Arolwg Profiad Mewnwelediad Digidol Myfyrwyr

Myfyrwyr, dywedwch wrthym am eich profiadau diweddar wrth ddysgu’n ddigidol.

Cymerwch ran yn Arolwg Profiad Mewnwelediad Digidol Myfyrwyr arolwg byr ar-lein i ddarganfod sut rydych chi’n defnyddio technoleg a sut mae hyn yn effeithio ar eich profiad ddysgu. 

Mae’n gyfle i chi leisio eich barn am eich profiadau digidol ac yn gyfle i ennill taleb gwerth £100 neu un o bum taleb gwerth £20. 

Tystysgrif Microsoft Cyfrifiadura Cwmwl AM DDIM i fyfyrwyr

Mae cyfrifiadura cwmwl yn cael ei ystyried yn aml yn un o’r sgiliau technoleg â’r galw mwyaf amdano, a chyda’r symudiad diweddar tuag at weithio a dysgu o bell, nid oes syndod fod cyflogwyr yn chwilio am raddedigion sydd â’r gallu hwn.

Myfyrwyr, peidiwch â cholli allan ar y cyfle cyffrous, RHAD AC AM DDIM, i gael mynediad i weminarau hyfforddi byw Microsoft, sy’n cynnwys profion ymarfer ar gyfer arholiadau yn ogystal ag arholiadau ardystiedig Hanfodion Microsoft!

Y tri chwrs sydd ar gael am ddim yw:

  • 5 Ebrill 2022 – Hanfodion AI
  • 7 Ebrill 2022 – Hanfodion Azure
  • 8 Ebrill 2022 – Hanfodion Seibrddiogelwch

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau hyn, lawrlwythwch y daflen wybodaeth isod:

Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer y cyrsiau drwy Cloud Ready Skills.

Cyrsiau LinkedIn Learning poblogaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth

Ymddengys mai cynhyrchiant yw trefn y dydd, a chyrsiau LinkedIn Learning sy’n gysylltiedig â Microsoft 365 yw’r rhai yr edrychwyd arnynt fwyaf gan staff a myfyrwyr yn ddiweddar. Rydym i gyd yn gyfarwydd â Microsoft 365 ond faint ohonom sy’n manteisio’n llawn ar yr offer a’r nodweddion y mae’n eu cynnig?   

Enillodd MS Teams y parch sy’n ddyledus iddo yn ystod y pandemig ar draws sectorau addysg a’r byd gwaith gyda 91% o gwmnïau Fortune 100 yn ei ddefnyddio yn 2019. Y tu hwnt i gyfarfod rhithiol, mae MS Teams yn cynorthwyo cydweithredu drwy sgyrsiau, rhannu ffeiliau, rheoli tasgau, cynllunio prosiectau, llunio rhestrau a mwy. Yn ddiweddar, bûm mewn cyfarfod MS Teams a oedd yn gwneud defnydd rhagorol o fyrddau gwyn rhithiol, nodwedd nad oeddwn yn ymwybodol ohoni tan hynny. Gall penderfynu pa nodwedd i’w defnyddio a phryd fod yn anodd felly bydd dysgu mwy am bob un yn eich helpu i wneud y penderfyniad hwnnw. 

Os hoffech chi ddysgu mwy am offer Microsoft 365 dyma’r pum prif gwrs LinkedIn Learning yr edrychwyd arnynt yn Aberystwyth yn ystod y 30 diwrnod diwethaf. I actifadu eich cyfrif LinkedIn Learning, sy’n rhad ac am ddim i holl staff a myfyrwyr PA, edrychwch ar ein tudalennau ‘cychwyn arni gyda LinkedIn Learning’.

  1. Microsoft Teams Essential Training (2h 21m)
  2. Learning Office 365 (57m)
  3. Microsoft Planner Essential Training (1h 27m) 
  4. Outlook Essential Training (2h 13m)
  5. Modern Project Management in Microsoft 365 (1h 39m)

Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2022 #TorrirGogwydd

Heddiw rydym yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched! Mae’r diwrnod hwn yn rhoi cyfle pwysig i ni ddathlu cyflawniadau diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol-economaidd menywod, ac mae’n alwad i weithredu o blaid cydraddoldeb rhwng y rhywiau, gan godi ymwybyddiaeth yn erbyn pob rhagfarn.

Y thema eleni yw #TorrirGogwydd, gan ganolbwyntio ar fynd i’r afael â rhwystrau systematig sy’n dal menywod yn ôl yn eu gyrfaoedd, ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd hyblygrwydd yn y gwaith.

Dyma ddetholiad o fideos a chyrsiau o LinkedIn Learning, sy’n cwmpasu rhagfarn a’i niwed, dod yn gynghreiriad, a gwrando ar leisiau menywod er mwyn creu gweithle cyfartal.

  1. Fighting Gender Bias At Work (14 munud)
  2. Unlocking Authentic Communication In A Culturally Diverse Workplace (49 munud)
  3. Leadership Strategies For Women (course) (1awr 6 munud)
  4. Becoming a male ally at work (41 munud)
  5. Women Transforming Tech: Breaking Bias (22 munud)
  6. Men as allies (2 munud 27 eiliad)
  7. Unconscious Bias (23 munud)

Rydym hefyd wedi creu ymgyrch ar LinkedIn Learning ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched, a gallwch gael mynediad iddo o’r prif ddangosfwrdd yn LinkedIn Learning.


Diwrnod Iechyd Meddwl Prifysgol: Adnoddau Lles Digidol

Mae’n #DdiwrnodIechydMeddwlPrifysgol heddiw! Diwrnod i ddod â chymuned y Brifysgol ynghyd i wneud iechyd meddwl yn flaenoriaeth i’r Brifysgol gyfan.

Elfen bwysig o Fframwaith Galluoedd Digidol Jisc yw Lles Digidol, terms sy’n disgrifio effaith technoleg a gwasanaethau digidol ar iechyd meddwl, ffisegol, cymdeithasol ac emosiynol unigolion.

Dyma rai clipiau fideo byr a chyrsiau yr ydym wedi’u rhoi at ei gilydd o LinkedIn Learning a all fod o gymorth i staff a myfyrwyr ar les digidol, iechyd meddwl a lles yn fwy cyffredinol.

  1. Supporting your mental health while working from home (17 munud)
  2. Wellbeing in the workplace (23 munud)
  3. What is mindfulness? (7 munud 8 eiliad)
  4. Sleep is your Superpower (34 munud)
  5. Balancing Work and Life (28 munud)
  6. De-stress meditation and movement for stress management (36 munud)
  7. How to set goals when everything feels like a priority (15 munud)
  8. How to manage feeling overwhelmed (43 munud)
  9. How to support your employees’ wellbeing (34 munud)
  10. Mindful Stress Management (36 munud)

Os oes angen cymorth arnoch chi, cofiwch fod yna ystod o wasanaethau sy’n gallu helpu.