yn y drefn honno; Gallwch hyd yn oed alluogi Nightlight ar gyfrifiaduron y brifysgol.  
  • Yn ail, mae gan fwyafrif y monitorau a’r sgriniau gliniaduron opsiynau sy’n eich galluogi i reoli disgleirdeb a gwrthgyferbyniad, gan eich galluogi i gyflawni canlyniad tebyg. Fodd bynnag, os ydych chi’n chwilio am fwy o addasiadau, gallwch ddefnyddio rhaglenni rhad ac am ddim megis f.lux sy’n gweithio ar MacOS, Windows a Linux, a gall ddarparu llawer mwy o reolaeth dros dôn y sgrin (a ddangosir isod).  

Yn olaf, gellir defnyddio sbectol golau glas hefyd i hidlo golau nid yn unig o’ch sgrin ond hefyd o’r amgylchedd cyfagos a gellir eu prynu’n rhad gan sawl manwerthwr.   

Galluogi Modd Tywyll  

Yn olaf, strategaeth arall sy’n gweithio’n dda ar lawer o’r rhaglenni rwyf fi wedi’u defnyddio yn ystod fy nghwrs i leihau straen llygaid yw galluogi modd tywyll; gellir gwneud hyn o fewn MacOS a Windows ac mae’r ddau wedi’u cynllunio i gynorthwyo gweithio mewn amgylcheddau gyda goleuadau amgylchynol gwael.   

Fodd bynnag, bydd angen camau ychwanegol i newid rhaglenni megis Office a rhai porwyr rhyngrwyd. Gellir dod o hyd i gamau i newid Office i’r modd tywyll yma, a gallwch drosi unrhyw borwr sy’n seiliedig ar Chrome i’r modd tywyll gan ddefnyddio estyniadau a geir yn Storfa We Chrome.  

Mae mwy o wybodaeth ar gael yng nghasgliad Ergonomeg Ddigidol LinkedIn Learning, cliciwch ar y ddelwedd uchod neu defnyddiwch y ddolen hon

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*