Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Graddedigion – Wythnos 7 (Jay Cowen)

Mae proffil wythnos hon gan Jay, sydd wedi bod yn ymwneud â gwaith cadwraeth ymarferol gyda’r RSPB ers graddio o Aberystwyth. Maent yn dymuno y byddent wedi buddsoddi mwy o amser yn gwella eu gallu i ddefnyddio meddalwedd dadansoddi ystadegol, ac yn dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd GIS yn ystod eu hamser yn Aberystwyth. Mae llawer o gyrsiau ar gael o LinkedIn Learning os oes gennych ddiddordeb hefyd mewn datblygu’r sgiliau penodol hyn.

Dadansoddi ystadegol:

GIS (Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol):

Testun yn unig:

Pryd wnaethoch chi raddio o Brifysgol Aberystwyth? 2022

Beth fuoch chi’n ei astudio? – Swoleg

Beth ydych chi’n ei wneud yn broffesiynol ers graddio? “Yn y 6 mis diwethaf rwyf wedi cael swydd wirfoddol mewn gwarchodfa RSPB yn yr Alban ond dwi newydd gael swydd am dâl am 3 mis yn arolygu adar môr ar Ynysoedd Sili gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol”.

Pa sgiliau digidol ydych chi’n eu defnyddio yn eich swydd? –

Llythrennedd data a gwybodaeth – “Dwi wedi gwneud llawer o fewnbynnu data a gweithio gydag Excel a hefyd teipio nodiadau ysgrifenedig ar daenlenni. Hefyd ysgrifennu adroddiadau gyda rhywfaint o ddadansoddi ystadegau ond mae hyn wedi’i wneud yn bennaf gydag Excel hefyd”.

Dysgu digidol – “Gan fy mod i’n gweithio yn yr RSPB dwi wedi gorfod defnyddio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) a doeddwn i ddim wedi defnyddio’r rheiny tan oeddwn i yn yr RSPB gan nad oedden nhw’n rhan o fy nghwrs i”.

Oes unrhyw sgiliau digidol yr hoffech fod wedi’u dysgu cyn ichi raddio?

“Byddai wedi bod yn ddefnyddiol dysgu GIS a hefyd efallai rhai sgiliau creu mapiau ar lefel ragarweiniol ac efallai cael cyrsiau ar lefelau gwahanol felly ar gyfer dechreuwyr, canolradd ac uwch er enghraifft. Byddai diddordeb gen i hefyd mewn defnyddio meddalwedd dadansoddi delweddau achos byddai hynny wedi bod yn dda ar gyfer fy nhraethawd hir ond hefyd gwaith felly er enghraifft fe allwn i uwchlwytho delwedd o gwmwl o ddrudwy a byddai’n awtomatig yn cyfrif faint o adar sydd yna”.

Oes unrhyw wendidau cyffredin mewn sgiliau digidol y byddwch chi’n sylwi arnyn nhw ymysg eich cydweithwyr?

“Oes, ystadegau. Roedd hi fel petai nad oedd e’n clicio i rai pobl a bod dim mwy o gefnogaeth ar gael – roedd hi fel petai angen ichi ailadrodd y drefn. Roedd yr adnoddau i gyd yna ichi ddysgu, sy’n beth da”.

Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Graddedigion – Wythnos 6 (Gabriela Arciszewsk)

Yr wythnos hon mae gennym broffil Gabriela sydd wedi bod yn astudio am radd Meistr mewn Biocemeg ers ei chyfnod yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Darllenwch am sut mae hi wedi defnyddio ei mynediad am ddim i LinkedIn Learning i ddatblygu ei sgiliau mewn R (iaith raglennu) ac i ddatblygu ei sgiliau ffotograffiaeth, un o’i hobïau.

Ewch i’r dudalen we hon i ddysgu mwy am LinkedIn Learning a sut y gallwch chi hefyd actifadu eich cyfrif am ddim.

Read More

Dysgwch yn eich dewis iaith gyda LinkedIn Learning 🔊

Blogbost gan Sioned Llywelyn (Arweinydd Sgiliau Digidol)

Mae LinkedIn Learning yn cynnig llyfrgell helaeth o gyrsiau a fideos ar-lein, ac maent ar gael yn rhad ac am ddim i holl fyfyrwyr a staff y Brifysgol (dysgwch sut i gychwyn arni). Ond, oeddech chi’n gwybod bod modd gwylio cyrsiau LinkedIn Learning mewn amrywiaeth o ieithoedd – nid dim ond yn Saesneg?

Yn anffodus, nid yw Cymraeg ar rhestr eto (rydyn ni’n croesi’n bysedd! 🤞), ond mae’r rhan fwyaf o’r cyrsiau ar gael yn yr 13 iaith isod, a allai hwyluso pethau i’r rhai nad Saesneg yw eu mamiaith.

  1. Saesneg
  2. Tsieinëeg wedi’i symleiddio
  3. Ffrangeg
  4. Almaeneg
  5. Siapaneg
  6. Portiwgaleg
  7. Sbaeneg
  8. Iseldireg
  9. Eidaleg
  10. Tyrceg
  11. Pwyleg
  12. Corëeg
  13. Bahasa Indonesia

Sut ydw i’n chwilio am gynnwys yn fy newis iaith?

Gwyliwch y fideo isod neu dilynwch y camau syml hyn i ddysgu sut i chwilio am gynnwys LinkedIn Learning yn eich dewis iaith:

  1. Dechreuwch drwy chwilio am gwrs – gallwch naill ai bori trwy’r gwahanol gategorïau neu deipio yn y bar chwilio
  2. Dewiswch eich iaith o’r hidlydd iaith
  3. Os nad yw’r hidlydd iaith yn ymddangos, dewiswch Pob Hidlydd/All Filters

Rhagor o gymorth wrth ddefnyddio LinkedIn Learning

Os oes arnoch angen unrhyw gymorth wrth ddefnyddio LinkedIn Learning, e-bostiwch y Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk), neu mae croeso i chi ddod i un o’n sesiynau galw heibio wythnosol yn yr Hwb Sgiliau, Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen.

TipDigidol 26: Llwybr Byr i dynnu sgrinlun yn gyflym a hawdd 📸

Ydych chi erioed wedi bod angen tynnu sgrinlun o sgrin eich cyfrifiadur? Efallai eich bod angen ychwanegu tudalen at eich nodiadau adolygu. Mae yna nifer o offer ar gael ond gyda TipDigidol 26 rydyn ni’n dangos llwybr byr i chi gymryd sgrinlun yn gyflym.  

Gallwch dynnu sgrinlun o’ch sgrin trwy ddefnyddio’r llwybr byr “bysell Windows + Shift + S”. Yna gallwch naill ai agor y sgrinlun mewn golygydd neu gopïo’r ddelwedd i mewn i ddogfen, PowerPoint, OneNote a mwy! 

Gwyliwch y fideo isod am arddangosiad cyflym.  

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

Rhowch flaenoriaeth i’ch lles digidol ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl Prifysgolion

Blogbost gan Sioned Llywelyn (Arweinydd Sgiliau Digidol)

Yn yr oes sydd ohoni, mae’r rhan fwyaf ohonom yn dibynnu’n helaeth ar dechnoleg. Er bod y byd digidol yn cynnig posibiliadau ac adnoddau diddiwedd, mae’n hanfodol parhau i gofio ei effeithiau posibl ar ein lles digidol. A hithau’n Ddiwrnod Iechyd Meddwl Prifysgolion dyma gyfle perffaith i rannu detholiad o awgrymiadau ac adnoddau i’ch helpu i gael perthynas iachach â thechnoleg.

Hoffem glywed oddi wrthych! Pa strategaethau neu adnoddau sydd fwyaf defnyddiol i chi wrth gynnal perthynas iach â thechnoleg?

Read More

TipDigidol 25 – Defnyddio Rheolwr Tasgau 🖥️

Beth yw Rheolwr Tasgau ar gyfer cyfrifiaduron? Pam mae’n bwysig?

Gall Rheolwr Tasgau (a elwir hefyd yn Fonitor Gweithgaredd ar gyfer systemau macOS) ddangos i chi pa raglenni a chymwysiadau sy’n rhedeg ar eich cyfrifiadur ar y pryd.

Os yw’ch cyfrifiadur yn llusgo o ran cyflymder neu berfformiad cyffredinol, neu efallai fod angen datrys rhywfaint o broblemau ar raglen, gallwch ddefnyddio’r Rheolwr Tasgau i adolygu’r hyn sy’n digwydd yn y cefndir a hyd yn oed atal ap nad yw wedi bod yn ymateb, heb orfod ailgychwyn eich cyfrifiadur!

Ar gyfer systemau gweithredu Windows, gallwch ddilyn y llwybr byr hwn i gael mynediad at Reolwr Tasgau Windows:

  • Ctrl + Shift + Esc

Ar gyfer systemau gweithredu macOS, gallwch ddilyn y llwybr byr hwn i gael mynediad at y rhaglen Monitor Gweithgaredd:

  • CMD + ALT + ESC

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2024 #YsbrydoliCynhwysiant

Heddiw, rydym yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched! Y thema eleni yw #YsbrydoliCynhwysiant, ac mae’n rhoi cyfle pwysig i ni ddathlu cyflawniadau diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol-economaidd menywod, ac mae’n ddiwrnod i’n hannog ni i weithio gyda’n gilydd tuag at ddyfodol mwy cynhwysol a chyfiawn.

Dyma ddetholiad o fideos a chyrsiau LinkedIn Learning, sydd wedi’u hysbrydoli gan Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched. Gallwch gael mynediad i’r holl gynnwys am ddim gyda’ch cyfrif LinkedIn Learning Prifysgol Aberystwyth.

  1. What is inclusion? (2m)
  2. Gender equity for women (6m)
  3. Women transforming tech: Breaking bias (22m)
  4. Becoming a male ally at work (39m)
  5. Nano Tips for Identifying and Overcoming Unconscious Bias in the Workplace (6m)
  6. Men as allies (3m)
  7. Fighting gender bias at work (14m)
  8. Inclusive female leadership (40m)

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i gael mynediad at neu ddefnyddio LinkedIn Learning, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).

Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Graddedigion – Wythnos 5 (Weronika Krzepicka-Kaszuba)

Proffil myfyriwr graddedig cyntaf Semester 2 yw proffil Weronika, sydd â phrofiad helaeth o ddefnyddio meddalwedd golygu lluniau a fideo, ond mae’n dymuno iddi fod wedi dysgu mwy am gysylltu â gweithwyr proffesiynol eraill ar wefannau rhwydweithio fel LinkedIn cyn iddi adael Prifysgol Aberystwyth. Os oes gennych ddiddordeb hefyd mewn dysgu sut i ddefnyddio LinkedIn, edrychwch ar y sesiwn LinkedIn gyda Gwasanaeth Gyrfaoedd PA yn ein Gŵyl Sgiliau Digidol ddiweddar.

Read More

TipDigidol 24: Gwneud defnyddio Excel yn haws drwy rewi colofnau a rhesi 📊

Ydych chi erioed wedi gweithio ar ddogfen Excel fawr ac wedi sgrolio i lawr i ddod o hyd i ffigur, ond wedyn wedi gorfod sgrolio’n ôl i fyny i’r brig eto i’ch atgoffa’ch hun beth oedd pennawd y golofn honno?!

Mae nodwedd hynod o ddefnyddiol yn Excel a all eich helpu gyda hyn, sy’n galluogi i chi rewi un neu fwy o resi a cholofnau. Gallwch ddefnyddio’r nodwedd yn Excel drwy glicio ar Gweld > Rhewi’r Cwareli.


Gwyliwch y fideo isod i ddysgu sut mae rhewi colofnau a rhesi:

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

A oes bywyd ar ôl cyfryngau cymdeithasol? – Fy mis o wneud detocs digidol 📵

Blogbost gan Noel Czempik (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Ydych chi erioed wedi teimlo bod eich ffôn yn eich rheoli chi mwy nag yr ydych chi’n rheoli eich ffôn? Dyna’n union yr oeddwn i’n ei deimlo, nes i mi gyrraedd croesffordd y llynedd. Yn rhwystredig oherwydd yr ymdrechion aflwyddiannus i leihau fy amser ar sgrin a’r teimlad o fod yn sownd mewn byd digidol, cychwynnais ar daith ddadwenwyno digidol trwy gydol mis Rhagfyr – gallwch ddarllen amdani yma.

Yn y blogbost hwn, byddaf yn rhannu fy mhrofiad, yr uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau, a’r gwersi a ddysgais o adennill rheolaeth dros fy arferion digidol.

👍 Newidiadau cadarnhaol o’m detocs

  1. Llai, nid mwy, o unigrwydd. Wnes i erioed sylweddoli faint yr oedd cyfryngau cymdeithasol yn draenio fy matri cymdeithasol. Ar ôl peth amser hebddo, roeddwn i’n ei chael hi’n haws mynd allan a rhyngweithio â phobl, ac yn sicr ni wnes i golli’r ofn fy mod yn colli allan.
  2. Gwell ymwybyddiaeth emosiynol. Roeddwn i’n meddwl bod defnyddio fy ffôn yn helpu i reoleiddio fy emosiynau, ond dim ond tynnu sylw ydoedd. Ar ôl addasiad annymunol, gallwn gydnabod a phrosesu fy nheimladau’n fwy iach.
  3. Trefn bore newydd. Roeddwn i’n meddwl nad oedd gen i un, ond fy nhrefn boreol oedd defnyddio fy ffôn. Ar ôl i mi stopio, roeddwn i’n ei chael hi’n haws gwneud pethau eraill, megis ysgrifennu yn fy nyddiadur gyda phaned o de.
  4. Cynhyrchiant a chreadigrwydd diymdrech. Gallwn wneud llawer yn yr eiliadau bach hynny pan fyddwn fel arfer yn codi fy ffôn. Roedd fy meddwl yn glir hefyd i feddwl am fy natrysiadau fy hun yn hytrach na chwilio amdanynt ar-lein.
  5. Gorffwys gwell. Roedd ansawdd fy nghwsg yn gwella, ac roedd seibiannau bach yn ystod y dydd yn fwy hamddenol.
  6. Byw i’r funud. Roedd hi’n haws mwynhau’r cyfnodau bach bob dydd ac roedd amser fel petai’n arafu.

👎 Rhai o’r anfanteision a’r heriau a brofais

  1. Ymfudodd fy arferion digidol i apiau eraill. Am gyfnod, roeddwn i’n ei chael hi’n anodd peidio â disodli’r cyfryngau cymdeithasol gyda YouTube neu hyd yn oed sgrolio trwy fy lluniau neu negeseuon. Roedd ap ScreenZen yn ddefnyddiol iawn – Darllenwch fy adolygiad o’r ap yma.
  2. Y cyfnod addasu. Am beth amser, roeddwn i’n teimlo’n anniddig ac yn ddiflas ac yn crefu i gael defnyddio fy ffôn trwy’r amser. Roedd angen i mi ail-ddysgu sut i dreulio fy amser a bod yn amyneddgar.
  3. Yr anghyfleustra. Roeddwn i’n synnu faint oedd angen i mi ddefnyddio fy ffôn i wirio’r amser, gosod y larwm neu’r amserydd, defnyddio dilysu aml-ffactor, neu dalu am bethau.
  4. Colli allan. Mae llawer o ddigwyddiadau, megis gigs lleol neu ddigwyddiadau clybiau a chymdeithasau, yn cael eu hysbysebu ar-lein yn unig. Roeddwn i’n cael gwybod am lawer o gyfleoedd ar ôl iddynt ddigwydd, a hyd yn oed wrth chwilio’n rhagweithiol, roedd y rhan fwyaf o ganlyniadau chwilio yn mynd â mi i wefannau cyfryngau cymdeithasol, a oedd yn aml yn golygu mewngofnodi i gael mynediad at y cynnwys llawn.

Fy nghyngor i’r rhai sydd â diddordeb mewn gwneud detocs digidol

  1. Nid oes rhaid iddo fod yn berffaith. Hyd yn oed os oes angen i chi ddefnyddio dyfeisiau ar gyfer gwaith / astudio neu os ydych yn baglu o ran eich ymrwymiadau, mae’n dal yn bosibl – gallwch chi elwa yn fawr o’r profiad o hyd.
  2. Addasu wrth i chi fynd. Efallai y bydd angen i chi addasu eich disgwyliadau os nad yw pethau’n mynd yn union fel y cynlluniwyd, nid methiant yw hyn. Dathlwch lwyddiannau bach a dod o hyd i’r hyn sy’n teimlo’n dda i’ch helpu i adeiladu arferion cynaliadwy.
  3. Nid yw’n ddedwyddwch llwyr, ond nid yw’n ddiflastod llwyr chwaith. Bydd adegau pan fyddwch chi eisiau rhoi’r gorau iddi ac adegau pan na fyddwch chi’n difaru dim. Bydd eich profiad a phopeth rydych chi’n ei ddysgu amdanoch chi’ch hun yn unigryw, ac efallai taw hyn yw’r peth mwyaf gwerthfawr.