Rhowch flaenoriaeth i’ch lles digidol ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl Prifysgolion

Blogbost gan Sioned Llywelyn (Arweinydd Sgiliau Digidol)

Yn yr oes sydd ohoni, mae’r rhan fwyaf ohonom yn dibynnu’n helaeth ar dechnoleg. Er bod y byd digidol yn cynnig posibiliadau ac adnoddau diddiwedd, mae’n hanfodol parhau i gofio ei effeithiau posibl ar ein lles digidol. A hithau’n Ddiwrnod Iechyd Meddwl Prifysgolion dyma gyfle perffaith i rannu detholiad o awgrymiadau ac adnoddau i’ch helpu i gael perthynas iachach â thechnoleg.

Hoffem glywed oddi wrthych! Pa strategaethau neu adnoddau sydd fwyaf defnyddiol i chi wrth gynnal perthynas iach â thechnoleg?

Testun yn unig:

Lles Digidol

Mae lles digidol yn ymwneud â dod o hyd i gydbwysedd iach rhwng buddion ac anfanteision technoleg. Sut alla i wella fy lles digidol?

  1. Addaswch eich gosodiadau i gyfyngu ar eich amser sgrolio yn Instagram (Darllen mwy)
  2. Defnyddiwch ap hunanofal Finch i osod nodau lles realistig i chi gyflawni drwy gydol y dydd (Darllen mwy)
  3. Gwyliwch gyrsiau lles digidol byr yn LinkedIn Learning (Myfyrwyr; Staff)
  4. Defnyddiwch offer rheoli tasgau, fel Microsoft To Do neu Microsoft Planner i leihau straen tra’n gweithio (Darllen mwy)
  5. Lleihewch straen llygaid wrth ddefnyddio dyfeisiau drwy: Ddilyn rheol 20-20-20; Ddefnyddio hidlwyr golau glas; Alluogi modd tywyll (Darllen mwy)
  6. Lleihewch wrthdyniadau o’ch dyfeisiau drwy: Analluogi hysbysiadau; Ddileu apiau nad ydych chi’n eu defnyddio; Alluogi’r gosodiad Do-not-disturb dros nos; Gadw eich ffôn allan o’r golwg ac allan o’ch meddwl!
  7. Gwnewch y mwyaf o dechnoleg i gadw trac ar eich nodau ffitrwydd

Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk)

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*