Datblygwch eich sgiliau DA yn ymarferol yn LinkedIn Learning 👩‍💻

Nôl ym mis Hydref 2023, fe wnaethom ni ysgrifennu am bartneriaeth gyffrous newydd rhwng LinkedIn Learning a CoderPad, a gyflwynodd ychwanegiad Heriau Cod i LinkedIn Learning.  Mae’r heriau hyn wedi’u teilwra i gynorthwyo dysgwyr, o ddechreuwyr i ddysgwyr uwch, i ddatblygu eu sgiliau codio drwy ymarferion rhyngweithiol ac adborth amser real. Gallwch ailymweld â’n blogbost blaenorol yma i ddysgu mwy.

Mae DA (Deallusrwydd Artiffisial) a DA Cynhyrchiol yn prysur ddod yn gonglfeini arloesedd. I gefnogi eich datblygiad yn y sgiliau hyn, mae LinkedIn Learning wedi ehangu eu casgliad i gynnwys 73 o gyrsiau ymarferol ar gyfer sgiliau DA a DA Cynhyrchiol. Mae’r cyrsiau hyn i gyda ar gael ar y dudalen we hon neu edrychwch ar ddetholiad ohonynt isod.

Dechreuwyr

Dysgwyr Canolradd

Dysgwyr Uwch

Mae gan bob myfyriwr ac aelod o staff fynediad at yr holl gyrsiau ar LinkedIn Learning, gan gynnwys y rhai ymarferol hyn, drwy eich cyfrif LinkedIn Learning Prifysgol Aberystwyth rhad ac am ddim. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am LinkedIn Learning neu am gael mynediad i unrhyw gynnwys a grybwyllwyd yn y blogbost hwn, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk), neu dewch â’ch cwestiynau i un o’n sesiynau galw heibio wythnosol!

TipDigi 9 – Recordio eich sgrin yn uniongyrchol yn PowerPoint 🎥

Os oes angen i chi gynnwys recordiad sgrin yn eich cyflwyniad PowerPoint, gallwch wneud hynny’n uniongyrchol yn PowerPoint heb orfod defnyddio unrhyw feddalwedd arall! Agorwch PowerPoint, ac yna gwyliwch y fideo isod neu dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:

  • Dewiswch Recordio (Record)
  • Dewiswch Recordio Sgrin (Screen Recording)
  • Agorwch y dudalen yr ydych am ei recordio
  • Cliciwch ar Dewiswch yr Ardal (Select Area) a dewiswch yr union ran o’r sgrin yr ydych am ei recordio
  • Dewiswch Sain (Audio) os ydych am recordio sain gyda’ch fideo
  • Dewiswch Recordio (Record) (dylech weld 3, 2, 1 ar eich sgrin cyn bod y recordio’n dechrau) a chwblhewch eich recordiad
  • Pan fyddwch wedi gorffen eich recordiad, gadewch i’ch llygoden hofran ar dop y sgrin a dewiswch Stop (Stop)
  • Bydd eich recordiad sgrin yn cael ei ludo’n awtomatig yn eich cyflwyniad PowerPoint
  • Gallwch olygu eich recordiad drwy glicio ar eich recordiad a dewis Chwarae (Playback)

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

Seminar YBacA (28 Mawrth): Apiau symudol ar gyfer ymchwil, cymorth neu elw

Person Holding Silver Android Smartphone with apps displayed on the screen

Ar Ddydd Mawrth 28.03.23 (12:00-14:00), bydd yr adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi yn cynnal seminar wyneb yn wyneb i helpu ymchwilwyr i benderfynu a yw eu syniad am ap yn ymarferol a sut i fynd ati i wneud iddo ddigwydd.

Bydd y seminar yn cael ei arwain gan yr Athro Chris Price o’r Adran Gyfrifiadureg. 

Am ragor o wybodaeth, ac i archebu eich lle, ewch i dudalen y digwyddiad.

Ymunwch â’r dosbarth meistr Marchnata Digidol (8 Chwefror)

A hoffech chi ddysgu sut i ddefnyddio marchnata digidol i hyrwyddo eich Busnes neu Fenter Gymdeithasol?

Woman holding a tablet

Bydd AberPreneurs, sy’n rhan o Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, yn cynnal digwyddiad ar-lein cyffrous, Digital Marketing Masterclass gyda Francesca Irving o ‘Lunax Digital’ ar Ddydd Mercher 8 Chwefror (2yh).

Ymunwch â’r weminar ar-lein drwy MS Teams.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â aberpreneurs@aber.ac.uk.