Blog-bost gan Jeffrey Clark (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Gwneud pethau’n haws
Mae’n bosib mai Microsoft Word yw’r rhaglen gyfrifiaduron fwyaf adnabyddus ym maes academia. Mae bron bob cwrs y gallwch ei ddilyn ym Mhrifysgol Aberystwyth yn defnyddio Microsoft Word i ryw raddau, gyda rhai cyrsiau yn gofyn i chi wneud mwy na dim ond teipio traethawd. Yn y blog-bost hwn, byddaf yn rhannu ambell dric defnyddiol yn Microsoft Word sydd wedi fy helpu yn ystod fy astudiaethau.
Awgrym 1: Bysellau hwylus
Mae bysellau hwylus yn gyfuniad o fysellau rydych chi’n eu pwyso er mwyn cyflawni swyddogaeth. Er enghraifft, mae pwyso control (ctrl) a C ar yr un pryd ar ôl amlygu testun yn copïo’r testun hwnnw i’ch clipfwrdd. Yn lle clicio’r botwm dde a sgrolio i lawr y gwymplen i Gludo, gallwch bwyso ctrl + V i ludo’r testun.
Gellir defnyddio’r allwedd ALT ar gyfer bysellau hwylus hefyd. Yn benodol, defnyddir yr allwedd ALT ar gyfer bysellau hwylus sy’n berthnasol i’r bar tasgau uchaf. Trwy ddal ALT i lawr am ychydig eiliadau, bydd yr allweddi ar gyfer pob bysell hwylus yn ymddangos. Er enghraifft, ar fy mysellfwrdd i, bydd pwyso ALT + 2 yn cadw fy nogfen.
Yn y llun isod mae tab Cartref (Home) ein bar tasgau ar agor.

Ond os pwyswn ni ALT+S i fynd i’r tab Cyfeiriadau (References)…

Cawn gyfres hollol newydd o orchmynion bysellfwrdd ALT i’w defnyddio!
Trwy ddal ALT i lawr gyda thab gwahanol ar agor gallwn weld pa fysellau hwylus sydd ar gael ar gyfer pob tab ar y bar tasgau. Os byddwch yn anghofio beth mae bysellau hwylus ALT yn ei wneud, daliwch ALT i lawr er mwyn eich atgoffa.