Defnyddio Primo yn Effeithiol 📚

Blog-bost gan Jeffrey Clark (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Banner with Student Digital Champion

Cyflwyniad i Primo

Gall fod yn anodd mynd i unrhyw lyfrgell a dod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano. Mae’r rhan fwyaf o lyfrgelloedd yn cynnwys cannoedd o lyfrau, ac mae llyfrgell Hugh Owen yn cynnwys MILOEDD o lyfrau. Os ydych chi eisiau dod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano gyda manylder clinigol, rwy’n argymell eich bod yn rhoi cynnig ar Primo. Catalog llyfrgell digidol a ddefnyddir gan Brifysgol Aberystwyth yw Primo. Mae’n gronfa ddata enfawr sy’n fodd i fyfyrwyr chwilio am lyfrau i’w benthyg gan y Brifysgol, gwneud rhestrau o lyfrau i gofio amdanynt, a manteisio ar fersiynau ar-lein o ddeunyddiau darllen. Mae’n cynnwys llond lle o nodweddion sydd wedi gwneud fy amser yn Aberystwyth yn llawer rhwyddach. Er y gellid ei ystyried fel ‘chwiliad Google ar gyfer y llyfrgell’, mae’n llawer mwy na hynny. O arbed rhestrau o lyfrau i wneud cais am lyfrau sydd eu hangen arnaf ar gyfer fy nghwrs, mae Primo wedi arbed amser a’m helpu i osgoi aml i gur pen yn ystod fy astudiaethau. Yn y blog-bost hwn, fe fyddaf yn edrych ar Primo, yr hyn mae’n ei wneud a sut y gall fod yn fuddiol i chi.

Chwilio am eitem

Mae’n hawdd chwilio am eitem ar Primo. Teipiwch yr eitem rydych chi eisiau dod o hyd iddi a bydd Primo yn rhoi gwybod i chi lle bydd i’w gael yn llyfrgell Hugh Owen neu os yw ar gael ar-lein (mae copïau papur a chopïau ar-lein o rai eitemau). Mae nodwedd chwilio primo wedi ei gosod ar ‘pob eitem’ yn ddiofyn, a gall hynny amharu ar eich canlyniadau i raddau os cynigir gormod o opsiynau.

Ar waelod y bar chwilio, mae tair cwymplen sy’n cynnwys opsiynau i’ch helpu i ddod o hyd i’r UNION eitem rydych chi’n chwilio amdani. Er enghraifft, beth am ddweud fy mod i eisiau chwilio am lyfrau gan John Steinbeck yn unig. O waelod y bar chwilio, fe fyddwn i’n dewis ‘Llyfrau’, yna ‘gyda fy union ymadrodd’, gan ddewis ‘fel awdur/crëwr’ ac yn olaf chwilio am ‘John Steinbeck

Screenshot of Primo showing how to insert text in the search bar and the different filters

Read More

Dysgwch mwy am eich Sgiliau Digidol yn yr Wŷl Yrfaoedd!

Dewch i ddweud helo wrth ein Pencampwyr Digidol Myfyrwyr yfory, Ddydd Gwener 17 Chwefror, ar eu stondin “Sut mae eich sgiliau Digidol?” ar Lefel D o Lyfrgell Hugh Owen o 10:00-13:00!

Mae’r stondin yn rhan o raglen gyffrous o ddigwyddiadau’r Wŷl Yrfaoedd ’23, gan gynnwys gweithdai sgiliau, digwyddiadau cyflogwyr, gweminarau, cyfleoedd rhwydweithio a sesiynau adrannol.

Gobeithio y gwelwn ni chi yno!

Promotional poster with text: How are your digital skills? Friday 17 February, 10:00-13:00 at Level D of the Hugh Owen Library

Syniadau ac Awgrymiadau Microsoft Word 💡

Blog-bost gan Jeffrey Clark (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Banner with Student Digital Champion

Gwneud pethau’n haws

Mae’n bosib mai Microsoft Word yw’r rhaglen gyfrifiaduron fwyaf adnabyddus ym maes academia. Mae bron bob cwrs y gallwch ei ddilyn ym Mhrifysgol Aberystwyth yn defnyddio Microsoft Word i ryw raddau, gyda rhai cyrsiau yn gofyn i chi wneud mwy na dim ond teipio traethawd. Yn y blog-bost hwn, byddaf yn rhannu ambell dric defnyddiol yn Microsoft Word sydd wedi fy helpu yn ystod fy astudiaethau.

Awgrym 1: Bysellau hwylus

Mae bysellau hwylus yn gyfuniad o fysellau rydych chi’n eu pwyso er mwyn cyflawni swyddogaeth. Er enghraifft, mae pwyso control (ctrl) a C ar yr un pryd ar ôl amlygu testun yn copïo’r testun hwnnw i’ch clipfwrdd. Yn lle clicio’r botwm dde a sgrolio i lawr y gwymplen i Gludo, gallwch bwyso ctrl + V i ludo’r testun.

Gellir defnyddio’r allwedd ALT ar gyfer bysellau hwylus hefyd. Yn benodol, defnyddir yr allwedd ALT ar gyfer bysellau hwylus sy’n berthnasol i’r bar tasgau uchaf. Trwy ddal ALT i lawr am ychydig eiliadau, bydd yr allweddi ar gyfer pob bysell hwylus yn ymddangos. Er enghraifft, ar fy mysellfwrdd i, bydd pwyso ALT + 2 yn cadw fy nogfen.

Yn y llun isod mae tab Cartref (Home) ein bar tasgau ar agor.

Ond os pwyswn ni ALT+S i fynd i’r tab Cyfeiriadau (References)

Cawn gyfres hollol newydd o orchmynion bysellfwrdd ALT i’w defnyddio!

Trwy ddal ALT i lawr gyda thab gwahanol ar agor gallwn weld pa fysellau hwylus sydd ar gael ar gyfer pob tab ar y bar tasgau. Os byddwch yn anghofio beth mae bysellau hwylus ALT yn ei wneud, daliwch ALT i lawr er mwyn eich atgoffa.

Read More

Dysgwch mwy am eich Sgiliau Digidol yn yr Wŷl Yrfaoedd!

Postiad Blog gan Jeffrey Clark (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

CareerFest Banner. 13-17 February online and in-person.

A oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am sgiliau digidol a sut y gall eu datblygu gefnogi eich dysgu, eich cyflogadwyedd, a’ch hyder cyffredinol gyda thechnoleg? Os felly, dewch draw at ein stondin Sgiliau Digidol a fydd yn rhedeg fel rhan o Wŷl Yrfaoedd y Brifysgol ar Ddydd Gwener 17 Chwefror. Gallwch ddod o hyd i ni ar Lefel D o Lyfrgell Hugh Owen o 10:00-13:00.

Y stondin fydd y lle i fynd er mwyn dod o hyd i wybodaeth am sgiliau digidol a pha adnoddau sydd ar gael i’ch helpu i’w datblygu. Bydd Pencampwr Digidol Myfyrwyr yno i’ch cyfarch ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ynglŷn â sgiliau digidol.

Mae rhaglen gyffrous o weithdai sgiliau, digwyddiadau cyflogwyr, gweminarau, cyfleoedd rhwydweithio a sesiynau adrannol hefyd yn cael eu cynnal fel rhan o’r Wŷl Yrfaoedd o 13-17 Chwefror 2023.

Gobeithio y gwelwn ni chi yno!

Ymunwch â’r dosbarth meistr Marchnata Digidol (8 Chwefror)

A hoffech chi ddysgu sut i ddefnyddio marchnata digidol i hyrwyddo eich Busnes neu Fenter Gymdeithasol?

Woman holding a tablet

Bydd AberPreneurs, sy’n rhan o Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, yn cynnal digwyddiad ar-lein cyffrous, Digital Marketing Masterclass gyda Francesca Irving o ‘Lunax Digital’ ar Ddydd Mercher 8 Chwefror (2yh).

Ymunwch â’r weminar ar-lein drwy MS Teams.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â aberpreneurs@aber.ac.uk.