Aelod newydd o’r tîm! 

Helo bawb! Fy enw i yw Jia Ping Lee ac rwyf wedi ymuno â’r tîm Sgiliau Digidol fel cydlynydd galluoedd digidol a datblygu sgiliau.  

Cwblheais fy astudiaethau israddedig mewn Geneteg yn Aberystwyth a dychwelais adref yn ddiweddar o Tsieina ar ôl 4 blynedd fel Athro Saesneg i blant ifanc. 

Rwy’n edrych ymlaen at gefnogi a gweithio gyda staff a myfyrwyr yn y brifysgol i helpu i ddatblygu eu sgiliau digidol a dod yn hyderus o ran eu gallu digidol, wrth i bob un ohonom geisio llywio a dal i fyny â chymdeithas ddigidol sy’n esblygu’n gyson. 

Dewch i roi Cyflwyniad yn ein Gŵyl Sgiliau Digidol! 🎉  

O 6 – 10 Tachwedd 2023 rydym yn cynnal Gŵyl Sgiliau Digidol Prifysgol Aberystwyth ac rydym yn chwilio am fyfyrwyr uwchraddedig i gyflwyno sesiynau. Gallwch gyflwyno sesiwn naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb a gall fod yn weithdy, sesiwn galw heibio neu’n arddangosiad ar sgil ddigidol neu feddalwedd yr ydych chi’n ei ddefnyddio’n fedrus. Er enghraifft, hoffem gael rhai sesiynau ar y sgiliau a’r meddalwedd canlynol:  

  • Pecynnau Microsoft – Hanfodol neu Uwch
  • SPSS 
  • NVivo 
  • ArcGIS 
  • Python (neu feddalwedd rhaglennu arall) 
  • Adobe Photoshop
  • Cyfryngau Cymdeithasol e.e. creu deunydd ar gyfer Instagram Reels, TikTok, Twitter, YouTube ac ati. 
  • Creu neu olygu fideos 
  • ProTools 
  • Discord 

Rydym hefyd yn agored i unrhyw sgiliau neu feddalwedd arall sy’n bwysig ac y dylid eu darparu yn eich barn chi!  

Os oes gennych ddiddordeb, cofrestrwch erbyn 28 Gorffennaf 2023 drwy’r ddolen ganlynol: https://forms.office.com/e/EQsxd8wdD7 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu broblemau wrth ddefnyddio’r ffurflen gofrestru, cysylltwch â ni yn: digi@aber.ac.uk