Taro Cydbwysedd: Ymdopi ag Astudio ac Ymgeisio am Swyddi ⚖

Blogbost gan Joel Williams (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Banner with Student Digital Champion

I lawer o fyfyrwyr, gall y cydbwysedd rhwng astudio ar gyfer arholiadau, cwblhau gwaith cwrs, a chwilio am gyfleoedd cyflogaeth ymddangos yn amhosibl. Dw i wedi ei chael hi’n anodd rheoli fy astudiaethau i wrth geisio dod o hyd i swyddi perthnasol ac wedyn llenwi tudalen ar ôl tudalen o geisiadau. Cymerwch lwyfannau fel Gradcracker neu GyrfaoeddAber. Mae Gradcracker, a weles i yn gyntaf yn ystod yr Ŵyl Sgiliau Digidol, fel llawer o wefannau tebyg, yn cyfuno llawer o gyfleoedd cyflogaeth wedi’u teilwra’n unswydd i’m sgiliau i. Yn y blogbost yma, dwi’n gobeithio amlinellu rhai o’r dulliau ddefnyddies i i helpu i reoli fy astudiaethau wrth chwilio am swyddi, a chyfeirio hefyd at nifer o adnoddau sydd ar gael drwy’r Brifysgol.

Rheoli’ch amser ⏰

Un o’r prif heriau sy’n wynebu myfyrwyr sy’n chwilio am swydd yw rheoli amser. Gyda darlithoedd, seminarau ac aseiniadau yn mynnu eu sylw, gall neilltuo amser penodol i wneud cais am swydd fod yn her. A dweud y gwir, roedd yr amser sy’n angenrheidiol ym mhob cais am swydd yn ffordd wych o ohirio cyn gwneud fy nhraethawd hir, a helpodd fi i gwblhau llawer ohonyn nhw yn gyflym. Er hynny, wrth i’m trydedd flwyddyn barhau ac wrth i aseiniadau eraill ddechrau codi braw, dyma weld mai’r ffordd orau i gadw rheolaeth dros y cyfan oedd rhoi awr neu ddwy i mi fy hun bob wythnos pan fyddwn i’n canolbwyntio ar geisiadau am swyddi yn unig. Er mwyn cadw at y terfyn amser hunanosodedig, dwi’n arbed URL unrhyw swyddi mae gen i ddiddordeb ynddyn nhw. Os ydyn nhw ar Gradcracker, dwi’n gofalu eu bod nhw yn fy rhestr fer, sy’n golygu ei bod yn hawdd dod o hyd iddyn nhw a dangos faint o amser sydd gen i i wneud cais am y swydd.

Cymaint o ysgrifennu ✍

Un rhwystr arall mae myfyrwyr yn dod ar ei draws yw’r pwysau i sefyll allan mewn marchnad swyddi hynod gystadleuol. Mae llunio CV perswadiol, ysgrifennu llythyrau eglurhaol pwrpasol, a pharatoi ar gyfer cyfweliadau i gyd yn elfennau hanfodol o’r broses o ymgeisio am swydd. Ond, mae cydbwyso cyflawniad academaidd a phrofiad gwaith perthnasol yn gallu cymryd amser ac ymdrech, yn enwedig i’r rhai sy’n jyglo nifer o ymrwymiadau yr un pryd. Yr adnodd mwyaf defnyddiol a weles i wrth geisio diweddaru fy CV oedd defnyddio’r sesiynau galw heibio sy’n cael eu cynnig yn ddyddiol gan y gwasanaeth gyrfaoedd. Roedd cael pâr arall o lygaid i edrych dros bopeth yn amhrisiadwy.

Un o’r adrannau yn fy CV dwi bob amser wedi cael trafferth ei llenwi yw’r adran sgiliau, a hynny yn rhannol am y gall fod yn anodd gwybod pa un yw’r pwysicaf i’w restru a hefyd am y gall fod yn anodd yn aml i lunio rhestr o sgiliau yn y fan a’r lle. Er mwyn helpu i lenwi’r adrannau hyn, fe ddefnyddies i gyfuniad o wybodaeth am fodiwlau a Offeryn Darganfod Digidol Jisc, a ddefnyddies i i adnabod fy hyfedredd â thechnoleg.

Esiampl o adroddiad o Offeryn Darganfod Digidol Jisc

Gloywi’ch Presenoldeb Digidol 👣

Un o’r camau cyntaf gymeres i yn gynnar yn y broses o ymgeisio am swyddi oedd diweddaru a sgleinio fy mhroffil ar LinkedIn. Ar ôl cael fy sbarduno gan sesiwn ‘How to use LinkedIn‘ yn ystod yr Ŵyl Sgiliau Digidol, adolyges i lawer o’m proffil blaenorol a chreu rhywbeth y gallaf ei ddefnyddio ar gyfer ceisiadau am swyddi erbyn hyn.

Mae gwirio’ch ôl troed digidol yn elfen sy’n aml yn cael ei hanwybyddu wrth wneud cais am swyddi mewn oes ddigidol. Mae fy nghyd-Bencampwr Digidol Noel wedi ysgrifennu blogbost defnyddiol yn edrych ar y camau y gallwch eu cymryd i ddiogelu’ch ôl troed digidol a sicrhau bod y cyhoedd a chyflogwyr yn gallu gweld yr hyn rydych chi am iddyn nhw ei weld a dim byd arall. Mae’r Tîm Sgiliau Digidol hefyd wedi curadu casgliad LinkedIn Learning ar reoli eich hunaniaeth ddigidol.

Y Gwasanaeth Gyrfaoedd 💬

Os ydych chi’n chwilio am gyngor mwy penodol, y gwasanaeth gyrfaoedd yw’r bobl orau i siarad â nhw ac mae manylion am y ffordd orau o ddefnyddio’r gwasanaeth ar eu tudalennau gwe, ac mae’r cymorth yn agored i fyfyrwyr presennol ac ôl-raddedigion.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*