6 Awgrym i gael Cyfarfodydd Ar-lein Llwyddiannus 💻

Blogbost gan Noel Czempik (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Banner with Student Digital Champion

Yn yr oes ddigidol sydd ohoni, mae cyfarfodydd ar-lein wedi dod yn rhan annatod o fywyd academaidd a phroffesiynol. P’un a ydych yn mynychu darlith rithiol, yn cydweithio ar brosiect grŵp, neu’n mynychu cyfweliad am swydd, mae gwybod sut i lywio cyfarfodydd ar-lein yn effeithiol yn hanfodol i lwyddo.

Yn y blogbost hwn rwyf am rannu rhai awgrymiadau i’ch helpu i lywio cyfarfodydd ar-lein, a gallwch chi hefyd edrych ar y dudalen hon i gael cwestiynau Cyffredin a chanllawiau hyfforddi ar ddefnyddio MS Teams.

1) Paratowch fel y byddech chi’n paratoi ar gyfer cyfarfod wyneb yn wyneb

Mae cyfarfodydd ar-lein yn darparu’r cyfleustra o beidio â gorfod gadael eich cartref. Daw hyn gyda’r demtasiwn o neidio allan o’r gwely 5 munud cyn dechrau’r cyfarfod. Er mwyn sicrhau eich bod yn rhoi’r cyfle gorau i’ch hun lwyddo:

  • Gwisgwch fel y byddech chi’n gwisgo ar gyfer cyfarfod wyneb yn wyneb
  • Rhowch ychydig o amser i’ch hun i baratoi’n feddyliol i osgoi teimlo eich bod yn rhuthro.
  • Manteisiwch ar y cyfle i fynd dros eich nodiadau, paratoi unrhyw gwestiynau neu gasglu unrhyw ffeiliau y mae angen i chi eu rhannu.

2) Cysylltwch yn gynnar

  • Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddatrys unrhyw broblemau technegol. Profwch eich meddalwedd, rhag ofn y bydd angen ei diweddaru, sy’n golygu y byddai angen i chi ailgychwyn yr ap neu’r ddyfais.
  • Gallwch ddefnyddio’r amser ychwanegol hwn i sicrhau eich bod yn gyfarwydd â’r holl nodweddion sydd ar gael yn MS Teams, megis y blwch sgwrsio, codi-eich-llaw, rhannu sgrin a nodweddion capsiynau byw.

3) Curadwch eich deunydd gweledol

Dyma’r prif awgrymiadau ar gyfer gwneud argraff gadarnhaol, broffesiynol:

  • Dewiswch liniadur dros ffôn neu lechen os yw’n bosibl. Gall hyn helpu gyda sefydlogrwydd delwedd, yn ogystal â chaniatáu i chi gymryd nodiadau yn haws. Os na allwch gael gafael ar liniadur, ystyriwch ddefnyddio stand ar gyfer eich dyfais.
  • Gosodwch eich camera ar lefel y llygad, gan y bydd hyn yn arwain at y ddelwedd fwyaf naturiol.
  • Edrychwch ar y camera yn hytrach na’r sgrin wrth siarad, yn enwedig mewn cyfarfodydd grŵp. Dyma’r peth agosaf i gyswllt llygaid ag y gallwch ei gael.
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych oleuadau da.
  • Dewiswch y cefndir iawn. Dilynwch y Cwestiwn Cyffredin hwn i gael cyfarwyddiadau ar sut i ychwanegu cefndir rhithiol.
Screenshot showing the various virtual background that can be added in MS Teams
Opsiynau ar gyfer cynnwys cefndir rhithiol yn MS Teams

4) Optimeiddiwch eich sain

  • Dewiswch ystafell â charped a dodrefn, os yw’n bosibl. Bydd hyn yn arwain at sain gynhesach, mwy naturiol heb effaith adlais.
  • Os yw’n bosibl, defnyddiwch glustffonau yn lle’r meicroffon adeiledig i helpu i wella ansawdd eich sain.
  • Diffoddwch eich meicroffon pan nad ydych chi’n siarad i atal unrhyw sŵn diangen.

5) Lleihewch ymyriadau

  • Dewiswch fannau preifat, tawel dros fannau cymunedol neu gyhoeddus.
  • Diffoddwch unrhyw negeseuon hysbysu a rhowch wybod i eraill nad ydych eisiau cael eich tarfu os oes angen.
  • Efallai y bydd adegau pan fydd angen i chi adael y cyfarfod (e.e. os bydd rhywun yn canu cloch y drws), os felly gadewch i’r bobl yn y cyfarfod wybod trwy adael neges fer yn y blwch sgwrsio.

6) Meddyliwch am beth yr ydych yn ei rannu

Os oes angen i chi rannu’ch sgrin yn ystod y cyfarfod, mae bob amser yn well rhannu ffenestr benodol yn hytrach na’ch sgrin gyfan, ond efallai y bydd adegau pan na ellir osgoi hyn. Yn yr achos hwn:

  • Caewch unrhyw dabiau amherthnasol.
  • Mudwch neu gaewch raglenni i osgoi hysbysiadau neu naidlenni eraill. Neu, trowch y modd ‘peidio â tharfu’ ymlaen.
  • Symudwch, ailenwch, neu ddilëwch unrhyw lyfrnodau neu ffeiliau sensitif
  • Ystyriwch ddileu eich cwcis a’ch hanes chwilio os yw’ch porwr yn dangos chwiliadau blaenorol neu’n defnyddio awto-lenwi.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*