Meistrolwch eich sgiliau technoleg gyda Chyrsiau Canllaw Cyflawn newydd LinkedIn Learning 👨‍💻

Blogbost gan Sioned Llywelyn (Arweinydd Sgiliau Digidol)

Mae Cyrsiau Canllaw Cyflawn bellach ar gael yn LinkedIn Learning i bawb ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’r cyrsiau hyn yn wych i’r rhai sydd eisiau datblygu sgiliau technoleg penodol gyda hyfforddwyr arbenigol. P’un ai eich bod yn ddechreuwr sy’n ceisio dysgu rhaglen newydd o’r dechrau, neu fod gennych brofiad a’ch bod eisiau datblygu ymhellach, gallai’r cyrsiau hyn fod yn berffaith i chi.

Dyma enghraifft o rai o’r cyrsiau Canllaw Cyflawn sydd ar gael gyda rhai newydd yn cael eu rhyddhau bob mis:

Sgrinlun o’r cwrs Canllaw Cyflawn i Power BI

Beth yw manteision Cyrsiau Canllaw Cyflawn?

  1. Maent yn para 5 awr neu fwy o hyd, sy’n sicrhau y byddwch yn meithrin dyfnder o wybodaeth yn y pwnc dan sylw
  2. Maent wedi’u trefnu i benodau a fideos byr hawdd eu trin sy’n golygu y gallwch edrych ar ddarn penodol o’r cwrs yn unig os oes angen
  3. Mae llawer o’r cyrsiau hyn yn cynnwys nodweddion ymarferol, gan roi cyfle i chi ymarfer yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am LinkedIn Learning, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).

Natur ar flaenau eich bysedd: Fy hoff apiau ar gyfer mwynhau’r awyr agored 🍃🌻

Blogbost gan Noel Czempik (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Gyda’r dyddiau’n ymestyn a’r tymheredd yn codi, mae llawer yn dyheu am dreulio mwy o amser yn yr awyr agored. Er mwyn gwella eich anturiaethau yn yr awyr agored, rwyf wedi llunio rhestr o fy hoff apiau am ddim a fydd, gobeithio, yn ennyn eich chwilfrydedd ac yn dyfnhau eich gwerthfawrogiad o natur.

AllTrails

Mae AllTrails yn ganllaw poced i lwybrau cerdded, llwybrau beicio a mannau natur sy’n addas ar gyfer gwahanol lefelau a galluoedd. Mae’r ap yn caniatáu i chi gynllunio eich antur nesaf, boed yn fach neu’n fawr ac yn eich helpu i ddarganfod lleoedd newydd neu ddychwelyd i’ch hoff fannau!

Dyma rai o fy hoff nodweddion yn yr ap:

  • Gallwch chwilio am lwybrau yn ôl lleoliad a hidlo yn ôl y math o weithgaredd, anhawster, hygyrchedd a hyd.
  • Gallwch gael mynediad at wybodaeth fanwl am y llwybrau, gan gynnwys disgrifiadau trylwyr o’r llwybrau, tywydd presennol ac amodau’r ddaear, a’r cyfleusterau sydd ar gael.
  • Gallwch wirio’r adolygiadau a’r lluniau i’ch helpu i benderfynu ai dyma’r llwybr cywir i chi.
  • Cadwch eich hoff lwybrau a’u rhannu ag eraill yn yr ap.

📲 Lawrlwytho oddi ar Google Play 📲 Lawrlwytho o Siop Apple

Seek gan iNaturalist

Ydych chi erioed wedi gweld planhigyn tra’ch bod allan yn cerdded ac wedi meddwl tybed beth ydoedd? Mae Seek yn eich galluogi i adnabod rhywogaethau o blanhigion, anifeiliaid a ffyngau yn ddiymdrech wrth fynd. Nid oes angen cofrestru’r ap; lawrlwythwch yr ap a’i bwyntio at bethau byw o’ch cwmpas!

Dyma rai o fy hoff nodweddion yn yr ap:

  • Gallwch bwyntio’r camera o fewn yr ap at yr hyn yr hoffech ei adnabod neu dynnu llun a’i uwchlwytho i’r ap yn nes ymlaen.
  • Gallwch ddysgu mwy am dacsonomeg, natur dymhorol a tharddiad daearyddol y rhywogaeth.
  • Gallwch ymgysylltu â chymuned a rhannu’r rhywogaethau rydych chi wedi’u canfod gyda’r ap. Mae PlantNet yn ap arall sy’n ddefnyddiol os ydych chi am fod yn rhan o brosiect gwyddoniaeth dinasyddion ar fioamrywiaeth planhigion.

📲 Lawrlwytho oddi ar Google Play 📲 Lawrlwytho o Siop Apple

SkyView Lite

Yr ap olaf yr hoffwn ei rannu gyda chi yw SkyView Lite. Mae’r ap hwn yn cynnwys map awyr rhyngweithiol sy’n caniatáu i ddefnyddwyr adnabod sêr, planedau a gwrthrychau wybrennol eraill. Mae’r ap yn reddfol, yn gywir ac yn hawdd ei bersonoli. Yng Nghymru, mae’r tywydd yn aml yn gallu bod yn anrhagweladwy, ac mae awyr glir yn aml yn dod fel syndod. Gyda SkyView wrth law, gallwch fanteisio i’r eithaf ar syllu digymell ar y sêr!

Fy hoff bethau am yr ap yw:

  • Nid oes angen cysylltiad rhyngrwyd na GPS ar yr ap, felly gellir ei ddefnyddio mewn ardaloedd anghysbell.
  • Tapiwch ar unrhyw wrthrych wybrennol i gael disgrifiad manwl. Tapiwch eto am fwy o wybodaeth a ffeithiau addysgol.
  • Mae’r ap yn gweithio o dan do hefyd, felly gallwch ddysgu unrhyw bryd, waeth beth fo’r tywydd.

📲 Lawrlwytho oddi ar Google Play 📲 Lawrlwytho o Siop Apple

Sefwch allan o’r dorf gyda Thystysgrifau LinkedIn Learning 🏆

Yn y farchnad swyddi gystadleuol sydd ohoni, mae’n bwysig i fyfyrwyr prifysgol sefyll ar allan. Un ffordd o wneud hyn yw drwy ennill tystysgrifau ar gyfer cyrsiau a gwblhawyd ar eich cyfrif LinkedIn Learning Prifysgol Aberystwyth a’u hychwanegu at eich proffil LinkedIn personol.

Ond pam mae hyn yn bwysig? Mae ychwanegu tystysgrifau yn cynyddu eich siawns o gael eich canfod gan recriwtwyr sy’n chwilio am sgiliau penodol, gan ddangos eich ymrwymiad i ddysgu parhaus a datblygu gyrfa, gan eich gwneud yn ymgeisydd mwy apelgar.

Gwyliwch y fideo isod i ddysgu sut i ychwanegu tystysgrifau LinkedIn Learning i’ch proffil LinkedIn personol

Dysgwch fwy am LinkedIn Learning o’r sesiwn hon yn yr Ŵyl Sgiliau Digidol ’23 (Sesiwn GymraegSesiwn Saesneg)

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ychwanegu tystysgrifau LinkedIn Learning i’ch proffil LinkedIn personol, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk) neu edrychwch ar y dudalen Tystysgrif LinkedIn Learning swyddogol.

Fy mhrofiad gyda Code First Girls 💻

Blogbost gan Jia Ping Lee (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)

Rwy’n cofio dod ar draws Code First Girls trwy eu cyfryngau cymdeithasol yn ystod haf 2023, ac yna nes i ddysgu am bartneriaeth newydd Prifysgol Aberystwyth gyda nhw. Er nad oedd gen i unrhyw brofiad blaenorol o godio ac nad oedd gennyf lawer o wybodaeth am fyd technoleg, cefais fy synnu pa mor hawdd oedd hi i edrych trwy’r cyrsiau yr oedd Code First Girls yn eu cynnig ac ni waeth pa lefel o godio sydd gennych – mae cwrs priodol ar gael i chi.

Gan fy mod yn ddechreuwr llwyr gyda ieithoedd codio, cefais gipolwg ar eu cyrsiau rhagarweiniol o’r enw MOOC (cyrsiau ar-lein agored enfawr Code First Girls). Cynlluniwyd y cyrsiau hyn i gyflwyno a darparu sgiliau technoleg lefel dechreuwyr a helpu i feithrin hyder mewn maes o’ch dewis. Yr hyn yr oeddwn i’n meddwl oedd yn wych am y cyrsiau hyn oedd sut yr oeddent yn cael eu trefnu a’u cyflwyno. Gyda MOOC Sprints, roeddent yn rhedeg dros 4 wythnos gydag 1 sesiwn fyw awr o hyd yr wythnos ac ar ôl i’r Sprint ddod i ben, roedd cyfle i brofi eich gwybodaeth a phrofi datrys problemau’r byd go iawn gyda Heriau MOOC a chael tystysgrif cwblhau ar ôl pasio cwisiau’r sesiwn. Profais amrywiaeth o’r cyrsiau cyflwyno a gynigir gan gynnwys codio, datblygu gwe a datrys problemau gyda Python. Gan fy mod yn gallu adolygu’r hyn a ddysgais ar fy nghyflymdra fy hun ar ôl dosbarthiadau, nid oedd mor llethol ag yr oeddwn i’n ei feddwl i ddechrau, ac roedd tiwtoriaid y cwrs bob amser ar gael i gysylltu â nhw pe bai angen cymorth neu arweiniad ychwanegol arnaf.

Ar ôl mwynhau cymryd y camau cyntaf tuag at feithrin rhywfaint o hyder technolegol, rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu’r sgiliau rwyf wedi’u dysgu o’r cyrsiau rhagarweiniol a symud ymlaen i’r lefel nesaf. Rwy’n credu mai’r wers bwysicaf yr wyf wedi’i dysgu o’r profiad hwn yw peidio byth â bod ofn rhoi cynnig ar rywbeth newydd sydd y tu allan i’ch cilfan gysurus. I ddechrau, gall y byd codio ymddangos yn frawychus ac yn anodd ei ddeall, yn enwedig os nad ydych wedi dysgu amdano o’r blaen. Ond gyda Code First Girls, maen nhw yma i helpu i’n harwain a’n cefnogi i gyflawni’r sgiliau gorau sydd eu hangen arnom i gael cyfleoedd cyffrous yn y dyfodol!

Cymerwch olwg ar y blogbost hyn lle dewch o hyd i 5 reswm pam y dylech fanteisio ar bartneriaeth Prifysgol Aberystwyth gyda Code First Girls. Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr holl gyfleoedd ar wefan Code First Girls.

Nodwch fod Code First Girls yn agored i fenywod a phobl anneuaidd. Os nad ydych yn gymwys i ymgymryd â’r cyrsiau a gynigir trwy Code First Girls, mae llawer o gyfleoedd eraill am ddim ar gael, gan gynnwys heriau a chyrsiau codio gyda CoderPad a GitHub yn LinkedIn Learning.

Datblygwch eich sgiliau DA yn ymarferol yn LinkedIn Learning 👩‍💻

Nôl ym mis Hydref 2023, fe wnaethom ni ysgrifennu am bartneriaeth gyffrous newydd rhwng LinkedIn Learning a CoderPad, a gyflwynodd ychwanegiad Heriau Cod i LinkedIn Learning.  Mae’r heriau hyn wedi’u teilwra i gynorthwyo dysgwyr, o ddechreuwyr i ddysgwyr uwch, i ddatblygu eu sgiliau codio drwy ymarferion rhyngweithiol ac adborth amser real. Gallwch ailymweld â’n blogbost blaenorol yma i ddysgu mwy.

Mae DA (Deallusrwydd Artiffisial) a DA Cynhyrchiol yn prysur ddod yn gonglfeini arloesedd. I gefnogi eich datblygiad yn y sgiliau hyn, mae LinkedIn Learning wedi ehangu eu casgliad i gynnwys 73 o gyrsiau ymarferol ar gyfer sgiliau DA a DA Cynhyrchiol. Mae’r cyrsiau hyn i gyda ar gael ar y dudalen we hon neu edrychwch ar ddetholiad ohonynt isod.

Dechreuwyr

Dysgwyr Canolradd

Dysgwyr Uwch

Mae gan bob myfyriwr ac aelod o staff fynediad at yr holl gyrsiau ar LinkedIn Learning, gan gynnwys y rhai ymarferol hyn, drwy eich cyfrif LinkedIn Learning Prifysgol Aberystwyth rhad ac am ddim. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am LinkedIn Learning neu am gael mynediad i unrhyw gynnwys a grybwyllwyd yn y blogbost hwn, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk), neu dewch â’ch cwestiynau i un o’n sesiynau galw heibio wythnosol!

Dysgwch sut i godio AM DDIM gyda Code First Girls! ⚡

Ydych chi erioed wedi bod eisiau dysgu sut i godio? Wel nawr gallwch chi wneud hynny, am ddim, trwy fanteisio ar ein partneriaeth gyda Code First Girls! Rydym wedi rhestru 5 rheswm isod pam dylech wneud y mwyaf o’r cyfle gwych hwn.

Nodwch fod Code First Girls yn agored i fenywod a phobl anneuaidd. Os nad ydych yn gymwys i ymgymryd â’r cyrsiau a gynigir trwy Code First Girls, mae llawer o gyfleoedd eraill am ddim ar gael, gan gynnwys heriau a chyrsiau codio gyda CoderPad a GitHub yn LinkedIn Learning.

Cwestiynau❓

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gyrsiau Code First Girls, gofynwn yn garredig i chi gysylltu â nhw yn uniongyrchol.

Read More

Ymunwch â’n Her Dysgu’r Nadolig! 🎄

Mae ein Her Dysgu’r Nadolig yn cychwyn yfory, Dydd Mercher 6 Rhagfyr! Rydym wedi casglu 12 fideo byr o LinkedIn Learning i chi wylio a dysgu ohonynt dros y 12 diwrnod gwaith nesaf. Mae’r cynnwys hyn yn amrywio o 1-8 munud a byddant yn eich helpu i ddatblygu ystod o sgiliau – o awgrymiadau i hybu cynhyrchinat, defnyddio byrlwybrau bysellfwrdd yn Outlook, i ddatblygu arferion cysgu gwell.

Sut mae ymuno â’r her?

Y cam cyntaf fydd actifadu eich cyfrif LinkedIn Learning. Wedi i chi wneud hynny, mae dwy ffordd i chi ymuno â’r her:

  • Gallwch naill ai ddilyn y dolenni o’r calendr isod bob dydd o’r her
  • Neu gallwch ddilyn ein Llwybr Dysgu Her Dysgu’r Nadolig (sydd hefyd yn ymddangos ar frig dudalen gartref LinkedIn Learning pan fyddwch chi wedi mewngofnodi).

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr her, neu am LinkedIn Learning yn gyffredinol, e-bostiwch y Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk), a gobeithiwn y byddwch yn mwynhau eich 12 diwrnod o ddysgu!

Awgrymiadau ar gyfer Meistroli eich Amserlen 📅

Blogbost gan Joel Williams (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Banner with Student Digital Champion

I gyd-fynd â blogbost a gyhoeddais yr wythnos diwethaf ar sut y gallwch ddefnyddio offer rheoli amser i’ch helpu i feistroli’ch amserlen, rwyf wedi creu ffeithlun (fersiwn testun isod) sy’n crynhoi rhai o’r strategaethau a’r offer allweddol sydd wedi gweithio i mi.

Read More

Dysgwch sut i godio am ddim gyda CoderPad yn LinkedIn Learning

Efallai fod yna lawer o wahanol resymau pam yr hoffech ddysgu codio. Mae’n bosibl ei bod yn sgil yr hoffech ei hymarfer ar gyfer eich gradd; gallai fod yn hobi i chi; neu efallai fod gennych ddiddordeb mewn datblygu’r sgil hon i wella eich cyflogadwyedd.

Mae gwybod sut i godio yn sgil hynod o werthfawr, ond os ydych chi’n newydd i godio, fe allai fod yn anodd gwybod sut i ddechrau arni. Yn ffodus, mae LinkedIn Learning, llwyfan dysgu ar-lein y mae gan bob myfyriwr ac aelod o staff PA fynediad am ddim iddo, (dysgu sut i ddechrau arni), wedi lansio partneriaeth newydd gyda CoderPad.

Maent wedi lansio amrywiaeth o gyrsiau Heriau Cod newydd ar Python, Java, SQL, JavaScript, C#, a Go, a gynlluniwyd i helpu dysgwyr o ddechreuwyr i ddysgwyr uwch i ddatblygu eu sgiliau codio trwy ymarferion rhyngweithiol ac adborth amser real.

Gwyliwch y fideo isod i ddysgu mwy am yr heriau hyn:

Ar hyn o bryd mae 33 o Heriau Cod (ond mae hyn yn cynyddu’n barhaus), a gallwch hefyd ddysgu sut i godio ac ymarfer eich sgiliau gyda chyrsiau rhaglennu GitHub ychwanegol yn LinkedIn Learning.

Dyma ychydig o gyrsiau Heriau Cod i chi ddechrau arni!

Heriau Cod i Ddechreuwyr

Heriau Cod Uwch

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am unrhyw ran o’r cynnwys a grybwyllir uchod, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol am LinkedIn Learning, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).

Curo Straen Arholiadau gyda Thechnoleg 💻

Ysgrifennwyd y blogbost hwn gan Jeffrey Clark, Pencampwr Digidol Myfyrwyr

Banner with Student Digital Champion

Y teimlad yna o suddo…

Gyda’r arholiadau ar y trothwy mae’n siŵr eich bod i gyd yn teimlo’r pwysau. Weithiau gall y pwysau yna fod yn llethol ac arwain at gyfnodau o straen a phryder difrifol. Ddylai myfyrwyr ddim gorfod teimlo hynny! Yn y blog hwn, rwyf i am drafod ambell awgrym ac ap defnyddiol a allai eich helpu chi a myfyrwyr eraill i fynd i’r afael â straen yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Taro cydbwysedd ⚖

Dyma enghraifft o sut y byddwn i’n trefnu diwrnod adolygu nodweddiadol ar Microsoft Teams

Mae’n gwbl normal teimlo lefelau isel neu ganolig o straen yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol. Mae llawer yn digwydd! O ddarllen ac ysgrifennu traethodau i gymdeithasu gyda ffrindiau mae’n hawdd cael eich llethu o bryd i’w gilydd. Hyd yn oed os ydych chi’n wirioneddol fwynhau eich gradd, gall fod yn straen dod o hyd i amser i ymdopi â’ch modiwlau i gyd. Dyna pam rwy’n argymell rheoli eich amser a threfnu’r hyn rydych chi’n ei wneud yn hytrach na chael eich rheoli ganddo. Mae apiau fel Microsoft To-Do wedi bod yn hynod o ddefnyddiol i fi gan fy mod i’n brysur drwy’r amser. Ap rheoli tasgau am ddim yn y cwmwl yw Microsoft-To-Do sydd ar gael ar gyfer cyfrifiaduron pen desg, dyfeisiau Android ac Apple. Mae’r ap yn cynnwys rhai nodweddion defnyddiol ar gyfer sicrhau eich bod ar y trywydd iawn fel calendr y gellir ei deilwra a nodiadau atgoffa y gallwch eu trefnu yn ôl eich dewis. Mae Microsoft Teams hefyd yn cynnwys calendr y gellir ei deilwra sy’n ddefnyddiol i drefnu cyfarfodydd yn ogystal â sicrhau eich bod yn cadw’n gyfredol gyda’ch tasgau prifysgol. Mae rheoli eich amser yn lleihau straen drwy leihau pethau na allwch eu rhagweld a rhoi’r gallu i chi weithio GYDA therfynau amser yn lle bod YN EU HERBYN.

Cyngor da arall ar gyfer lleihau straen arholiadau yw canolbwyntio ar un peth ar y tro. Wrth adolygu, talwch sylw i un modiwl y dydd yn unig, os gallwch chi.  Mae hyn yn ei gwneud yn haws cofio gwybodaeth ar y modiwl rydych chi’n ei astudio fydd yn gwneud sefyll arholiad llawer yn haws. Os oes rhaid i chi astudio modiwlau niferus, cofiwch roi saib ystyrlon i’ch hun yn ystod eich astudiaethau. Mae seibiau’n bwysig wrth astudio am unrhyw gyfnod. Mae cynnwys seibiau yn eich amserlen yn allweddol ar gyfer lleihau straen ac osgoi ‘llosgi allan’, y byddwn yn trafod hyn yn fanylach yn nes ymlaen yn y post hwn.

Read More