14 Chwefror ’24: Cwrdd â staff addysgu newydd eraill a chydweithwyr o GG

Ym mis Medi 2023, fe wnaethom lansio Hanfodion Digidol ar gyfer addysgu GG, safle Blackboard Learn Ultra newydd sydd wedi’i gynllunio i gefnogi staff addysgu newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Darllenwch ein blogbost blaenorol am wybodaeth bellach.

Fel rhan o lansiad y safle, rydym wedi trenu cyfle i staff addysgu newydd ymuno â ni am baned ar Ddydd Mercher 14 Chwefror ’24 (2-3yh) yn E3, Hugh Owen. Bydd yn gyfle i staff addysgu newydd gwrdd â’i gilydd, yn ogystal â chwrdd â chydweithwyr o Wasanaethau Gwybodaeth. **Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma**

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad neu’r safle Blackboard, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk). 

Lansiad safle Blackboard newydd ‘Hanfodion Digidol ar gyfer addysgu GG’

Rydym yn falch o gyhoeddi lansiad Hanfodion Digidol ar gyfer addysgu GG, safle Blackboard Learn Ultra newydd sydd wedi’i gynllunio i gefnogi staff addysgu newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Mae’r safle hwn yn dwyn ynghyd yr holl gyngor a gwybodaeth ddefnyddiol o Wasanaethau Gwybodaeth y bydd ei hangen ar staff addysgu newydd, gan sicrhau eu bod yn cael eu paratoi’n ‘ddigidol’ ar gyfer addysgu. P’un ai yw hynny’n arweiniad ar ddefnyddio OneDrive i storio gwaith; sut i osod modiwl newydd yn Blackboard Learn Ultra; neu ddod o hyd i ganllawiau ar gipio darlithoedd.

Gyda rhestr wirio ddefnyddiol a mynediad awtomatig i bawb drwy Blackboard Learn Ultra, gobeithiwn y bydd y safle’n arbed amser gwerthfawr i staff, yn ogystal â bod yn adnodd defnyddiol i holl staff adrannol. 

Edrychwch ar y cyflwyniad i’r safle Blackboard i ddysgu sut mae cychwyn arni.

Ar Ddydd Mercher 11 Hydref (2-3yh), hoffem wahodd staff addysgu newydd i ymuno â ni am baned yn D54, Hugh Owen (cyfarwyddiadau ar sut i ddod o hyd i’r ystafell). Bydd yn gyfle i staff addysgu newydd gwrdd â’i gilydd, yn ogystal â chwrdd â chydweithwyr o Wasanaethau Gwybodaeth. Nid oes angen i chi archebu lle ar gyfer y digwyddiad.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech roi adborth am y safle, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).