Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Graddedigion PA – Beth nawr?

Blogbost gan Laurie Stevenson (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Mae hynny’n cloi hanner cyntaf y cyfweliadau â graddedigion yn ein Cyfres o Broffiliau Sgiliau Digidol a bydd yr ail hanner yn cael ei ryddhau yn Semester 2 felly cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol GG am ddiweddariadau!

Yn y cyfamser, o ddarllen yr hyn y mae ein graddedigion yn dweud yr hoffent fod wedi’i ddysgu cyn graddio, efallai eich bod yn meddwl tybed beth sydd ar gael i chi fel myfyriwr PA i wella eich sgiliau digidol? Dyma rhai o’r prif adnoddau sydd ar gael i chi:

Sefydliad Blackboard ‘Sut mae eich sgiliau digidol?’

Rydym wedi datblygu sefydliad Blackboard newydd sy’n rhoi arweiniad cam wrth gam i chi ar sut i ddefnyddio’r holl adnoddau a grybwyllir isod, gan gynnwys Offeryn Darganfod Digidol Jisc a LinkedIn Learning.

Offeryn Darganfod Digidol Jisc

Mae Offeryn Darganfod Digidol Jisc yn adnodd dwyieithog sy’n galluogi chi i hunanasesu eich hyder â thechnoleg. Bydd yn eich galluogi i nodi eich cryfderau yn ogystal â thynnu sylw at gyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau digidol ymhellach.

LinkedIn Learning

Mae’r platfform dysgu ar-lein hwn ar gael am ddim i bob myfyriwr PA ac mae’n cynnwys dros 16,000 o gyrsiau am ddim ar bopeth o olygu lluniau a fideo, codio, sut i chwarae offeryn, cyrsiau celf a chymaint mwy! Os oes gennych ddiddordeb arbennig mewn datblygu eich sgiliau digidol, gallwch hefyd ymweld â’n casgliadau sgiliau digidol yn y platfform. Ysgogwch eich cyfrif heddiw!

Llyfrgell Sgiliau Digidol

Archwiliwch y Llyfrgell Sgiliau Digidol, lle dewch o hyd i adnoddau i’ch helpu i ddatblygu ystod o sgiliau digidol newydd a phresennol o fewn chwe chategori.

Blog Sgiliau Digidol

Yn ogystal â’r gyfres hon, mae gennym ddigonedd o gynnwys diddorol ac addysgiadol ar ein tudalen flog o driciau ar gyfer meddalwedd Microsoft, ein Tipiau Digi wythnosol, i’n Cyfres Lles Digidol.

SgiliauAber

Mae SgiliauAber yn cynnwys ystod eang o adnoddau a gwybodaeth am sesiynau 1-2-1 a gweithdai i’ch helpu i ddatblygu ystod o sgiliau astudio, sgiliau cyflogadwyedd a llawer mwy. Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu eich hyder gyda meddalwedd penodol, gallwch ymweld â’r adran Defnyddio Technoleg yn Aber.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw yn o’r adnoddau a restrwyd uchod, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).

Awgrymiadau ar gyfer Meistroli eich Amserlen 📅

Blogbost gan Joel Williams (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Banner with Student Digital Champion

I gyd-fynd â blogbost a gyhoeddais yr wythnos diwethaf ar sut y gallwch ddefnyddio offer rheoli amser i’ch helpu i feistroli’ch amserlen, rwyf wedi creu ffeithlun (fersiwn testun isod) sy’n crynhoi rhai o’r strategaethau a’r offer allweddol sydd wedi gweithio i mi.

Read More

TipDigi 13 – Trefnu ac oedi anfon eich negeseuon e-bost yn Outlook 📨

Gan ddibynnu ar bwy yr hoffech gyfathrebu â nhw, weithiau mae’n fwy cyfleus i amserlennu ac oedi anfon eich negeseuon e-bost tan amser arall. Mae hyn yn rhoi mwy o amser i chi ail-olygu cynnwys eich e-bost eto os oes angen a gallwch leihau straen i’r dyfodol os gallwch baratoi eich e-byst ymlaen llaw! 

Gwyliwch y fideo isod neu dilynwch y cyfarwyddiadau hyn: 

  • Agorwch neges e-bost newydd wag yn Outlook 
  • Ysgrifennwch yr e-bost a sicrhau eich bod wedi cynnwys derbynnydd a llinell bwnc 
  • Cliciwch ar y tab Ffeil (File) sydd i’w weld ar gornel chwith uchaf y ffenestr e-bost 
  • Dewiswch Priodweddau (Properties)  
  • Sicrhewch fod yr opsiwn Peidio â danfon cyn (Do not deliver before) wedi’i dicio  
  • Dewiswch yr amser a’r dyddiad yr hoffech i’r e-bost gael ei anfon 
  • Cliciwch ar Cau (Close) ac yna Anfon (Send) 

Mae’n werth nodi bod yn rhaid i Outlook fod ar agor i e-bost a oedwyd gael ei anfon allan. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi dewis amser anfon pan fyddwch chi’n gwybod y bydd eich Outlook ymlaen. 

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

Llywio Lles Digidol: Taith bersonol yn yr oes ddigidol

Blogbost gan Noel Czempik (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Fel Pencampwr Digidol Myfyrwyr, cychwynnais ar daith i geisio gwell dealltwriaeth o’n byd digidol a’i effaith ar ein bywydau.  Er cael gwybodaeth am yr offer a’r adnoddau y mae’n ei gynnig, roeddwn yn anfodlon ar fy mherthynas â thechnoleg.  Ysgogodd yr anfodlonrwydd hwn ystyriaeth ddyfnach a llawer o ymchwil, gan wneud i mi sylweddoli rhywbeth pwysig:  Nid man sefydlog yw Lles Digidol ond taith barhaus sy’n gofyn am amrywiaeth o sgiliau i’n cyfarwyddo. 

Y Chwyldro Digidol: Cofleidio Newid trwy Hanes

Mae’r cynnydd ym maes technoleg dros y degawdau diwethaf wedi ail-ffurfio ein bywydau.  Rydym wedi newid o ffonau afrosgo wedi’u cysylltu â llinell dir i ddyfeisiau lluniaidd, sy’n ateb sawl diben ac yn ffitio’n glyd yn ein pocedi.   Nid yw’r newid hwn yn ymwneud â chyfleustra yn unig; mae’n newid sylfaenol sydd wedi ailddiffinio sut rydym yn cyfathrebu, dysgu, gweithio a dadflino.  Mae hefyd wedi dod â phryderon – dibyniaeth ddigidol, gorlwytho gwybodaeth, a’r effaith ar iechyd a lles pobl yr oes ddigidol.

Er nad yw’n hollol newydd, mae ein profiadau presennol yn adleisio chwyldroadau technolegol y gorffennol.  Roedd pryderon tebyg yn bodoli yn ystod cerrig milltir hanesyddol, megis y panig ynghylch darllen a achoswyd gan y wasg argraffu; yn ôl yn y dyddiau hynny aeth y byd i’r afael â ffrwydrad mewn gwybodaeth, yn debyg iawn i’r hyn rydym ni’n wynebu heddiw.  Mae deall y persbectif hanesyddol hwn yn taflu goleuni ar ein heriau cyfoes. 

Datrys cymhlethdodau Lles Digidol

Mae lles digidol yn cwmpasu pob agwedd ar fywyd sy’n cael ei effeithio gan dechnoleg.  Mae ei gymhlethdod yn cael ei fwydo gan gyflymder yr esblygiad digidol a’r gwahaniaethau yn y ffordd yr ydym ni fel unigolion yn ymateb i dechnoleg ac amgylchiadau amrywiol.  Er mwyn ffynnu yn y byd digidol mae gofyn addasu’n barhaus a mabwysiadu agwedd gynnil.  Nid cyfyngu ar amser yn edrych ar sgrin yw’r unig ateb; yn wir, gallai herio elfen arwynebol cyfyngiadau o’r fath ein hannog i fod yn fwy ystyriol wrth ddefnyddio ein dyfeisiadau a chymryd camau i reoli ein defnydd. 

Mae Ein Lles Digidol yn Bwysig

Mewn byd lle mae sgriniau’n hollbresennol a chysylltedd yn gyflwr parhaus, gall ein harferion digidol effeithio’n sylweddol ar ein hiechyd meddwl, emosiynol a chorfforol.  Trwy osod ffiniau iach i harneisio’r manteision a geir o fyw mewn oes ddigidol gallwn sicrhau bod technoleg yn cyfoethogi yn hytrach na llethu ein bywydau.  Mae blaenoriaethu lles digidol yn fuddsoddiad yn ein hansawdd bywyd yn gyffredinol, gan ein galluogi i fynd i’r afael â’r dirwedd ddigidol gyda gwydnwch, ymwybyddiaeth ofalgar, ac ymdeimlad o reolaeth.

Edrych ar Les Digidol Gyda’n Gilydd

Mae’r blog hwn yn cychwyn cyfres sy’n canolbwyntio ar les digidol.  Yn y blogiau sydd ar ddod, byddwn yn ymchwilio i agweddau penodol, gan gynnwys cynnal arferion ergonomig wrth ddefnyddio dyfeisiau, deall effaith technoleg ar iechyd meddwl ac emosiynol, a strategaethau ar gyfer gwella cynhyrchiant mewn byd sy’n cael ei yrru’n ddigidol.  Ein nod yw eich arfogi â dealltwriaeth ac offer a fydd yn eich cyfeirio ar eich taith bersonol.

Rydym yn gobeithio eich ysbrydoli i adnabod y meysydd lle mae gwelliannau’n bosibl a’r rhai lle rydych yn dod o hyd i fodlonrwydd.  Gadewch i ni lywio’r dirwedd ddigidol hon gyda’n gilydd.

Meistroli eich amserlen: Canllaw i Fyfyrwyr ar Offer Rheoli Amser ⌚

Blogbost gan Joel Williams (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Banner with Student Digital Champion

Wrth i lawlyfrau modiwlau gael eu rhyddhau, gall gwaith a therfynau amser eich llethu’n gyflym iawn. Yn y blogbost hon, byddaf yn dangos rhai o’r rhaglenni yr wyf wedi’u defnyddio i helpu i reoli fy astudiaethau, ac fe ddylent eich cynorthwyo chi hefyd wrth reoli eich llwyth gwaith.  

Mae’r ddwy raglen gyntaf, Microsoft–To-Do a Google Tasks, yn gymharol debyg ac yn hawdd i’w defnyddio. Fodd bynnag, mae hyn yn aberthu rhai o’r nodweddion a geir mewn rhaglenni mwy cymleth megis Notion. 

Microsoft To Do 

Un o’r rhaglenni mwyaf hygyrch i’w hintegreiddio i’ch astudiaethau yw Microsoft-To-Do; ar ei mwyaf sylfaenol, mae’n caniatáu ichi greu tasgau ac yna grwpio’r rhain yn ôl yr angen. Fodd bynnag, y rheswm fy mod yn dueddol o ddefnyddio hon yn amlach nag unrhyw raglen arall yw oherwydd y gallwch hefyd ei defnyddio ar y cyd â rhaglenni Office 365, sy’n ei gwneud yn arbennig o ddefnyddiol gan fod y Brifysgol eisoes yn darparu’r rhain (Gallwch lawrlwytho’r rhain yma).  

Mae wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol yn ystod fy astudiaethau gan ei bod yn dangos unrhyw negeseuon e-bost rwyf wedi tynnu sylw atynt, sy’n golygu nad wyf yn anghofio amdanynt. Felly, rwy’n argymell creu cyfrif gyda’ch e-bost prifysgol, a fydd yn helpu i gysylltu’r cyfan â’i gilydd. Mae ar gael ar Storfa Google Play, Storfa Apiau Apple, ac fel gwefan

Google Tasks 

Dewis arall poblogaidd yw Google Tasks, sydd, fel y nodais yn gynharach, yn debyg i ddarpariaeth Microsoft. Fodd bynnag, mae wedi bod yn ddefnyddiol oherwydd ei bod yn integreiddio â Google Assistant, sy’n ei gwneud hi’n arbennig o hawdd gosod nodiadau atgoffa a thasgau yn gyflym wrth weithio ar rywbeth arall.  

Hefyd, os yw’n well gennych ddefnyddio cyfres meddalwedd Google dros Microsoft neu weithio ar ddyfais Apple, mae’n debyg mai’r rhaglen hon fydd yr opsiwn gorau. Mae ar gael ar Storfa Google Play, Storfa Apiau Apple; gallwch ei chyrchu o fewn meddalwedd Google ar y Rhyngrwyd neu fel ategyn Chrome

Rhaglenni Defnyddiol Eraill 

Mae yna lawer o raglenni eraill a all helpu gydag amserlennu; Un o’r rhai mwyaf adnabyddus yw Notion, er ei bod hi’n werth ei chrybwyll mae cromlin ddysg fach. Fodd bynnag, mae’r elfennau sy’n gwneud Notion yn anodd i’w defnyddio yn deillio o ehangder yr opsiynau a’r addasiadau o fewn y rhaglen, sy’n galluogi ichi deilwra eich profiad eich hun. 

Os ydych chi’n bwriadu cynllunio gwaith grŵp (ond nad ydych am ddefnyddio Notion), mae’n debyg mai Microsoft Teams yw un o’ch opsiynau gorau. Ynghyd â gallu cyfathrebu fel grŵp, gallwch hefyd greu tab tasgau, sy’n eich galluogi i osod tasgau i’w cwblhau gyda’ch gilydd yn ogystal â rhannu tasgau i bob unigolyn os oes angen. 

Creu eich system eich hun 

Yr agwedd hanfodol ar ddefnyddio’r holl raglenni hyn yw dod o hyd i’r un a all integreiddio orau i’ch llif gwaith, gan sicrhau bod pa bynnag opsiwn a ddewiswch yn helpu, nid llesteirio. I’r rhai a hoffai gael gwybodaeth fanylach am rai o’r rhaglenni hyn, gallwch ddod o hyd i gasgliad LinkedIn Learning yma.

TipDigi 12 – Cael Microsoft Word i Ddarllen yn Uchel i chi 🔊

A ydych yn ei chael yn haws gwirio dogfen neu neges ebost pan fyddwch yn gallu clywed yr hyn yr ydych wedi’i ysgrifennu? Yn ffodus, mae yna gyfleuster defnyddiol o’r enw Darllen yn Uchel (Read Aloud) a all chwarae testun ysgrifenedig yn ôl ar lafar, ac mae ar gael yn sawl un o apiau Microsoft 365, gan gynnwys Word ac Outlook. Gall ddarllen testun Cymraeg a Saesneg yn ogystal â sawl iaith arall. Gwyliwch y fideo isod neu dilynwch y cyfarwyddiadau hyn: 

  • Y cam cyntaf yw sicrhau bod eich testun yn yr iaith gywir ar gyfer prawfddarllen. Amlygwch y testun a dewiswch Adolygu (Review)
  • Dewiswch Iaith (Language), ac yna Gosod Iaith Prawfddarllen (Set Proofing Language)  
  • Dewiswch eich dewis iaith ac yna cliciwch Iawn (OK)
  • Symudwch eich cyrchwr i ddechrau’r darn o destun yr ydych am iddo gael ei ddarllen yn uchel  
  • Dewiswch Adolygu (Review) ac yna Darllen yn Uchel (Read Aloud) 
  • Gallwch newid yr iaith a’r llais darllen 

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos! 

Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Graddedigion PA – Wythnos 4 (Myfyriwr Ffiseg Raddedig)

Ein proffil olaf ar gyfer y semester hwn yw myfyriwr Ffiseg raddedig sydd wedi cael gyrfa gyffrous ers gadael Prifysgol Aberystwyth yn 2002 ac sydd bellach yn dysgu rhaglennu cyfrifiadurol ac yn gobeithio dod o hyd i yrfa newydd yn y maes hwnnw.

Ym Mhrifysgol Aberystwyth mae gennym lawer o adnoddau i’ch helpu i ddysgu pethau newydd fel rhaglennu cyfrifiadurol, er enghaifft yr heriau CoderPad yn LinkedIn Learning. Yn ogystal â hyn, wythnos nesaf byddwn yn cyhoeddi blog dilynol a fydd yn rhoi manylion yr holl adnoddau sydd ar gael i chi i wella’ch sgiliau digidol felly cadwch lygad am hynny! 

*Cliciwch yma i ddarllen yr holl blogbyst eraill yn ein Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Graddedigion PA*

Read More

Grym Lles Digidol: Cyflwyno ein Cyfres Lles Digidol 

Blogbost gan Joel Williams (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Un o ganolbwyntiau’r Pencampwyr Digidol Myfyrwyr eleni yw ystyried y strategaethau a’r rhaglenni yr ydyn ni wedi’u defnyddio i gynyddu ein lles digidol. Bydd y gyfres hon yn pwyso a mesur beth yw lles digidol a bydd yn cynnwys postiadau a ffeithluniau sy’n trafod lleihau straen llygaid, dadwenwyno digidol, amgylchedd gwaith a llawer mwy! 

Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei rhannu drwy gydol y flwyddyn gyda sawl neges dymhorol, gan gynnwys heriau ar gyfer y Nadolig a’r Pasg. Gallwch hefyd ddefnyddio’r casgliadau LinkedIn Learning rydyn ni wedi’u curadu os hoffech wybod mwy rhwng postiadau, a gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf gyda’r holl negeseuon newydd o fewn y gyfres hon drwy’r dudalen hon ar ein blog Sgiliau Digidol. 

I gyd-fynd â’r blogbost rhagarweiniol hwn, rydym wedi creu Canllaw i fyfyrwyr ar drechu straen llygaid cyfrifiadurol! (fersiwn testun gyda dolenni isod)

Read More

TipDigi 11: Cyflwyno ap hunanofal Finch 🐥

Mae Finch yn ap hunanofal sydd wedi’i gynllunio i’ch helpu i osod nodau lles realistig i’w cyflawni trwy gydol y dydd.  

Mae’r ap yn cynnwys nodweddion megis amserydd ffocws neu fyfyrdod, dyddiaduron myfyrio, cwisiau, a seinweddau.  

Helpwch eich avatar Finch i dyfu trwy ennill pwyntiau wrth gwblhau eich nodau dyddiol. Gall cofio yfed dŵr, mynd am dro ym myd natur, cymryd rhan yn yr adran symud ar yr ap sy’n cynnwys casgliad o symudiadau ymestyn a ioga oll fod yn nodau dyddiol.  

Gallwch lawrlwytho ap Finch ar ddyfeisiau Apple ac Android. 

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Graddedigion PA – Wythnos 3 (Stephanie Mogridge)

Wythnos 3 yw ein cyfweliad â Stephanie sy’n gweithio i Fanc TSB yn yr adran Gwasanaethu Morgeisi. Er ei bod yn teimlo ei bod wedi cael gafael eithaf da ar lythrennedd data yn ystod ei chyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth, hoffai petai wedi dysgu mwy am ei lles a hunaniaeth ddigidol.

Os hoffech ddysgu mwy am eich hunaniaeth a’ch lles ddigidol eich hun, beth am ymuno â dwy o’n sesiynau fel rhan o’r Ŵyl Sgiliau Digidol (6-10 Tachwedd ’23), Improving your digital footprint and your online shadow a Exploring your digital wellbeing.

*Cliciwch yma i ddarllen yr holl blogbyst eraill yn ein Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Graddedigion PA*

Read More