Cyflwyno’r Llyfrgell Sgiliau Digidol! 💻🔎

Yellow and Blue banner with laptop, AU logo, and the text Digital Skills Library

Rydym wedi bod yn gweithio ar ddod â chasgliad o adnoddau PA ac allanol at ei gilydd i helpu myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i ddatblygu ystod o sgiliau digidol newydd a presennol. Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys eich addysgu am eich ôl troed digidol; a’ch helpu i wella’ch lles a’ch hunaniaeth ddigidol trwy ddarparu adnoddau i helpu gyda straen arholiadau a gwybodaeth am ‘gwe-gwrteisi’ (ymddygiad ar-lein).  

Ond yn ogystal â hyn, mae gan ein Llyfrgell Sgiliau Digidol adnoddau i helpu gyda’ch addysg a’ch datblygiad digidol. Mae gennym ni adnoddau ar gyfer defnyddio meddalwedd penodol, er enghraifft sut i godio gyda Python, yn ogystal â defnyddio meddalwedd dylunio graffeg a golygu delweddau fel Adobe Photoshop a Canva.

Rydym hefyd wedi cadw mewn cof y gallech chi fod eisiau gwella rhai o’ch sgiliau digidol presennol ac felly rydym wedi cynnwys adnoddau i’ch helpu i ddysgu syniadau a thriciau newydd mewn meddalwedd cyfarwydd fel Microsoft Excel, PowerPoint, Teams, a llawer mwy!  

Ewch i ymweld â’r Llyfrgell Sgiliau Digidol myfyrwyr heddiw a gallech hefyd ymweld â’n stondin ar Lefel D (llawr gwaelod) Llyfrgell Hugh Owen yr wythnos hon er mwyn dysgu mwy.

Bydd y Llyfrgell Sgiliau Digidol ar gyfer staff yn cael ei lansio ym mis Mehefin 2023. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu broblemau yn defnyddio’r Llyfrgell Sgiliau Digidol, e-bostiwch digi@aber.ac.uk.  

Aelod Tîm Newydd!

Helo bawb, fy enw i yw Shân Saunders, a fi yw’r cydlynydd datblygu sgiliau a galluoedd digidol newydd. Cwblheais fy ngradd israddedig ac MPhil yn Aberystwyth ac ers graddio yn 2022 rwyf wedi bod eisiau gweithio ym maes barn a boddhad myfyrwyr. Rydw i hefyd wedi bod yn aelod o dîm Dy Lais ar Waith ers mis Medi 2021. Rwyf wedi bod yn gweithio gyda’r tîm sgiliau digidol ers mis Awst 2022 a hyd yma rwyf wedi gweithio ar Adnodd Darganfod Digidol JISC a’r Llyfrgell Sgiliau Digidol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio ar yr Å´yl Sgiliau Digidol ym mis Tachwedd 2023 a thrafod yn gyffredinol yr hyn rydym yn ei gynnig i fyfyrwyr a sut y gallwn wella’r modd yr ydym yn cyflwyno ein hadnoddau. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at y cyfle i gynnal mwy o grwpiau ffocws a hyfforddiant gyda myfyrwyr a staff sy’n ymwneud â sgiliau ac adnoddau digidol.

Hyfforddiant i Staff: Galluoedd Digidol

Cychwyn arni gyda’ch galluoedd digidol!

Rydym ni’n cynnig hyfforddiant i staff gydag Offeryn Darganfod Digidol Jisc i helpu i wella eich sgiliau a’ch galluoedd digidol. Byddwn yn rhoi trosolwg o alluoedd digidol, gan weithio drwy hunan-asesiad yr Offeryn Darganfod Digidol a thrafod pa adnoddau sydd ar gael i chi yn ogystal â pha mor bwysig yw galluoedd digidol ar gyfer staff Prifysgol Aberystwyth.

Bydd sesiynau ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar y dyddiadau canlynol:

  • 12 Hydref 2022 (14:00 – 14:45): Getting started with your digital capailities.
  • 18 Hydref 2022 (10:00 – 10:45): Cychwyn arni gyda’ch galluoedd digidol.
  • 20 Hydref 2022 (15:00 – 15:45): Getting started with your digital capabilities.

Gallwch dderbyn rhagor o wybodaeth a sicrhau eich lle drwy’r Wefan Hyfforddi Staff ac ar gyfer unrhyw ymholiad, cysylltwch â Tîm Galluoedd Digidol (digi@aber.ac.uk).

Hyfforddiant i Staff Academaidd: Defnyddio LinkedIn Learning i Gefnogi eich Addysgu

Mae LinkedIn Learning yn llwyfan dysgu ar-lein sydd â llyfrgell ddigidol helaeth o gyrsiau a fideos byr dan arweiniad arbenigwyr. Byddwn yn cynnal sesiynau hyfforddi yn ystod mis Hydref 2022 a Ionawr 2023 ar gyfer staff academaidd sydd â diddordeb mewn defnyddio LinkedIn Learning i gefnogi eu haddysgu.

Bydd sesiynau ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar y dyddiadau canlynol:

  • 11 Hydref 2022 (11:00-12:00): Defnyddio LinkedIn Learning i Gefnogi eich Addysgu
  • 13 Hydref 2022 (14:00-15:00): Using LinkedIn Learning to Support your Teaching
  • 17 Ionawr 2023 (12:00-13:00): Using LinkedIn Learning to Support your Teaching
  • 18 Ionawr 2023 (14:00-15:00): Defnyddio LinkedIn Learning i Gefnogi eich Addysgu

Gallwch dderbyn rhagor o wybodaeth a sicrhau eich lle drwy’r Wefan Hyfforddi Staff ac ar gyfer unrhyw ymholiad, cysylltwch â Sioned Llywelyn, Swyddog Galluoedd Digidol (digi@aber.ac.uk).