Mynediad am ddim i LinkedIn Learning

Mae LinkedIn Learning, adnodd E-ddysgu a ddarperir gan drydydd parti, ar gael yn rhad ac am ddim i holl fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth.

LinkedIn Learning Logo

Beth yw LinkedIn Learning?

Mae gan y llwyfan dysgu ar-lein hwn lyfrgell ddigidol helaeth o gyrsiau a fideos byr dan arweiniad arbenigwyr; mae’r rhain yn amrywio o gyrsiau busnes i gynnwys creadigol a thechnolegol. Gallwch felly ei ddefnyddio i ddatblygu eich sgiliau proffesiynol, i ddysgu meddalwedd newydd, ac i archwilio meysydd eraill wrth i chi gynllunio ar gyfer datblygiad personol, academaidd a thwf eich gyrfa. 

Dechrau arni

Mae LinkedIn Learning ar gael 24/7 o’ch cyfrifiadur neu ddyfais symudol. Ewch i LinkedIn Learning a mewngofnodwch gyda’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Prifysgol Aberystwyth. Cymerwch olwg ar ein cyfarwyddiadau mewngofnodi.

Mae ein Pencampwyr Digidol Myfyrwyr wedi bod yn brysur yn cynhyrchu nifer o gasgliadau i helpu myfyrwyr i ddod o hyd i gynnwys LinkedIn Learning sy’n gysylltiedig â phynciau amrywiol, gan gynnwys:

Gwybodaeth bellach 

Os cewch unrhyw anawsterau wrth fewngofnodi i LinkedIn Learning, cysylltwch â Gwasanaethau Gwybodaeth (gg@aber.ac.uk). Ar gyfer unrhyw ymholiadau cyffredinol eraill, e-bostiwch digi@aber.ac.uk neu ymweld â’n tudalennau Cwestiynau Cyffredin LinkedIn Learning

LinkedIn Learning: Pa sgiliau newydd y gallech chi eu dysgu?

Post blog gan Laurie Stevenson (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Mae Linkedin Learning yn llwyfan dysgu ar-lein rhad ac am ddim gyda thros 16,000 o gyrsiau ar bopeth o ddatblygiad personol, dylunio, gweithgareddau creadigol, sgiliau astudio, cymorth technegol a llawer mwy! Edrychwch ar y cynnwys hwn o’n cyfrif Instagram @ISAberUni Gwasanaethau Gwybodaeth i gael rhai awgrymiadau a thriciau i’ch rhoi ar ben ffordd. 

Cofrestrwch eich cyfrif erbyn 6 Ionawr 2023 er mwyn cael eich cynnwys mewn raffl lle bydd gennych gyfle i ennill un o dair taleb gwerth £20!

Cliciwch Darllen Mwy isod ar gyfer fersiwn testun o’r delweddau hyn.

Read More