Heddiw ceir ein proffil olaf yng Nghyfres Proffil Sgiliau Digidol Cyflogwyr ac mae’n dod o Sw Caer. Yn eu proffil, dywed Sw Caer eu bod yn gwerthfawrogi llythrennedd data, yn enwedig Excel a gweithio gyda setiau data mawr. Yn ogystal â datrys problemau digidol o fewn codio, gwybodaeth am DA, a dysgu a chreadigrwydd digidol megis PowerPoint neu MS Teams. Gweler yr adnoddau isod i helpu i ddatblygu’r sgiliau hyn:
- Gŵyl Sgiliau Digidol 2023: Mastering Group Work with Online Tools and Strategies
- Gŵyl Sgiliau Digidol 2023: Unlocking Tech Careers for All with Code First Girls
- Gŵyl Sgiliau Digidol 2023: Excel for Large Datasets!
- LinkedIn Learning: DA i fyfyrwyr
- LinkedIn Learning: Awgrymiadau a Thriciau Microsoft PowerPoint
- LinkedIn Learning: Awgrymiadau a Thriciau Microsoft Teams
- LinkedIn Learning: Awgrymiadau a Thriciau Microsoft Excel
Fersiwn Testun:
Cwmni: Sw Caer
Maint y Cwmni: 1,000 o bobl
Sefydlwyd: 1931
Lle mae’r cwmni wedi’i leoli: Yng Nghaer, ond mae cysylltiadau ymchwil ac academaidd ledled y byd
Enghreifftiau o rolau nodweddiadol i raddedigion:
- Cyllid a Chyfrifeg
- Marchnata
- Datblygu Cynnwys Creadigol
- Ceidwad Addysg
- Lletygarwch
- Gwyddonwyr a Thechnegwyr Labordai
- Gweithrediadau Gwesteion
Sgiliau Digidol Hanfodol sy’n Werthfawr yn ein barn ni:
Llythrennedd Ddigidol – Dadansoddi ystadegol yn amrywio o reoli Excel yr holl ffordd i fyny at godio R, defnyddio iaith codio, gweithio gyda setiau data mawr, modelu rhagfynegol, dealltwriaeth am ddylanwad meddalwedd a chaledwedd, a threfnu data
Datrys Problemau Digidol – Datrys problemau sy’n gysylltiedig ag R
Dysgu a Chreadigrwydd Digidol – Offer hyfforddi digidol megis gwefannau pleidleisio, wedi’u gwreiddio o fewn cyflwyniadau PowerPoint ac MS Teams
A oes gan y graddedigion yr ydych yn eu cyflogi wendidau cyffredin o ran sgiliau digidol?:
“Yr ymwybyddiaeth foesegol o ddefnyddio technoleg. Rydym yn atyniad i ymwelwyr, felly mae’n rhaid i ni fod yn ofalus o’n prosesau ac rydym yn cael adolygiadau moesegol. Mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol o GDPR, diogelu data ac mae’n rhaid i ni feddwl am wedd y camerâu ac effaith technoleg ar les anifeiliaid, o ran y goleuadau, y synau a’r gwres. Beth os yw’r camera hwn yn newid tymheredd y dŵr? Hefyd, yr elfennau ymarferol, felly does gennym ni ddim plygiau ym mhobman na Wi-Fi ac rydyn ni’n gweithio’n fyd-eang felly mae honno’n elfen arall sydd angen ei hystyried.”
Beth fyddai eich cyngor gorau i raddedigion?:
“Astudiwch gynifer o gyrsiau ychwanegol ag y gallwch oherwydd nid ydym yn disgwyl i chi wybod popeth ond os yw’r holl ymgeiswyr wedi astudio graddau tebyg, ond nad ydynt wedi astudio unrhyw beth yn ychwanegol, does dim byd yn eich gosod ar wahân.”
Am beth ydych chi’n chwilio mewn gweithiwr?:
“Un peth newydd rydyn ni’n edrych arno yw DA felly mae llawer o’n gwyddonwyr yn gweithio ar dechnoleg olrhain camerâu ar raddfa fawr ac mae arnom angen i’n graddedigion fod yn barod ar gyfer pethau nad ydynt yn bodoli eto. Rhaid i chi fod yn hyddysg yn y maes ac yn gwybod am y datblygiadau diweddaraf mewn technoleg. Rydym hefyd yn chwilio am wytnwch i ymdopi â newidiadau, datrys problemau a’r gallu i addasu’n gyflym.”
Ydych chi’n meddwl bod graddedigion yn anwybyddu sgiliau digidol yn y math hwn o waith?:
“Yn bendant, mae cyfran fawr o’r amser yn ein swyddi yn cael ei dreulio o flaen cyfrifiadur. Nid ydym yn gweld modiwlau prifysgol gyda digon o bwyslais ar y dechnoleg yr ydym yn ei defnyddio, boed hynny’n ddelweddu thermol neu ystadegyn R yn hytrach na SPSS nad yw’n cael ei ddefnyddio mewn diwydiant mewn gwirionedd, felly mae bod yn flaengar pan fo’r modiwlau ond yn newid bob 4-5 mlynedd yn anodd iawn.”
Lluniwyd gan Hyrwyddwyr Digidol y Myfyrwyr