Awgrymiadau ar gyfer Meistroli eich Amserlen 📅

Blogbost gan Joel Williams (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Banner with Student Digital Champion

I gyd-fynd â blogbost a gyhoeddais yr wythnos diwethaf ar sut y gallwch ddefnyddio offer rheoli amser i’ch helpu i feistroli’ch amserlen, rwyf wedi creu ffeithlun (fersiwn testun isod) sy’n crynhoi rhai o’r strategaethau a’r offer allweddol sydd wedi gweithio i mi.

Fersiwn testun:

Meistroli eich amserlen – Crëwyd gan y Pencampwyr Digidol Myfyrwyr 

Wrth i ddyddiad cyflwyno aseiniad nesáu, gall pethau ddechrau eich llethu’n gyflym iawn. Fodd bynnag, gyda’r paratoadau cywir, gallwch gynyddu eich siawns o lwyddo yn sylweddol. 

Bydd y camau hyn yn eich helpu i gyrraedd yno: 

  1. Cofnodwch unrhyw Ddyddiadau Cyflwyno 
  • Cofnodwch ddyddiad cyflwyno’r aseiniad (Fel arfer fe’i ceir yn llawlyfrau y modiwl). 
  • Penderfynwch faint o amser sydd ei angen i gwblhau’r gwaith. 
  • Cynlluniwch ddiwrnod i ddechrau gweithio ar yr aseiniad. 
  1. Trefnu eich diwrnod 
  • Cynlluniwch eich tasgau ar gyfer y diwrnod. 
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys seibiannau. 
  • Gall yr amcanion dyddiol hyn fod mor eang neu mor fanwl ag yr hoffech chi. 
  1. Gweithio mewn grŵp 
  • Ceisiwch gydlynu cyn gynted â phosibl. 
  • Gosodwch derfynau amser gyda’ch gilydd. 
  • Rhannwch y llwyth gwaith. 
  • Defnyddiwch ystafelloedd gwaith grŵp Llyfrgell Hugh Owen. 
  1. Defnyddio meddalwedd 
  • Gellir defnyddio Notion i gofnodi dyddiadau cau aseiniadau. 
  • Gall Google Tasks a Microsoft-To-Do eich helpu i rannu tasgau fesul diwrnod. 
  • Defnyddiwch Teams i’ch helpu i drefnu eich cyfarfodydd a’ch tasgau grŵp. 

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*