Hyfforddiant i Staff: Galluoedd Digidol

Cychwyn arni gyda’ch galluoedd digidol!

Rydym ni’n cynnig hyfforddiant i staff gydag Offeryn Darganfod Digidol Jisc i helpu i wella eich sgiliau a’ch galluoedd digidol. Byddwn yn rhoi trosolwg o alluoedd digidol, gan weithio drwy hunan-asesiad yr Offeryn Darganfod Digidol a thrafod pa adnoddau sydd ar gael i chi yn ogystal â pha mor bwysig yw galluoedd digidol ar gyfer staff Prifysgol Aberystwyth.

Bydd sesiynau ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar y dyddiadau canlynol:

  • 12 Hydref 2022 (14:00 – 14:45): Getting started with your digital capailities.
  • 18 Hydref 2022 (10:00 – 10:45): Cychwyn arni gyda’ch galluoedd digidol.
  • 20 Hydref 2022 (15:00 – 15:45): Getting started with your digital capabilities.

Gallwch dderbyn rhagor o wybodaeth a sicrhau eich lle drwy’r Wefan Hyfforddi Staff ac ar gyfer unrhyw ymholiad, cysylltwch â Tîm Galluoedd Digidol (digi@aber.ac.uk).

Dewch i ymweld â’n stondin LinkedIn Learning dros yr Wythnos Groeso!

Post blog gan Laurie Stevenson (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Banner with Student Digital Champion

Mae LinkedIn Learning, sy’n blatfform dysgu ar-lein, ar gael am ddim i bob myfyriwr. Mae gan ein stondin wybodaeth am y platfform ac mae’n dangos enghreifftiau o’r math o fideos byr, cyrsiau a sgiliau y gallwch ddod o hyd iddynt yno.

Yn fwy na hynny, os cofrestrwch chi i LinkedIn Learning erbyn diwedd yr Wythnos Groeso, a gallwch wneud hynny ar-lein neu drwy ddefnyddio’r cod QR ar ein stondin, byddwch yn cael eich cynnwys mewn raffl lle bydd cyfle gennych ennill un o dair taleb gwerth £20!

Mae ein stondin wedi’i leoli ar lawr gwaelod Llyfrgell Hugh Owen (Lefel D) yn y cefn ger y grisiau.

Croeso i’n Pencampwyr Digidol Myfyrwyr newydd!

Croeso cynnes i’n Pencampwyr Digidol Myfyrwyr newydd a ymunodd â’r Tîm Galluoedd Digidol ar ddechrau mis Medi! Byddant yn gweithio gyda ni drwy gydol y semester i annog myfyrwyr ar draws y brifysgol i ddatblygu eu galluoedd digidol ac i roi mewnwelediadau gwerthfawr i’r hyn y mae myfyrwyr ei eisiau.

Laurie Stevenson (Cyfadran Gwyddorau Daear a Bywyd)

“Helo, Laurie Stevenson ydw i ac rwy’n astudio Cadwraeth Bywyd Gwyllt. Ar hyn o bryd rwy’n ymgymryd â lleoliad ymchwil blynyddol sy’n canolbwyntio ar ddefnydd llinad y dŵr (duckweed) fel ffynhonnell protein cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, a hefyd ar gyfer glanhau dŵr gwastraff amaethyddol. Mae fy niddordebau penodol ar gael atebion i sut gallwn gynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy er mwyn cynnal poblogaeth fyd-eang sydd yn tyfu ymysg heriau tlodi byd-eang a newid yn yr hinsawdd.

Fe ddewisais fod yn Bencampwr Digidol Myfyrwyr oherwydd roeddwn yn chwilio am rywbeth creadigol i’w wneud y tu allan i’r labordy ac rwy’n mwynhau creu cynnwys ar-lein a chyfathrebu â myfyrwyr eraill. Ro’n i wir yn gwneud defnydd da o’r cynnwys digidol a’r gohebiaethau yr oedd y brifysgol yn cyhoeddi yn ystod fy ail flwyddyn, ac felly byddwn i wrth fy modd yn talu hynny’n ôl a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i brofiadau myfyrwyr drwy’r rôl hon. Rwyf wir yn caru Prifysgol Aberystwyth, ac rwy’n angerddol am helpu eraill i deimlo’r un fath! Yn ystod fy amser hamdden, dwi’n mwynhau nofio dŵr oer trwy’r flwyddyn, dwi’n dysgu Cymraeg a dwi hefyd yn mwynhau mynd am anturiaethau ar hyd y ffyrdd ac ymweld â llefydd newydd yn fy nghar yr ydw i wedi ei drosi yn campervan.”

Read More

Hyfforddiant i Staff Academaidd: Defnyddio LinkedIn Learning i Gefnogi eich Addysgu

Mae LinkedIn Learning yn llwyfan dysgu ar-lein sydd â llyfrgell ddigidol helaeth o gyrsiau a fideos byr dan arweiniad arbenigwyr. Byddwn yn cynnal sesiynau hyfforddi yn ystod mis Hydref 2022 a Ionawr 2023 ar gyfer staff academaidd sydd â diddordeb mewn defnyddio LinkedIn Learning i gefnogi eu haddysgu.

Bydd sesiynau ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar y dyddiadau canlynol:

  • 11 Hydref 2022 (11:00-12:00): Defnyddio LinkedIn Learning i Gefnogi eich Addysgu
  • 13 Hydref 2022 (14:00-15:00): Using LinkedIn Learning to Support your Teaching
  • 17 Ionawr 2023 (12:00-13:00): Using LinkedIn Learning to Support your Teaching
  • 18 Ionawr 2023 (14:00-15:00): Defnyddio LinkedIn Learning i Gefnogi eich Addysgu

Gallwch dderbyn rhagor o wybodaeth a sicrhau eich lle drwy’r Wefan Hyfforddi Staff ac ar gyfer unrhyw ymholiad, cysylltwch â Sioned Llywelyn, Swyddog Galluoedd Digidol (digi@aber.ac.uk).