Diwrnod Byd-eang Gweithio Gartref 🏡

Blogbost gan Shân Saunders (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)

Gweithio gartref yw’r norm newydd i’r rhan fwyaf o bobl erbyn hyn gyda swyddfeydd cartref bellach yn rhan annatod o’r rhan fwyaf o aelwydydd. Mae gallu gweithio gartref yn fanteisiol mewn sawl ffordd ond gall hefyd olygu ein bod yn treulio gormod o amser o flaen sgrin yn ogystal â gorfod addasu i ffyrdd newydd o weithio. Gan fod heddiw yn ddiwrnod byd-eang gweithio gartref, rydym am rannu ein cynghorion a’n hawgrymiadau ar gyfer gweithio gartref yn fwy llwyddiannus.  

  1. Camwch i ffwrdd o’r ddesg!

Yn yr un modd â gweithio mewn unrhyw swyddfa, mae cael seibiannau rheolaidd a chamu i ffwrdd o’ch cyfrifiadur yn hanfodol. Gallai hyn olygu cymryd hoe i wneud diod, cymryd amser i ymestyn neu hyd yn oed wneud rhywfaint o ioga desg! Gallwch weld y cyrsiau a’r fideos LinkedIn Learning isod i gael rhai awgrymiadau ar gymryd seibiannau a chyrsiau ymestyn (mae pob cwrs LinkedIn Learning ar gael yn Saesneg yn unig).

  1. A yw eich desg wedi’i gosod i lwyddo?

Mae ergonomeg ddigidol yn bwysig i helpu’ch cynhyrchiant a theimlo’n gyfforddus ac yn hapus â’ch gofod ond mae’n angenrheidiol ar gyfer cynnal eich iechyd corfforol hefyd! Gallwch wella eich ergonomeg ddigidol trwy sicrhau bod eich gofod swyddfa gartref wedi’i osod yn gywir, eich bod yn ymwybodol o straen ar y llygaid a’ch bod yn gwneud yr addasiadau angenrheidiol lle gallwch. Gallwch ddysgu mwy am ergonomeg ddigidol drwy’r adnoddau isod:

  1. Sefydlu Trefn

Mae gweithio gartref yn fanteisiol iawn, ond gall fod yn hawdd iawn ymgolli yn eich gwaith a cholli eich diwrnod a dyna pam ei bod hi mor bwysig sefydlu trefn. Gall hyn gynnwys cymryd egwyl ginio gyson, cael amseroedd canolbwyntio penodol ar ddiwrnodau penodol ac os oes gennych dasgau rheolaidd, cwblhau’r rhain ar yr un diwrnod. Edrychwch ar y fideos a’r cyrsiau isod i gael awgrymiadau ar sefydlu trefn.

  1. Cyfarfodydd Ar-lein Perffaith

Mae cyfarfod yn rhithiol bellach yn ofyniad i unrhyw un sy’n gweithio o bell a daw hyn â math newydd o safonau. Mae’n bwysig cynnal proffesiynoldeb wrth weithio o’ch swyddfa gartref. Gall hyn olygu cael cefndir rhithiol, sicrhau bod gennych glustffonau o ryw ffurf, ymuno â’r cyfarfodydd yn gynnar a bod yn ymwybodol a yw eich meicroffon neu’ch camera ymlaen. Gallwch ddysgu mwy am yr arferion gorau ar gyfer cyfarfodydd ar-lein yn yr adnoddau isod.

  1. Cadw mewn cysylltiad

Er bod cymaint o fanteision i weithio gartref, gall fod yn ynysig ac yn anodd cynnal y cyfathrebu â chyd-gyfoedion ac felly mae’n bwysig iawn cadw mewn cysylltiad. Y ffordd orau o wneud hyn yw defnyddio offer cyfathrebu ar-lein. Gall hyn olygu defnyddio Microsoft Teams neu ddogfennau cydweithredol megis Word online neu SharePoint. Gallwch ddysgu mwy am y gwahanol fathau o ffyrdd i gadw mewn cysylltiad isod.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*