Cynyddwch eich cynhyrchiant yn MS Teams 💡

Blogbost gan Sioned Llywelyn (Arweinydd Sgiliau Digidol)

Fel rhywun sy’n defnyddio Microsoft Teams bob dydd yn y gwaith, rwyf wedi darganfod casgliad o lwybrau byr ac awgrymiadau defnyddiol ar y bysellfwrdd sydd wedi fy helpu i lywio’r llwyfan yn fwy effeithlon. P’un a ydych chi’n aelod o staff yn neidio o un cyfarfod i’r nesaf, neu’n fyfyriwr sy’n defnyddio MS Teams i gydweithio ar brosiectau neu fynychu darlithoedd rhithiol, dylai’r awgrymiadau byr hyn eich helpu i fanteisio i’r eithaf ar MS Teams.

Bysellau hwylusDisgrifiad
Ctrl+Shift+ODiffodd eich camera
Ctrl+Shift+MDiffodd eich meicroffon
Ctrl+KCreu hyperddolenni byrrach
Shift + EnterDechrau llinell newydd yn y blwch sgwrsio heb anfon y neges
Crynodeb o’r llwybrau byr a grybwyllir yn y blog hwn

Diffodd eich camera yn gyflym

Mae yna adegau pan fydd angen i chi ddiffodd eich fideo yn gyflym yn ystod galwad, efallai bod eich lled band yn gyfyngedig neu fod ymyriadau y tu ôl i chi. Trowch eich camera ymlaen a’i ddiffodd yn gyflym trwy ddefnyddio’r llwybr byr Ctrl+Shift+O.

Addasu eich hyperddolenni

Yn hytrach na llenwi eich negeseuon gydag hyoerddolenni hir, defnyddiwch y llwybr byr Ctrl+K. Mae’r llwybr byr hwn yn caniatáu ichi addasu’r testun a ddangosir ar gyfer eich hyperddolen, gan wneud eich negeseuon yn fwy cryno!

Diffodd eich meicroffon

Gall sŵn yn y cefndir amharu ar gyfarfodydd hefyd (mae gen i ddau gi sy’n cyfarth pan fydd rhywun yn canu cloch y drws, felly dyma’r llwybr byr yr wyf fi’n ei ddefnyddio fwyaf!) Defnyddiwch Ctrl+Shift+M i ddiffodd a throi eich meicroffon ymlaen yn gyflym.

Mireinio eich canlyniadau chwilio

Mae gan Teams adnodd chwilio defnyddiol, ond weithiau gall gynhyrchu gormod o ganlyniadau! Manteisiwch ar yr hidlyddion sydd ar gael i fireinio’ch chwiliad ac i arbed amser i chi.

Dechrau llinell newydd yn y blwch sgwrsio heb anfon y neges

Gall teipio negeseuon yn Teams fod yn anodd, yn enwedig pan fyddwch chi eisiau ychwanegu toriadau llinell heb anfon y neges yn anghyflawn. Defnyddiwch Shift+Enter i ddechrau llinell newydd yn y blwch sgwrsio heb anfon y neges yn rhy gynnar.

Gwneud penderfyniadau cyflym gyda’r nodwedd bleidleisio

A oes angen i chi gasglu barn neu wneud penderfyniadau yn gyflym? Os ydych chi’n bwriadu creu pleidlais ar ôl i chi ddechrau eich cyfarfod, mae gan Teams adnodd pleidleisio.

Noder: Rydym yn awgrymu eich bod yn defnyddio Vevox, adnodd pleidleisio PA os ydych chi’n bwriadu gosod pleidlais cyn eich cyfarfod neu sesiwn ar-lein.

Marcio negeseuon fel rhai brys neu bwysig

Ydych chi eisiau anfon neges bwysig ar Teams ac yn poeni y bydd yn mynd ar goll o fewn llif o negeseuon? I ddatrys y broblem hon, gallwch farcio unrhyw negeseuon fel rhai brys neu bwysig yn MS Teams.

Oes gennych chi unrhyw lwybrau byr eraill neu awgrymiadau cyffredinol eraill pan fyddwch chi’n defnyddio MS Teams? Os felly, hoffem glywed oddi wrthych! Rhannwch eich awgrymiadau a’ch llwybrau byr yn y blwch isod

Datblygwch eich Sgiliau Cyfathrebu Digidol 📱

A ydych chi eisiau dysgu sut i wella eich sgiliau cyfathrebu digidol, ac yn enwedig sut i ddefnyddio Instagram i hyrwyddo eich Busnes neu Fenter Gymdeithasol?

Bydd AberPreneurs, sy’n rhan o Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, yn cynnal digwyddiad ar-lein cyffrous, Instagram for your Business/Social Enterprise – with Kacie Morgan, ar Ddydd Mercher 24 Ebrill (14:10-15:00). Bydd y sesiwn hon yn cael ei chynnal ar-lein dros MS Teams a gallwch ymuno yma.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau, cysylltwch â aberpreneurs@aber.ac.uk.

Profwch eich dealltwriaeth o DdA gyda Offeryn Darganfod Digidol Jisc!

Mae holiadur ‘Sgiliau Digidol mewn DA a DA Cynhyrchiol’ newydd ar gyfer myfyrwyr a staff bellach ar gael yn Offeryn Darganfod Digidol Jisc. Bydd yr holiadur newydd hwn yn eich helpu i hunanasesu a datblygu eich gwybodaeth am Ddeallusrwydd Artiffisial (DA) yn y saith maes canlynol:

  1. DA a Hyfedredd Digidol
  2. DA Cyfrifol
  3. DA a Chynhyrchiant Digidol
  4. DA a Llythrennedd Gwybodaeth a Data
  5. DA a Chyfathrebu Digidol
  6. DA a Chydweithio a Chyfranogiad
  7. DA a Chreadigrwydd Digidol

Ar ôl ateb cyfres o gwestiynau, a fydd yn cymryd tua 10-15 munud, byddwch chi’n derbyn adroddiad personol a fydd yn cynnwys:

  • Trosolwg o’ch hyder â Deallusrwydd Artiffisial
  • Camau a awgrymir i’w cymryd
  • Dolenni at adnoddau defnyddiol, wedi’u curadu gan Ganolfan Genedlaethol DA Jisc, i’ch helpu i ddatblygu eich gwybodaeth am DdA.

Cliciwch yma i gael mynediad at blatfform yr Offeryn Darganfod Digidol, a gwyliwch y fideo byr isod i ddysgu sut i gael mynediad i’r holiadur newydd hwn ⬇

Cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk) os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr holiadur newydd hwn, neu dewch â’ch cwestiynau i un o’n sesiynau galw heibio wythnosol!

Dysgwch sut i godio AM DDIM gyda Code First Girls! ⚡

Ydych chi erioed wedi bod eisiau dysgu sut i godio? Wel nawr gallwch chi wneud hynny, am ddim, trwy fanteisio ar ein partneriaeth gyda Code First Girls! Rydym wedi rhestru 5 rheswm isod pam dylech wneud y mwyaf o’r cyfle gwych hwn.

Nodwch fod Code First Girls yn agored i fenywod a phobl anneuaidd. Os nad ydych yn gymwys i ymgymryd â’r cyrsiau a gynigir trwy Code First Girls, mae llawer o gyfleoedd eraill am ddim ar gael, gan gynnwys heriau a chyrsiau codio gyda CoderPad a GitHub yn LinkedIn Learning.

Cwestiynau❓

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gyrsiau Code First Girls, gofynwn yn garredig i chi gysylltu â nhw yn uniongyrchol.

Read More

TipDigidol 27: Arbedwch amser trwy osod cyfarfodydd rheolaidd yn Microsoft Outlook 🔁

P’un a ydych chi am drefnu digwyddiadau wythnosol gyda chydweithwyr, cyfarfodydd prosiect bob pythefnos, neu gyfarfodydd tîm misol, bydd gwybod sut i’w gosod gan ddefnyddio’r adnodd cyfarfodydd rheolaidd yn Microsoft Outlook yn arbed llawer o amser i chi.

Mae’r fideo isod yn dangos sut i osod cyfarfodydd rheolaidd yn fersiwn ap bwrdd gwaith Outlook, ond mae’r broses ar gyfer gosod y rhain ar MS Teams neu’r fersiwn we o Outlook yn debyg iawn.

Ar ôl ei osod, bydd eich cyfarfod rheolaidd yn ymddangos fel cyfres yn eich calendr, ac os oes angen i chi newid unrhyw fanylion, bydd gennych y dewis i newid un digwyddiad yn unig neu’r gyfres gyfan.

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

Mae ein TipiauDigidol yn dychwelyd wythnos nesaf!

Ers mis Medi 2023, mae’r Tîm Sgiliau Digidol wedi bod yn cyhoeddi TipiauDigidol byr wythnosol a fydd, gobeithio, yn eich helpu i fanteisio i’r eithaf ar dechnoleg. Hyd yn hyn, rydym wedi cyhoeddi 26 o dipiau sy’n amrywio o lwybrau byr bysellfwrdd defnyddiol i offer fel hidlwyr golau glas a all helpu i gefnogi eich lles digidol!

Byddwn yn dychwelyd ar Ddydd Mawrth 16 Ebrill gyda 7 TipDigidol defnyddiol arall, ac os hoffech edrych ar unrhyw un o’n TipiauDigidol blaenorol, gallwch wneud o’r dudalen hon.

Sut alla i ddilyn y TipiauDigidol?

Mae cwpwl o wahanol ffyrdd y gallwch ddilyn ein TipiauDigidol.

  1. Gallwch lyfrnodi’r dudalen we hon a bydd TipDigidol yn ymddangos yma am 10yb bob Ddydd Mawrth yn ystod y tymor (darllenwch TipDigidol 1 os nad ydych yn siŵr sut i lyfrnodi tudalen we).
  2. Os ydych chi am dderbyn hysbysiad e-bost bob tro y byddwn yn postio TipDigidol newydd, gallwch danysgrifio i’n Blog Sgiliau Digidol.
  3. Rydym hefyd yn cyhoeddi pob TipDigidol ar broffiliau Facebook ac Instagram Gwasanaethau Gwybodaeth, a gallwch gael mynediad at y proffiliau o’r eiconau isod. O’r fan honno, gallwch ddilyn ein hashnodau #TipiauDigiPA #AUDigiTips

Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Graddedigion – Wythnos 8 (Manon Rosser)

Heddiw rydyn ni’n cyhoeddi ein proffil sgiliau digidol olaf gyda graddedigion diweddar PA! Heddiw, cawn glywed gan Manon a astudiodd Hanes a Gwleidyddiaeth yn Aberystwyth, ac sydd bellach yn gweithio fel cyfieithydd. Mae hi’n rhannu pa mor ddefnyddiol oedd iddi ddysgu sut i ddefnyddio Cysill a Cysgeir tra yn y Brifysgol, ond sut byddai wedi bod yn ddefnyddiol iddi fod wedi dysgu sut i ddefnyddio Excel, gan ei bod hi’n ei ddefnyddio’n rheoliad ar gyfer ei gwaith.

Os hoffech ddysgu mwy am ddefnyddio Cysill a Cysgeir, ac am weithio yn y Gymraeg yn fwy cyffredinol ar eich cyfrifiadur, darllenwch ein blogbost diweddar. Os oes gennych ddiddordeb hefyd mewn datblygu eich hyfedredd gydag Excel, gallwch weld ein casgliad Awgrymiadau defnyddiol Excel o LinkedIn Learning.

Cadwch lygad allan ym mis Hydref 2024 gan y byddwn yn cyhoeddi Cyfres Proffil Sgiliau Digidol newydd â Chyflogwyr!

Testun yn unig:

Pryd wnaethoch chi raddio o Brifysgol Aberystwyth? 2022

Beth fuoch chi’n ei astudio? “Hanes a Gwleidyddiaeth”

Beth ydych chi’n ei wneud yn broffesiynol ers graddio? “Dwi nawr yn gweithio i gwmni Hyfforddiant Cambrian fel cyfieithydd”

Pa sgiliau digidol ydych chi’n eu defnyddio yn y gwaith?

Cyfranogiad digidol – “Dwi’n cael lot o gyfarfodydd ar-lein, ac rydyn ni’n defnyddio Google Meet ar gyfer rhain.”

Hyfedredd digidol – “Gan fy mod i’n gyfieithydd, dwi’n defnyddio tipyn ar raglenni fel Cysgeir a Cysill, a dwi hefyd yn defnyddio geiriaduron ar-lein fel Byd Termau Cymru a Geiriadur yr Academi.”

Cyfathrebu digidol – “Dwi’n defnyddio Gmail pob dydd ar gyfer e-bostio cydweithwyr.”

Cynhyrchiant digidol – “Dwi’n defnyddio labeli yn Gmail ar gyfer helpu fi i drefnu fy e-byst.”

A gawsoch chi unrhyw gefnogaeth gyda’ch sgiliau digidol ym Mhrifysgol Aberystwyth?

“Ges i dipyn o gefnogaeth gan fy narlithwyr a gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddysgu sut i ddefnyddio Cysill a Cysgeir.” “Ges i gefnogaeth gan ddarlithwyr ar sut i ddefnyddio’r rhestrau darllen ar Blackboard. Roedd hynna’n help mawr ar gyfer dod o hyd i adnoddau ar gyfer ysgrifennu traethodau.”

Oes unrhyw sgiliau digidol yr hoffech fod wedi’u dysgu cyn ichi raddio?

“Pan nes i adael y Brifysgol, doeddwn i ddim yn hyderus iawn yn cyfathrebu dros e-bost mewn modd proffesiynol, felly byddai wedi bod yn dda gallu ymarfer hyn mwy cyn gadael.” “Rydyn ni’n defnyddio Excel lot yn y gwaith nawr i reoli data. Nes i ddim defnyddio Excel o gwbl fel rhan o fy ngradd i, ond byddai wedi bod yn ddefnyddiol iawn gallu dysgu sut i’w ddefnyddio tro oeddwn i yn fyfyriwr.”

Dysgwch yn eich dewis iaith gyda LinkedIn Learning 🔊

Blogbost gan Sioned Llywelyn (Arweinydd Sgiliau Digidol)

Mae LinkedIn Learning yn cynnig llyfrgell helaeth o gyrsiau a fideos ar-lein, ac maent ar gael yn rhad ac am ddim i holl fyfyrwyr a staff y Brifysgol (dysgwch sut i gychwyn arni). Ond, oeddech chi’n gwybod bod modd gwylio cyrsiau LinkedIn Learning mewn amrywiaeth o ieithoedd – nid dim ond yn Saesneg?

Yn anffodus, nid yw Cymraeg ar rhestr eto (rydyn ni’n croesi’n bysedd! 🤞), ond mae’r rhan fwyaf o’r cyrsiau ar gael yn yr 13 iaith isod, a allai hwyluso pethau i’r rhai nad Saesneg yw eu mamiaith.

  1. Saesneg
  2. Tsieinëeg wedi’i symleiddio
  3. Ffrangeg
  4. Almaeneg
  5. Siapaneg
  6. Portiwgaleg
  7. Sbaeneg
  8. Iseldireg
  9. Eidaleg
  10. Tyrceg
  11. Pwyleg
  12. Corëeg
  13. Bahasa Indonesia

Sut ydw i’n chwilio am gynnwys yn fy newis iaith?

Gwyliwch y fideo isod neu dilynwch y camau syml hyn i ddysgu sut i chwilio am gynnwys LinkedIn Learning yn eich dewis iaith:

  1. Dechreuwch drwy chwilio am gwrs – gallwch naill ai bori trwy’r gwahanol gategorïau neu deipio yn y bar chwilio
  2. Dewiswch eich iaith o’r hidlydd iaith
  3. Os nad yw’r hidlydd iaith yn ymddangos, dewiswch Pob Hidlydd/All Filters

Rhagor o gymorth wrth ddefnyddio LinkedIn Learning

Os oes arnoch angen unrhyw gymorth wrth ddefnyddio LinkedIn Learning, e-bostiwch y Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk), neu mae croeso i chi ddod i un o’n sesiynau galw heibio wythnosol yn yr Hwb Sgiliau, Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen.

Rhowch flaenoriaeth i’ch lles digidol ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl Prifysgolion

Blogbost gan Sioned Llywelyn (Arweinydd Sgiliau Digidol)

Yn yr oes sydd ohoni, mae’r rhan fwyaf ohonom yn dibynnu’n helaeth ar dechnoleg. Er bod y byd digidol yn cynnig posibiliadau ac adnoddau diddiwedd, mae’n hanfodol parhau i gofio ei effeithiau posibl ar ein lles digidol. A hithau’n Ddiwrnod Iechyd Meddwl Prifysgolion dyma gyfle perffaith i rannu detholiad o awgrymiadau ac adnoddau i’ch helpu i gael perthynas iachach â thechnoleg.

Hoffem glywed oddi wrthych! Pa strategaethau neu adnoddau sydd fwyaf defnyddiol i chi wrth gynnal perthynas iach â thechnoleg?

Read More

Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2024 #YsbrydoliCynhwysiant

Heddiw, rydym yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched! Y thema eleni yw #YsbrydoliCynhwysiant, ac mae’n rhoi cyfle pwysig i ni ddathlu cyflawniadau diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol-economaidd menywod, ac mae’n ddiwrnod i’n hannog ni i weithio gyda’n gilydd tuag at ddyfodol mwy cynhwysol a chyfiawn.

Dyma ddetholiad o fideos a chyrsiau LinkedIn Learning, sydd wedi’u hysbrydoli gan Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched. Gallwch gael mynediad i’r holl gynnwys am ddim gyda’ch cyfrif LinkedIn Learning Prifysgol Aberystwyth.

  1. What is inclusion? (2m)
  2. Gender equity for women (6m)
  3. Women transforming tech: Breaking bias (22m)
  4. Becoming a male ally at work (39m)
  5. Nano Tips for Identifying and Overcoming Unconscious Bias in the Workplace (6m)
  6. Men as allies (3m)
  7. Fighting gender bias at work (14m)
  8. Inclusive female leadership (40m)

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i gael mynediad at neu ddefnyddio LinkedIn Learning, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).