Datblygwch eich sgiliau dros 12 diwrnod y Nadolig!

Mae gan holl staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth fynediad am ddim i LinkedIn Learning, adnodd E-ddysgu a ddarperir gan drydydd parti. Os byddwch yn actifadu eich cyfrif cyn 10 Ionawr 2022, byddwn yn eich cynnwys yn awtomatig mewn raffl lle bydd gennych gyfle i ennill un o ddwy daleb rhodd gwerth £25. 

Cymerwch olwg ar yr amrywiaeth o gyrsiau ac adnoddau sydd ar gael yn LinkedIn Learning. Mae rhywbeth i bawb – gallwch ddysgu sut i feistroli Excel neu’r piano, cael gwybod beth yw’r cwestiynau mwyaf cyffredin mewn cyfweliadau neu hyd yn oed hyfforddi’ch ymennydd ar gyfer hapusrwydd!

Dyma restr o 12 cwrs i chi roi cynnig arnynt dros 12 diwrnod y Nadolig: 

  1. The pursuit of happiness: how to train your brain for happiness. (Hyd: 54 munud)
  2. Learning Excel 2019 (Hyd: 1 awr 7 munud)
  3. GarageBand Essential Training: capture your musical vision (Hyd: 4 awr 4 munud) 
  4. Expert tips for answering common interview questions (Hyd: 1 awr 14 munud) 
  5. Drawing Foundations Fundamental  (Hyd: 2 awr 24 munud)
  6. Being an effective team member (Hyd: 31 munud) 
  7. Introduction to photography (Hyd: 1 awr 52 munud) 
  8. Managing your personal finances (Hyd: 1 awr 4 munud) 
  9. Designing a presentation (Hyd: 56 munud) 
  10. Piano Lessons: Teach yourself to play (Hyd: 1 awr 54 munud) 
  11. Project management foundations: small projects (Hyd: 1 awr 29 munud) 
  12. Building self confidence (Hyd: 18 munud) 

Hoffwn hefyd ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!

Mynediad am ddim i LinkedIn Learning

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod LinkedIn Learning, adnodd E-ddysgu a ddarperir gan drydydd parti, bellach ar gael yn rhad ac am ddim i holl staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

Beth yw LinkedIn Learning? 

Mae gan y llwyfan dysgu ar-lein hwn lyfrgell ddigidol helaeth o gyrsiau a fideos byr dan arweiniad arbenigwyr; mae’r rhain yn amrywio o gyrsiau busnes i gynnwys creadigol a thechnolegol. Gallwch felly ei ddefnyddio i ddatblygu eich sgiliau proffesiynol, i ddysgu meddalwedd newydd, ac i archwilio meysydd eraill wrth i chi gynllunio ar gyfer datblygiad personol, academaidd a thwf eich gyrfa. 

Dechrau arni

Mae LinkedIn Learning ar gael 24/7 o’ch cyfrifiadur neu ddyfais symudol. Ewch i LinkedIn Learning a mewngofnodwch gyda’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Prifysgol Aberystwyth. Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau mewngofnodi yma.

Dilynwch y fideo hwn i ddysgu sut i ddechrau arni gyda LinkedIn Learning. 

Cyfle i ennill taleb gwerth £25 

Os byddwch yn actifadu eich cyfrif cyn 10 Ionawr 2022, byddwn yn eich cynnwys yn awtomatig mewn raffl lle bydd gennych gyfle i ennill un o ddwy daleb rhodd gwerth £25. 

Gwybodaeth bellach 

Os cewch unrhyw anawsterau wrth fewngofnodi i LinkedIn Learning, cysylltwch â Gwasanaethau Gwybodaeth (gg@aber.ac.uk).

Ar gyfer unrhyw ymholiadau cyffredinol eraill am LinkedIn Learning, cysylltwch â’r Swyddog Galluoedd Digidol (digi@aber.ac.uk). Gallwch hefyd ymweld â’r tudalennau Cwestiynau Cyffredin LinkedIn Learning

Beth yw Galluoedd Digidol?

Mae’n bosib eich bod chi wedi clywed am alluoedd digidol yn barod, neu efallai eich bod yn fwy cyfarwydd â’r term cysylltiedig, sgiliau digidol. Gyda sefydliad diweddar Prosiect Galluoedd Digidol newydd y Brifysgol, mae’n debygol y byddwch chi’n clywed llawer mwy am alluoedd digidol dros y misoedd nesaf.

Beth yw galluoedd digidol?

Yn ôl Jisc, mae galluoedd digidol yn arfogi unigolion i allu byw, dysgu a gweithio mewn cymdeithas ddigidol. Yn sgil y pandemig, mae’r amser y mae’r rhan fwyaf ohonom yn ei dreulio ar-lein wedi cynyddu’n sylweddol – drwy weithio, dysgu, addysgu a rhyngweithio gydag eraill ar-lein.

Gwyliwch y fideo byr hwn gan Brifysgol Derby i ddysgu mwy am bwysigrwydd galluoedd digidol.

Read More

Croeso i’r Blog Galluoedd Digidol newydd!

Dr Sioned Llywelyn – Swyddog Galluoedd Digidol

Bwriad y blog hwn yw cyflwyno’r newyddion diweddaraf am y cyfleoedd a’r datblygiadau ym Mhrosiect Galluoedd Digidol newydd Prifysgol Aberystwyth, prosiect a sefydlwyd ym mis Awst 2021. Mae’r Prosiect Galluoedd Digidol yn cwympo o fewn Gwasanaethau Gwybodaeth ac rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i fyfyrwyr a staff i’ch helpu i asesu, cynllunio a datblygu eich galluoedd digidol.

Fel rhan o’r prosiect newydd hwn, penodwyd Dr Sioned Llywelyn yn Swyddog Galluoedd Digidol a bydd hi’n gweithio ochr yn ochr â staff a myfyrwyr i’w helpu i ddatblygu eu galluoedd digidol. I gysylltu â Sioned, anfonwch e-bost at digi@aber.ac.uk.

Cadwch lygad allan am ein blog nesaf lle byddwn yn cyflwyno gwybodaeth am Fframwaith Galluoedd Digidol Jisc, fframwaith yr ydym yn ei ddilyn yn agos fel rhan o’r prosiect hwn. Cofiwch hefyd y gallwch danysgrifio i’n blog!