Sbarduno syniadau newydd gydag Ayoa 🌟

Blogbost gan Shân Saunders (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)

Fel dysgwr gweledol, rwy’n gweithio orau pan allaf osod fy holl syniadau mewn un lle. Roeddwn i’n arfer gwneud hyn gyda beiro a phapur ond nawr, gydag Ayoa gallaf wneud hyn ar-lein! Mae Ayoa ar gael ar-lein ac fel ap ffôn, ac mae’n caniatáu ichi greu mapiau meddwl am ddim. Mae’n wasanaeth amlieithog, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg lle gallwch greu cymaint o fapiau meddwl ag yr hoffech i helpu gyda sawl prosiect gwahanol neu hyd yn oed os oes un cynllun yr hoffech ei hollti ymhellach. 

Mae’r nodweddion a ddarperir yn yr ap yn cynnwys y gallu i gychwyn map meddwl o’r newydd neu ddewis o blith un o’r templedi a grëwyd ymlaen llaw. O fewn hyn mae gennych reolaeth lawn dros nodweddion y gellir eu haddasu er enghraifft, gallwch ychwanegu canghennau diderfyn o’ch teitl canolog a chod lliw yn ôl eich prosiect a’r hyn sy’n gwneud synnwyr i chi! Gallwch hefyd olygu maint y ffont a’r testun yn ogystal â maint a siâp pob blwch a newid lliw pob cangen. Os byddwch chi’n penderfynu bod angen i gyfres o syniadau a changhennau fod yn lliw gwahanol, gallwch newid y rhain trwy’r nodwedd “plant” a fydd wedyn yn newid yr holl fformatio ar hyd y gangen hon.

Mae yna nodweddion ychwanegol hefyd megis gallu mewnosod ymatebion emoji i bob cangen a gallu mewnosod neu uwchlwytho delweddau a allai helpu i sbarduno syniadau pellach neu atgyfnerthu pwyntiau. Gallwch ychwanegu nodiadau at bwyntiau penodol i ychwanegu mwy o wybodaeth. Os hoffech rannu’ch map meddwl ag eraill, gallwch ei allforio fel JPEG a PNG a bydd pob map meddwl yr ydych chi’n ei greu yn cael ei gadw i’ch hafan Ayoa.

Mae’r nodweddion hyn oll ar gael ar y fersiwn am ddim o Ayoa sydd am ddim yn barhaol. Mae yna hefyd fersiwn y gellir ei brynu o Ayoa (Ayoa unlimited) sydd â nodweddion ychwanegol megis y gallu i gydweithredu’n fyw ar fap meddwl yn ogystal â rhannu mapiau meddwl gydag eraill yn yr ap ei hun. Byddwch hefyd yn cael mynediad at wahanol fathau o fyrddau gan gynnwys byrddau gwyn a byrddau tasgau. 

Am fwy o wybodaeth, gweler AYOA nawr ar: https://www.ayoa.com/cy/

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*