Meistrolwch eich sgiliau technoleg gyda Chyrsiau Canllaw Cyflawn newydd LinkedIn Learning 👨‍💻

Blogbost gan Sioned Llywelyn (Arweinydd Sgiliau Digidol)

Mae Cyrsiau Canllaw Cyflawn bellach ar gael yn LinkedIn Learning i bawb ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’r cyrsiau hyn yn wych i’r rhai sydd eisiau datblygu sgiliau technoleg penodol gyda hyfforddwyr arbenigol. P’un ai eich bod yn ddechreuwr sy’n ceisio dysgu rhaglen newydd o’r dechrau, neu fod gennych brofiad a’ch bod eisiau datblygu ymhellach, gallai’r cyrsiau hyn fod yn berffaith i chi.

Dyma enghraifft o rai o’r cyrsiau Canllaw Cyflawn sydd ar gael gyda rhai newydd yn cael eu rhyddhau bob mis:

Sgrinlun o’r cwrs Canllaw Cyflawn i Power BI

Beth yw manteision Cyrsiau Canllaw Cyflawn?

  1. Maent yn para 5 awr neu fwy o hyd, sy’n sicrhau y byddwch yn meithrin dyfnder o wybodaeth yn y pwnc dan sylw
  2. Maent wedi’u trefnu i benodau a fideos byr hawdd eu trin sy’n golygu y gallwch edrych ar ddarn penodol o’r cwrs yn unig os oes angen
  3. Mae llawer o’r cyrsiau hyn yn cynnwys nodweddion ymarferol, gan roi cyfle i chi ymarfer yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am LinkedIn Learning, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).

Ystyriwch eich Lles Digidol ar Ddiwrnod Lles Byd-eang 🧘🏻‍♀️

Blogbost gan Shân Saunders (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)

Mae 8 Mehefin 2024 yn Ddiwrnod Lles Byd-eang, diwrnod i fyfyrio ar eich lles a’ch iechyd meddwl. Eleni cyflwynodd Hyrwyddwyr Digidol y Myfyrwyr Gyfres Lles Digidol a oedd yn ymdrin ag ystod eang o fywyd digidol i helpu i wella lles digidol eraill gydag awgrymiadau a thriciau.  

Fe wnaethant ystyried ergonomeg ddigidol gan gynnwys creu casgliad LinkedIn Learning am y gosodiad gorau ar gyfer eich desg a chyngor ar sut i leihau straen llygaid drwy’r rheol 20-20-20 a galluogi modd tywyll. Dechreuodd un o’n hyrwyddwyr digidol ar gyfnod o ddadwenwyno digidol a oedd yn cynnwys dileu pob ap cyfryngau cymdeithasol, analluogi hysbysiadau, disodli ID wyneb gyda chyfrinair bwriadol a bod yn fwy ystyriol o’r rheswm y maent ar eu ffôn. Fe wnaethant adrodd am y manteision, yr anfanteision a rhoi cyngor i unrhyw un arall sy’n awyddus i roi cynnig ar ddadwenwyno digidol. 

Yn ogystal, gwnaeth ein hyrwyddwr digidol ddarganfod bod ap ScreenZen yn fendith yn ystod eu dadwenwyno digidol i helpu i orfodi ffiniau gwell wrth ryngweithio ag apiau a dod yn fwy ymwybodol o’ch defnydd digidol. Edrychodd y gyfres Lles Digidol hefyd ar bwysigrwydd trefnu eich gofodau digidol, gan gynnwys creu ffolderi gwell, addasu eich sgriniau cartref, a chlirio eich ffolder lawrlwytho.   

Mae adnoddau lles digidol eraill yn cynnwys blogbost ar gyfer unrhyw ddefnyddiwr iPhone am y nodweddion sydd ar gael yn y gosodiadau i helpu gyda’ch terfyn amser sgrin a nodwedd i helpu i gadw pellter eich ffôn i leihau straen llygaid.

Os hoffech edrych ar adnoddau pellach, mae croeso i chi edrych ar yr adran lles digidol ar y Llyfrgell Sgiliau Digidol neu yng nghasgliad LinkedIn Learning. Gallwch hefyd weld y sesiwn lles digidol a gynhaliwyd gennym yng Ngŵyl Sgiliau Digidol 2023

Natur ar flaenau eich bysedd: Fy hoff apiau ar gyfer mwynhau’r awyr agored 🍃🌻

Blogbost gan Noel Czempik (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Gyda’r dyddiau’n ymestyn a’r tymheredd yn codi, mae llawer yn dyheu am dreulio mwy o amser yn yr awyr agored. Er mwyn gwella eich anturiaethau yn yr awyr agored, rwyf wedi llunio rhestr o fy hoff apiau am ddim a fydd, gobeithio, yn ennyn eich chwilfrydedd ac yn dyfnhau eich gwerthfawrogiad o natur.

AllTrails

Mae AllTrails yn ganllaw poced i lwybrau cerdded, llwybrau beicio a mannau natur sy’n addas ar gyfer gwahanol lefelau a galluoedd. Mae’r ap yn caniatáu i chi gynllunio eich antur nesaf, boed yn fach neu’n fawr ac yn eich helpu i ddarganfod lleoedd newydd neu ddychwelyd i’ch hoff fannau!

Dyma rai o fy hoff nodweddion yn yr ap:

  • Gallwch chwilio am lwybrau yn ôl lleoliad a hidlo yn ôl y math o weithgaredd, anhawster, hygyrchedd a hyd.
  • Gallwch gael mynediad at wybodaeth fanwl am y llwybrau, gan gynnwys disgrifiadau trylwyr o’r llwybrau, tywydd presennol ac amodau’r ddaear, a’r cyfleusterau sydd ar gael.
  • Gallwch wirio’r adolygiadau a’r lluniau i’ch helpu i benderfynu ai dyma’r llwybr cywir i chi.
  • Cadwch eich hoff lwybrau a’u rhannu ag eraill yn yr ap.

📲 Lawrlwytho oddi ar Google Play 📲 Lawrlwytho o Siop Apple

Seek gan iNaturalist

Ydych chi erioed wedi gweld planhigyn tra’ch bod allan yn cerdded ac wedi meddwl tybed beth ydoedd? Mae Seek yn eich galluogi i adnabod rhywogaethau o blanhigion, anifeiliaid a ffyngau yn ddiymdrech wrth fynd. Nid oes angen cofrestru’r ap; lawrlwythwch yr ap a’i bwyntio at bethau byw o’ch cwmpas!

Dyma rai o fy hoff nodweddion yn yr ap:

  • Gallwch bwyntio’r camera o fewn yr ap at yr hyn yr hoffech ei adnabod neu dynnu llun a’i uwchlwytho i’r ap yn nes ymlaen.
  • Gallwch ddysgu mwy am dacsonomeg, natur dymhorol a tharddiad daearyddol y rhywogaeth.
  • Gallwch ymgysylltu â chymuned a rhannu’r rhywogaethau rydych chi wedi’u canfod gyda’r ap. Mae PlantNet yn ap arall sy’n ddefnyddiol os ydych chi am fod yn rhan o brosiect gwyddoniaeth dinasyddion ar fioamrywiaeth planhigion.

📲 Lawrlwytho oddi ar Google Play 📲 Lawrlwytho o Siop Apple

SkyView Lite

Yr ap olaf yr hoffwn ei rannu gyda chi yw SkyView Lite. Mae’r ap hwn yn cynnwys map awyr rhyngweithiol sy’n caniatáu i ddefnyddwyr adnabod sêr, planedau a gwrthrychau wybrennol eraill. Mae’r ap yn reddfol, yn gywir ac yn hawdd ei bersonoli. Yng Nghymru, mae’r tywydd yn aml yn gallu bod yn anrhagweladwy, ac mae awyr glir yn aml yn dod fel syndod. Gyda SkyView wrth law, gallwch fanteisio i’r eithaf ar syllu digymell ar y sêr!

Fy hoff bethau am yr ap yw:

  • Nid oes angen cysylltiad rhyngrwyd na GPS ar yr ap, felly gellir ei ddefnyddio mewn ardaloedd anghysbell.
  • Tapiwch ar unrhyw wrthrych wybrennol i gael disgrifiad manwl. Tapiwch eto am fwy o wybodaeth a ffeithiau addysgol.
  • Mae’r ap yn gweithio o dan do hefyd, felly gallwch ddysgu unrhyw bryd, waeth beth fo’r tywydd.

📲 Lawrlwytho oddi ar Google Play 📲 Lawrlwytho o Siop Apple

TipDigidol 33: Galluogi capsiynau byw yn eich cyfarfodydd MS Teams 💬

Dyma eich TipDigidol olaf ar gyfer y flwyddyn academaidd hon, ond gallwch ddal i fyny ar ein holl TipiauDigidol blaenorol o’r dudlaen hon. Gobeithio bod yr awgrymiadau wedi bod yn ddefnyddiol a byddwn yn ôl ym mis Medi ’24 lle byddwn yn parhau i feithrin eich hyder gyda thechnoleg, un TipDigidol ar y tro!

Ydych chi weithiau’n cael trafferth mewn cyfarfodydd mwy i wybod pwy sy’n siarad ar y pryd? …..”Ai Ffion neu Bethan oedd yn siarad?!” Efallai eich bod yn gweithio mewn amgylchedd swnllyd ac yn cael trafferth clywed eraill yn y cyfarfod yn siarad? Efallai eich bod wedi ymuno â chyfarfod lle nad eich iaith gyntaf yw’r iaith a siaradir? Neu efallai eich bod yn gwerthfawrogi’r hygyrchedd o gael is-deitlau?

Os oes unrhyw un o’r uchod yn wir, mae’n debygol y byddwch yn gweld y nodwedd i alluogi capsiynau byw yn MS Teams yn ddefnyddiol. Gwyliwch y fideo isod i ddysgu sut mae galluogi capsiynau byw:

Mae’n werth nodi ychydig o bethau os ydych chi’n defnyddio’r nodwedd hon:

  • Mae capsiynau byw ond yn weladwy i’r rhai sydd wedi galluogi’r nodwedd yn y cyfarfod, sy’n golygu na fyddant yn ymddangos yn awtomatig i bawb os byddwch yn eu troi ymlaen!
  • Mae data capsiynau byw yn cael ei ddileu’n barhaol ar ôl cyfarfod, felly ni fydd unrhyw un yn cael mynediad at yr wybodaeth hon.

Ewch i’r dudalen we hon am gefnogaeth ac arweiniad pellach wrth ddefnyddio MS Teams.

Sefwch allan o’r dorf gyda Thystysgrifau LinkedIn Learning 🏆

Yn y farchnad swyddi gystadleuol sydd ohoni, mae’n bwysig i fyfyrwyr prifysgol sefyll ar allan. Un ffordd o wneud hyn yw drwy ennill tystysgrifau ar gyfer cyrsiau a gwblhawyd ar eich cyfrif LinkedIn Learning Prifysgol Aberystwyth a’u hychwanegu at eich proffil LinkedIn personol.

Ond pam mae hyn yn bwysig? Mae ychwanegu tystysgrifau yn cynyddu eich siawns o gael eich canfod gan recriwtwyr sy’n chwilio am sgiliau penodol, gan ddangos eich ymrwymiad i ddysgu parhaus a datblygu gyrfa, gan eich gwneud yn ymgeisydd mwy apelgar.

Gwyliwch y fideo isod i ddysgu sut i ychwanegu tystysgrifau LinkedIn Learning i’ch proffil LinkedIn personol

Dysgwch fwy am LinkedIn Learning o’r sesiwn hon yn yr Ŵyl Sgiliau Digidol ’23 (Sesiwn GymraegSesiwn Saesneg)

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ychwanegu tystysgrifau LinkedIn Learning i’ch proffil LinkedIn personol, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk) neu edrychwch ar y dudalen Tystysgrif LinkedIn Learning swyddogol.

TipDigidol 31: Lleihau eich holl ffenestri agored yn gyflym 💥

Mae hyn yn awgrym cyflym iawn, ond gobeithio ei fod yn ddefnyddiol! Efallai y bydd adegau lle bydd angen i chi leihau’r holl ffenestri ac apiau sydd ar agor ar sgrin eich cyfrifiadur neu liniadur. Efallai eich bod ar fin dechrau cyflwyno ac eisiau cael gwared ar yr holl ffenestri agored? Neu efallai eich bod eisiau cael gwared ar yr holl annibendod a mynd yn ôl i’ch bwrdd gwaith?

Gallwch chi bwyso’r bysellau Windows + D i leihau pob ap a ffenestr sydd ar agor a bydd yn mynd â chi’n ôl i’r bwrdd gwaith. Os ydych chi am ailagor pob ffenestr ac ap, pwyswch yr un bysellau eto!

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

Fy mhrofiad gyda Code First Girls 💻

Blogbost gan Jia Ping Lee (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)

Rwy’n cofio dod ar draws Code First Girls trwy eu cyfryngau cymdeithasol yn ystod haf 2023, ac yna nes i ddysgu am bartneriaeth newydd Prifysgol Aberystwyth gyda nhw. Er nad oedd gen i unrhyw brofiad blaenorol o godio ac nad oedd gennyf lawer o wybodaeth am fyd technoleg, cefais fy synnu pa mor hawdd oedd hi i edrych trwy’r cyrsiau yr oedd Code First Girls yn eu cynnig ac ni waeth pa lefel o godio sydd gennych – mae cwrs priodol ar gael i chi.

Gan fy mod yn ddechreuwr llwyr gyda ieithoedd codio, cefais gipolwg ar eu cyrsiau rhagarweiniol o’r enw MOOC (cyrsiau ar-lein agored enfawr Code First Girls). Cynlluniwyd y cyrsiau hyn i gyflwyno a darparu sgiliau technoleg lefel dechreuwyr a helpu i feithrin hyder mewn maes o’ch dewis. Yr hyn yr oeddwn i’n meddwl oedd yn wych am y cyrsiau hyn oedd sut yr oeddent yn cael eu trefnu a’u cyflwyno. Gyda MOOC Sprints, roeddent yn rhedeg dros 4 wythnos gydag 1 sesiwn fyw awr o hyd yr wythnos ac ar ôl i’r Sprint ddod i ben, roedd cyfle i brofi eich gwybodaeth a phrofi datrys problemau’r byd go iawn gyda Heriau MOOC a chael tystysgrif cwblhau ar ôl pasio cwisiau’r sesiwn. Profais amrywiaeth o’r cyrsiau cyflwyno a gynigir gan gynnwys codio, datblygu gwe a datrys problemau gyda Python. Gan fy mod yn gallu adolygu’r hyn a ddysgais ar fy nghyflymdra fy hun ar ôl dosbarthiadau, nid oedd mor llethol ag yr oeddwn i’n ei feddwl i ddechrau, ac roedd tiwtoriaid y cwrs bob amser ar gael i gysylltu â nhw pe bai angen cymorth neu arweiniad ychwanegol arnaf.

Ar ôl mwynhau cymryd y camau cyntaf tuag at feithrin rhywfaint o hyder technolegol, rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu’r sgiliau rwyf wedi’u dysgu o’r cyrsiau rhagarweiniol a symud ymlaen i’r lefel nesaf. Rwy’n credu mai’r wers bwysicaf yr wyf wedi’i dysgu o’r profiad hwn yw peidio byth â bod ofn rhoi cynnig ar rywbeth newydd sydd y tu allan i’ch cilfan gysurus. I ddechrau, gall y byd codio ymddangos yn frawychus ac yn anodd ei ddeall, yn enwedig os nad ydych wedi dysgu amdano o’r blaen. Ond gyda Code First Girls, maen nhw yma i helpu i’n harwain a’n cefnogi i gyflawni’r sgiliau gorau sydd eu hangen arnom i gael cyfleoedd cyffrous yn y dyfodol!

Cymerwch olwg ar y blogbost hyn lle dewch o hyd i 5 reswm pam y dylech fanteisio ar bartneriaeth Prifysgol Aberystwyth gyda Code First Girls. Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr holl gyfleoedd ar wefan Code First Girls.

Nodwch fod Code First Girls yn agored i fenywod a phobl anneuaidd. Os nad ydych yn gymwys i ymgymryd â’r cyrsiau a gynigir trwy Code First Girls, mae llawer o gyfleoedd eraill am ddim ar gael, gan gynnwys heriau a chyrsiau codio gyda CoderPad a GitHub yn LinkedIn Learning.

Creu eich proffil ar LinkedIn: Rock your Profile 🤘🏻

Blogbost gan Shân Saunders (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)

Sylwer mai dim ond trwy gyfrwng y Saesneg y ceir holl ddarpariaethau LinkedIn ar hyn o bryd.   

Wrth i ddiwedd y flwyddyn academaidd agosáu, efallai eich bod yn dechrau meddwl am ragolygon swyddi a’ch gyrfaoedd yn y dyfodol a ble i ddechrau ar y daith hon.  Mae LinkedIn bellach yn cynnig gweminarau “Rock your Profile” i’ch helpu i ddysgu sut i adeiladu proffil diddorol sy’n apelio at eich cynulleidfa ddelfrydol yn ogystal â thynnu sylw at nodweddion allweddol ac arferion gorau ar gyfer adeiladu proffil atyniadol.  Mae’r gweminarau hyn ar gael ar wahanol adegau o’r dydd, cofrestrwch yma nawr:  Rock Your Profile (linkedin.com).  

Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth hefyd yn cynnig adolygu proffiliau CV a LinkedIn a rhoi cyngor ar eu gwella.  Gallwch ddefnyddio’r gwasanaethau hyn drwy alw heibio yn bersonol i Lyfrgell Hugh Owen Lefel D yn ystod y tymor.  Mae’r tîm Gyrfaoedd hefyd ar gael drwy e-bost yn: gyrfaoedd@aber.ac.uk.  Fel arall, mae’r tîm Gyrfaoedd hefyd yn cynnal sesiynau ar sut i greu CV a phroffil LinkedIn yn llwyddiannus. Mae’r sesiynau hyn yn cael eu hysbysebu ar y porth gyrfaoedd: www.aber.ac.uk/gyrfaoeddABER.  Cawsom hefyd sesiwn am sut i ddefnyddio LinkedIn yn ein Gŵyl Sgiliau Digidol y gallwch ei weld yma:  Sut i ddefnyddio LinkedIn – Gŵyl Sgiliau Digidol 2023 (6 – 10 Tachwedd) (aber.ac.uk).  Gallwch weld rhagor o adnoddau ar LinkedIn drwy’r fideos isod: 

Datblygwch eich sgiliau DA yn ymarferol yn LinkedIn Learning 👩‍💻

Nôl ym mis Hydref 2023, fe wnaethom ni ysgrifennu am bartneriaeth gyffrous newydd rhwng LinkedIn Learning a CoderPad, a gyflwynodd ychwanegiad Heriau Cod i LinkedIn Learning.  Mae’r heriau hyn wedi’u teilwra i gynorthwyo dysgwyr, o ddechreuwyr i ddysgwyr uwch, i ddatblygu eu sgiliau codio drwy ymarferion rhyngweithiol ac adborth amser real. Gallwch ailymweld â’n blogbost blaenorol yma i ddysgu mwy.

Mae DA (Deallusrwydd Artiffisial) a DA Cynhyrchiol yn prysur ddod yn gonglfeini arloesedd. I gefnogi eich datblygiad yn y sgiliau hyn, mae LinkedIn Learning wedi ehangu eu casgliad i gynnwys 73 o gyrsiau ymarferol ar gyfer sgiliau DA a DA Cynhyrchiol. Mae’r cyrsiau hyn i gyda ar gael ar y dudalen we hon neu edrychwch ar ddetholiad ohonynt isod.

Dechreuwyr

Dysgwyr Canolradd

Dysgwyr Uwch

Mae gan bob myfyriwr ac aelod o staff fynediad at yr holl gyrsiau ar LinkedIn Learning, gan gynnwys y rhai ymarferol hyn, drwy eich cyfrif LinkedIn Learning Prifysgol Aberystwyth rhad ac am ddim. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am LinkedIn Learning neu am gael mynediad i unrhyw gynnwys a grybwyllwyd yn y blogbost hwn, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk), neu dewch â’ch cwestiynau i un o’n sesiynau galw heibio wythnosol!

Cynyddwch eich cynhyrchiant yn MS Teams 💡

Blogbost gan Sioned Llywelyn (Arweinydd Sgiliau Digidol)

Fel rhywun sy’n defnyddio Microsoft Teams bob dydd yn y gwaith, rwyf wedi darganfod casgliad o lwybrau byr ac awgrymiadau defnyddiol ar y bysellfwrdd sydd wedi fy helpu i lywio’r llwyfan yn fwy effeithlon. P’un a ydych chi’n aelod o staff yn neidio o un cyfarfod i’r nesaf, neu’n fyfyriwr sy’n defnyddio MS Teams i gydweithio ar brosiectau neu fynychu darlithoedd rhithiol, dylai’r awgrymiadau byr hyn eich helpu i fanteisio i’r eithaf ar MS Teams.

Bysellau hwylusDisgrifiad
Ctrl+Shift+ODiffodd eich camera
Ctrl+Shift+MDiffodd eich meicroffon
Ctrl+KCreu hyperddolenni byrrach
Shift + EnterDechrau llinell newydd yn y blwch sgwrsio heb anfon y neges
Crynodeb o’r llwybrau byr a grybwyllir yn y blog hwn

Diffodd eich camera yn gyflym

Mae yna adegau pan fydd angen i chi ddiffodd eich fideo yn gyflym yn ystod galwad, efallai bod eich lled band yn gyfyngedig neu fod ymyriadau y tu ôl i chi. Trowch eich camera ymlaen a’i ddiffodd yn gyflym trwy ddefnyddio’r llwybr byr Ctrl+Shift+O.

Addasu eich hyperddolenni

Yn hytrach na llenwi eich negeseuon gydag hyoerddolenni hir, defnyddiwch y llwybr byr Ctrl+K. Mae’r llwybr byr hwn yn caniatáu ichi addasu’r testun a ddangosir ar gyfer eich hyperddolen, gan wneud eich negeseuon yn fwy cryno!

Diffodd eich meicroffon

Gall sŵn yn y cefndir amharu ar gyfarfodydd hefyd (mae gen i ddau gi sy’n cyfarth pan fydd rhywun yn canu cloch y drws, felly dyma’r llwybr byr yr wyf fi’n ei ddefnyddio fwyaf!) Defnyddiwch Ctrl+Shift+M i ddiffodd a throi eich meicroffon ymlaen yn gyflym.

Mireinio eich canlyniadau chwilio

Mae gan Teams adnodd chwilio defnyddiol, ond weithiau gall gynhyrchu gormod o ganlyniadau! Manteisiwch ar yr hidlyddion sydd ar gael i fireinio’ch chwiliad ac i arbed amser i chi.

Dechrau llinell newydd yn y blwch sgwrsio heb anfon y neges

Gall teipio negeseuon yn Teams fod yn anodd, yn enwedig pan fyddwch chi eisiau ychwanegu toriadau llinell heb anfon y neges yn anghyflawn. Defnyddiwch Shift+Enter i ddechrau llinell newydd yn y blwch sgwrsio heb anfon y neges yn rhy gynnar.

Gwneud penderfyniadau cyflym gyda’r nodwedd bleidleisio

A oes angen i chi gasglu barn neu wneud penderfyniadau yn gyflym? Os ydych chi’n bwriadu creu pleidlais ar ôl i chi ddechrau eich cyfarfod, mae gan Teams adnodd pleidleisio.

Noder: Rydym yn awgrymu eich bod yn defnyddio Vevox, adnodd pleidleisio PA os ydych chi’n bwriadu gosod pleidlais cyn eich cyfarfod neu sesiwn ar-lein.

Marcio negeseuon fel rhai brys neu bwysig

Ydych chi eisiau anfon neges bwysig ar Teams ac yn poeni y bydd yn mynd ar goll o fewn llif o negeseuon? I ddatrys y broblem hon, gallwch farcio unrhyw negeseuon fel rhai brys neu bwysig yn MS Teams.

Oes gennych chi unrhyw lwybrau byr eraill neu awgrymiadau cyffredinol eraill pan fyddwch chi’n defnyddio MS Teams? Os felly, hoffem glywed oddi wrthych! Rhannwch eich awgrymiadau a’ch llwybrau byr yn y blwch isod