Hyfforddiant Galluoedd Digidol: Ionawr 2023

Orange banner with Aberystwyth University Logo, and Digital Capabilities Training text

A oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu pa adnoddau sydd ar gael i’ch helpu i asesu a datblygu eich galluoedd digidol? Neu, efallai bod diddordeb gennych chi mewn dysgu mwy am sut y gallwch gefnogi’ch myfyrwyr i ddatblygu eu galluoedd digidol?

Byddwn ni’n cynnal nifer o sesiynau hyfforddi i staff drwy gydol mis Ionawr. Os nad oes modd ichi fynychu’r sesiynau, mae croeso mawr i chi e-bostio digi@aber.ac.uk a gallwn drefnu sgwrs i chi ag aelod o’n tîm.

Sesiynau cyfrwng Cymraeg:

Sesiynau cyfrwng Saesneg:

Yn olaf, hoffem ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i’ch cefnogi yn y flwyddyn newydd!

Dal i fyny gyda’n Pencampwyr Digidol Myfyrwyr!

Rydym yn prysur agosáu at ddiwedd semester 1 ac mae hynny hefyd yn nodi hanner ffordd amser y Pencampwyr Digidol Myfyrwyr gyda ni eleni. Rydym yn dal i fyny heddiw gyda Laurie Stevenson a Jeffrey Clark i glywed am eu profiadau yn y rôl y semester hwn, i gael blas o’r adnoddau gwych y maent wedi’u cynhyrchu ac i ddysgu beth maent yn gobeithio ei gyflawni yn y flwyddyn newydd.

Yn gyntaf, gallwch chi esbonio beth yw Pencampwr Digidol Myfyrwyr?

Jeffrey: Mae Pencampwr Digidol Myfyrwyr yn rhywun sy’n gallu helpu eraill gyda’u dysgu digidol a chyda datblygu eu galluoedd digidol.

Laurie: Mae’n rhywun sy’n dod â’u profiadau eu hunain fel myfyriwr i hyrwyddo a chynorthwyo eraill gyda’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar-lein.

Beth ydych chi wedi ei fwynhau fwyaf am eich rôl?

Laurie: Y gallu i fynegi fy hun yn greadigol a dysgu sgiliau newydd, tra hefyd yn helpu myfyrwyr eraill.

Jeffrey: Rwyf wedi mwynhau creu blogbyst ar y gwahanol agweddau ar alluoedd digidol, fel fy blogbost dwy ran ar Newyddion Ffug a Llên-ladrad – Trechu Newyddion Ffug (Rhan 1)  ac Atal Llên-ladrad (Rhan 2)

Beth yn eich barn chi yw eich cyflawniad mwyaf y semester hwn?

Jeffrey: Fy llwyddiant mwyaf y semester hwn oedd creu blogbyst o ansawdd uchel sydd wedi ennill cryn dipyn o sylw.

Laurie: Creu fy arddangosfa a llyfrnodau deg awgrym mwyaf poblogaidd y Llyfrgell a Gwasanaethau Gwybodaeth (gweler y blogpost admdano) a fydd, yn fy marn i, yn adnodd buddiol i fyfyrwyr nawr ac am flynyddoedd i ddod.

Table and display board with post-it-notes stuck to it.
Arddangosfa Laurie yn Llyfrgell Hugh Owen
Bookmark containing 10 tips for students
Llyfrnod Laurie yn cynnwys
awrgrymiadau i fyfyrwyr

Pa sgiliau newydd ydych chi wedi eu dysgu o’r rôl hon?

Laurie: Rwyf wedi dysgu llawer, gan gynnwys creu cynnwys ar gyfer y cyfryngau, sgiliau dylunio graffeg a sgiliau cyfathrebu.

Jeffrey: Rwyf wedi datblygu fy sgiliau cyfathrebu, sgiliau trefnu, dulliau ymchwil, a gwirio ffeithiau drwy’r rôl hon.

Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni y semester nesaf?

Jeffrey: Rwy’n gobeithio cyrraedd mwy o fyfyrwyr gyda fy mlogbyst er mwyn i mi allu helpu cymaint o fyfyrwyr â phosib.

Laurie: Rwy’n gobeithio parhau i gael yr ymdeimlad o gyflawniad a mwynhad yn y rôl, yn ogystal â dysgu mwy am sut y gall galluoedd digidol helpu myfyrwyr yn y brifysgol.

Diolch yn fawr i Laurie a Jeffrey am eu gwaith caled y semester hwn, ac edrychwn ymlaen at ddysgu rhagor ganddynt yn y flwyddyn newydd!

Fy adolygiad o LinkedIn Learning

Yn y blogpost hyn, mae Jeffrey Clark, un o Bencampwr Digidol Myfyrwyr ein tîm, yn darparu ei adolygiad o LinkedIn Learning

Banner with Student Digital Champion

LinkedIn Learning: Cyflwyniad

Ym Mhrifysgol Aberystwyth mae digonedd o lyfrau a deunyddiau dysgu i gael eich dannedd ynddyn nhw. Ond beth am pan fyddwch chi yn rhywle arall? Neu os ydych chi am archwilio pynciau eraill sy’n denu eich sylw ond dydych chi ddim yn gwybod ble i ddechrau?  Sefydlwyd LinkedIn Learning yn 1995 fel Lynda.com, ac mae’n llwyfan dysgu ar-lein gyda miloedd o gyrsiau i ddewis o’u plith. Mae’r cyrsiau wedi’u cynllunio gan weithwyr diwydiant proffesiynol ac arbenigwyr credadwy mewn meysydd yn amrywio o astudiaethau busnes i lesiant personol. Er bod angen talu am danysgrifiad ar gyfer defnyddio’r gwasanaeth fel arfer, mae myfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth yn gallu mwynhau LinkedIn Learning am ddim ar unrhyw ddyfais!

Read More

Deg awgrym mwyaf poblogaidd y Llyfrgell a Gwasanaethau Gwybodaeth

Banner with Student Digital Champion
Gall cychwyn yn y brifysgol fod yn brofiad heriol, a gall ceisio deall yr agweddau TG ar fywyd prifysgol fod yn ddryslyd. Felly, rydym wedi creu casgliad o awgrymiadau a fideos defnyddiol fel y gallwn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am ein gwasanaethau TG a llyfrgell ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Awgrym 1: Ble mae popeth yn Llyfrgell Hugh Owen? Gwyliwch y daith rithiol hon o’r llyfrgell:

Awgrym 2: Pa adeiladau ar y campws sydd ag argraffwyr i fyfyrwyr? Dyma leoliad pob argraffydd ar y campws.

Awgrym 3: Sut mae argraffu ar un o argraffwyr y Brifysgol? Gwyliwch y fideo byr hwn:

Awgrym 4: Sut mae ychwanegu arian at fy Ngherdyn Aber? Mewngofnodwch i’ch cyfrif yma i ychwanegu arian at eich Cerdyn Aber.

Read More

Newyddion Ffug a Llên-ladrad: Atal y lledaeniad! Rhan 2 – Atal Llên-ladrad

Banner with Student Digital Champion

Peidiwch â chopïo!
Croeso i ran 2 o’n cyfres ar newyddion ffug a llên-ladrad. Y tro diwethaf fe fuon ni’n trafod byd camarweiniol newyddion ffug. Y tro hwn, byddwn ni’n ystyried sawl math o lên-ladrad, sut i osgoi llên-ladrad damweiniol, a ffyrdd o ymdopi â gweithredoedd llên-ladrad bwriadol.

Beth yw llên-ladrad?
Llên-ladrad yw’r weithred o gyflwyno gwaith rhywun arall fel pe bai’n eiddo i chi heb gydnabod awdur neu awduron gwreiddiol y gwaith. Mewn geiriau eraill, mae llên-ladrad yn ffurf ar ladrata ond yn lle dwyn eiddo personol, mae’n weithred o ddwyn syniad neu eiddo deallusol rhywun arall. Mae sawl ffordd o gyflawni llên-ladrad, llawer yn ddamweiniol ac eraill yn fwriadol. Yn ffodus, mae bron pob cwrs ym Mhrifysgol Aberystwyth yn astudio hanfodion uniondeb academaidd yn ogystal â’r cynllun cyfeirnodi priodol i’w ddefnyddio ar gyfer eich cwrs. Ceir mwy o wybodaeth am lên-ladrad drwy’r dudalen LibGuides ar lên-ladrad.

LibGuide Ymwybyddiaeth ynglŷn â Chyfeirnodi a Llên-ladrad

Read More

Ymunwch â’n Her Dysgu’r Nadolig!

Mae ein Her Dysgu’r Nadolig yn dechrau yfory, Dydd Mercher 7 Rhagfyr! Rydym wedi casglu 12 cwrs byr, fideos, a chynnwys sain i chi weld a gwrando dros y 12 diwrnod nesaf o LinkedIn Learning. Mae’r cynnwys hyn yn amrywio o 2-8 munud a byddant yn eich helpu i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau – o ddysgu sut i ddefnyddio byrlwybrau bysellfwrdd yn MS Teams i ddatblygu eich hunanhyder.

Sut mae ymuno â’r her?

Mae dwy ffordd i chi ymuno â’r her:

  • Gallwch naill ai ddilyn y dolenni o’r calendr isod bob dydd o’r her
  • Neu gallwch ddilyn ein Llwybr Dysgu Her Dysgu’r Nadolig (sydd hefyd yn ymddangos ar frig dudalen gartref LinkedIn Learning pan fyddwch chi wedi mewngofnodi).

Ac yn olaf, os nad ydych chi wedi actifadu eich cyfrif LinkedIn Learning eto, cofiwch wneud hynny cyn 6 Ionawr 2023 a byddwn yn eich cynnwys yn awtomatig mewn raffl lle bydd gennych gyfle i ennill un o dair taleb rhodd gwerth £20. Am unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r her, e-bostiwch y Tîm Galluoedd Digidol (digi@aber.ac.uk), a gobeithiwn y byddwch yn mwynhau eich 12 diwrnod o ddysgu!