Mewn munud: Gosod terfyn amser sgrin! ⏳

Blogbost gan Shân Saunders (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)

P’un a ydych chi’n ceisio gweithio a bod y ffôn yn mynd â’ch sylw o hyd neu’ch bod yn edrych ar eich ffôn cyn mynd i’r gwely ac na allwch ei roi i lawr, gall defnyddio’r nodwedd amser sgrin sydd ar gael ar ffonau iPhone fod o fudd i chi. Gallwch ei chyrchu drwy ‘settings’ ac yna ‘screen time’ ac mae yna nifer o nodweddion i’ch helpu i reoli’ch defnydd o apiau yn ogystal â chyfyngu ar gyfathrebu.  

  1. Amser segur

Pan fydd wedi’i ysgogi, os yw’ch ffôn mewn amser segur mae hyn yn golygu mai dim ond apiau rydych chi wedi dewis eu caniatáu a galwadau ffôn fydd ar gael. Gallwch droi amser segur ymlaen ar unrhyw adeg neu gallwch drefnu iddo ddigwydd yn awtomatig ar ddiwrnodau penodol ar adegau penodol.

  1. Terfynau Apiau 

Gallwch gyfyngu ar y defnydd o apiau penodol ond hefyd gategorïau’r apiau. Er enghraifft, gallwch alluogi bod gan bob ap cymdeithasol – gan gynnwys Instagram, Facebook, Snapchat ac ati – derfyn defnydd penodol ar ddiwrnodau penodol. Mae hon yn nodwedd addasadwy, a gallwch dynnu rhai apiau o’r categori os nad ydych chi eisiau terfyn ar yr ap penodol hwnnw megis os ydych chi am gyfyngu ar apiau cyfryngau cymdeithasol ond nid WhatsApp. 

  1. Caniatáu bob amser 

Trwy’r nodwedd hon gallwch addasu pa apiau y caniateir eu defnyddio bob amser hyd yn oed os yw’ch ffôn mewn amser segur. Mae hyn yn cynnwys gallu personoli pwy all gyfathrebu â chi dros y ffôn, facetime a neges destun. 

  1. Pellter sgrin

A hithau’n nodwedd y gallwch ddewis ei galluogi, gall pellter sgrin helpu i fesur pellter y ffôn o’ch wyneb a bydd yn anfon rhybudd atoch os yw’ch ffôn yn rhy agos. Mae hyn er mwyn helpu i leihau straen llygaid.

Os ydych chi’n chwilio am fwy o awgrymiadau a thriciau wrth leihau eich defnydd digidol, edrychwch ar ganlyniadau dadwenwyno digidol hyrwyddwyr digidol y myfyrwyr! Sylwer, cyfarwyddiadau ar gyfer Apple yn unig yw’r rhain ac yn anffodus nid yw’r swyddogaeth hon ar gael i ddefnyddwyr Android. Os ydych yn defnyddio teclynnau Android, edrychwch ar argymhelliad ein Pencampwr Digidol Myfyrwyr o ScreenZen.

Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2024 #YsbrydoliCynhwysiant

Heddiw, rydym yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched! Y thema eleni yw #YsbrydoliCynhwysiant, ac mae’n rhoi cyfle pwysig i ni ddathlu cyflawniadau diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol-economaidd menywod, ac mae’n ddiwrnod i’n hannog ni i weithio gyda’n gilydd tuag at ddyfodol mwy cynhwysol a chyfiawn.

Dyma ddetholiad o fideos a chyrsiau LinkedIn Learning, sydd wedi’u hysbrydoli gan Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched. Gallwch gael mynediad i’r holl gynnwys am ddim gyda’ch cyfrif LinkedIn Learning Prifysgol Aberystwyth.

  1. What is inclusion? (2m)
  2. Gender equity for women (6m)
  3. Women transforming tech: Breaking bias (22m)
  4. Becoming a male ally at work (39m)
  5. Nano Tips for Identifying and Overcoming Unconscious Bias in the Workplace (6m)
  6. Men as allies (3m)
  7. Fighting gender bias at work (14m)
  8. Inclusive female leadership (40m)

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i gael mynediad at neu ddefnyddio LinkedIn Learning, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).

Strategaethau ar gyfer creu’r gweithle gorau

Blogbost gan Joel Williams (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Gall yr amgylchedd sydd o’ch cwmpas wrth weithio effeithio’n sylweddol ar ba mor effeithlon yr ydych yn gweithio ac ansawdd eich gwaith. Gall amgylchedd gwaith da hefyd leihau straen; gallwch ddarllen mwy am hyn yma.

Fodd bynnag, gall fod yn heriol argymell amgylchedd gwaith da gan fod hyn yn oddrychol ac yn amrywio o unigolyn i unigolyn. Yn y blogbost hwn, rwy’n ceisio darparu rhai awgrymiadau ac offer a fydd yn eich galluogi i ddod o hyd i’r amgylchedd gwaith gorau.

Lleoliad, Lleoliad, Lleoliad 📍

Dod o hyd i’r lleoliad gorau i gwblhau eich gwaith yn aml yw’r rhwystr cyntaf; gallai’r gofod hwn fod yn ddesg yn eich ystafell neu fwrdd yn y gegin; neu gallech ddefnyddio un o’r mannau niferus ar y campws, fel Llyfrgell Hugh Owen neu Canolfan y Celfyddydau. Neu mae’n bosib bod yn well gyda chi weithio i ffwrdd o’r campws ar rai adegau fel yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru neu mewn caffi. Mae hefyd yn werth ystyried lefel sŵn y lleoliad o’ch dewis, er enghraifft, bydd amgylchedd gwaith yn y Neuadd Fwyd yn dra gwahanol i lefel F yn Llyfrgell Hugh Owen.

Rwyf bob amser wedi ffafrio amgylchedd gwaith tawelach, ac rwyf bob amser wedi cael trafferth gweithio gartref. Felly, Llyfrgell Hugh Owen fu fy newis erioed; fodd bynnag, rwy’n aml yn gweld bod gwahanol ystafelloedd yn gweddu i’m hanghenion yn well ar ddiwrnodau gwahanol. Er y gall offer benderfynu’n aml pa ofod rwy’n ei ddefnyddio, mae’r sŵn bron bob amser yn dylanwadu ar fy mhenderfyniad.

Manteisio i’r eithaf ar Lyfrgell Hugh Owen 📚

Mae’r map rhyngweithiol hwn o Lyfrgell Hugh Owen yn gwneud dewis lle i weithio’n llawer haws ac mae’n sicrhau nad ydych yn mynd ar goll gan fod nifer fawr o lefydd gwahanol i chi weithio ar draws tri llawr y llyfrgell. Mae rhai lleoedd, megis ystafell Iris de Freitas ar Lefel E, yn ofod gwych ar gyfer gwaith grŵp, ond gall lefel y sŵn godi’n weddol uchel yno, yn enwedig pan fydd yn brysur. Os ydych chi’n edrych am ofod tawelach i weithio ynddo yna mae’n bosib y bydd Lefel F yn well i chi, neu os ydych chi eisiau gofod mwy preifat ar gyfer gwaith unigol neu waith grŵp, mae gan y Llyfrgell ystafelloedd y gellir eu llogi; gallwch archebu rhain a gweld eu hargaeledd ar-lein.

Pŵer sain 🎧

Gall cerddoriaeth a sain fod yn offer pwerus sydd ar gael i chi i’ch helpu wrth weithio os cânt eu defnyddio’n gywir. Yn bersonol, rwyf bob amser wedi gweld fy mod yn gweithio orau wrth wrando ar gerddoriaeth gan ddefnyddio gwasanaethau megis Spotify. Fodd bynnag, awgrymodd aelodau’r Tîm Sgiliau Digidol gymwysiadau sŵn gwyn megis Noisli, y gellir ei ddefnyddio i chwarae patrymau tywydd ac mae hyd yn oed yn cynnig rhestr chwarae a nifer o ddewisiadau addasu.

Mae llyfrau sain hefyd yn opsiwn poblogaidd a gellir eu cyrchu gan ddefnyddio gwasanaethau megis Libby neu Audible. Mae’r rhain yn arbennig o ddefnyddiol wrth gwblhau tasgau mwy cyffredin, yn enwedig y rhai sy’n cynnwys llawer o ailadrodd.

Aelod Tîm Newydd!

Helo bawb, fy enw i yw Shân Saunders, a fi yw’r cydlynydd datblygu sgiliau a galluoedd digidol newydd. Cwblheais fy ngradd israddedig ac MPhil yn Aberystwyth ac ers graddio yn 2022 rwyf wedi bod eisiau gweithio ym maes barn a boddhad myfyrwyr. Rydw i hefyd wedi bod yn aelod o dîm Dy Lais ar Waith ers mis Medi 2021. Rwyf wedi bod yn gweithio gyda’r tîm sgiliau digidol ers mis Awst 2022 a hyd yma rwyf wedi gweithio ar Adnodd Darganfod Digidol JISC a’r Llyfrgell Sgiliau Digidol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio ar yr Ŵyl Sgiliau Digidol ym mis Tachwedd 2023 a thrafod yn gyffredinol yr hyn rydym yn ei gynnig i fyfyrwyr a sut y gallwn wella’r modd yr ydym yn cyflwyno ein hadnoddau. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at y cyfle i gynnal mwy o grwpiau ffocws a hyfforddiant gyda myfyrwyr a staff sy’n ymwneud â sgiliau ac adnoddau digidol.